Neidio at y cynnwys

S4C

TRWBWL YN TENERIFE!

Bydd ffans y gyfres gomedi Mawr! yn adnabod Beryl, Cheryl a Meryl, y ffrindiau o Gaernarfon sy'n gweithio mewn siop deithio. Mae'r merched yn ymddangos yn eu ffilm gyntaf un, ac maen nhw'n ecseited bost! Tudur Owen, sy'n chwarae Beryl ac sydd wedi sgriptio'r ffilm, sy'n rhoi 'bach o'u hanes.

Ers y diwrnod cafodd tair ffrind o'r enw Beryl, Cheryl a Meryl eu gwahardd o'r chweched dosbarth am 'ymddygiad anweddus ac aflan' tra ar drip hanes i Carlisle, maen nhw wedi bod yn agos iawn. Dyma ffrindiau oes sydd wedi bod trwy'r felin gyda'i gilydd, wedi cael profiadau mawr a bach, ond wastad yn rhannu pob dim.

Maen nhw'n ferched busnes heb eu hail ac yn ymfalchïo eu bod yn fodlon mynd 'yr holl ffordd' i sicrhau fod pob cwsmer yn cael eu bodloni.

Mae eu hoedran yn ddirgelwch mawr, cyfrinach sy'n cael ei chadw rhwng y tair, ac ambell swyddog pasport sy'n ddigon dewr i ofyn.

Beryl yw'r unig un sydd â phlentyn, Macaulay Gonzalez. Mae Macaulay bellach yn 17 oed ac yn cael ei adael gartref ar ben ei hun am y tro cyntaf eleni, tra bod ei fam yn mynd ar wylia gyda'i dwy ffrind.

Gan fod Meryl yn byw gyda'i thad sy'n cael ei bacio i ffwrdd i gartref preswyl Pastures New ac mae Cheryl yn byw ar ben ei hun, does dim yn rhwystro'r tair rhag cau'r siop a hedfan i ffwrdd am wythnos o 'Haul, Hwyl a Hawdidws'.

Dyma i chi syniad o'r hyn sy'n digwydd trwy eu cardiau post, ond er mwyn gweld yr hanes yn llawn, bydd yn rhaid gwylio'r ffilm.

Tenerife, mae'r genod yn dŵad! Be all fynd o'i le?

Beryl

Annwyl Macaulay,

Haia babs! Mae Mam yn cael amser ffantastic yn Playas Des Lost Americans. Mae Meryl in love yn barod ac mae Cheryl yn ffansïo rhyw foi sydd ddigon hen i fod yn daid iddi.

Gobeithio bod chdi ddim yn methu fi gormod ond paid â phoeni, fydd Mam adra'n fuan. Pizzas yn y freezer ond cofia dynnu'r plastic off cyn rhoid nhw yn y popty y tro yma. Dwi'm isho dynion tân draw eto – wel, ddim tan dwi adra eniwê!

Lyfio chdi loads babs a gweld chdi'n o fuan.

Mam

P.S. Plîs paid â sbïo ar y red hot channels 'na, mae o'n costio ffortiwn a 'di o ddim yn dda i chdi chwaith.

Lyf iw, Xxx

Meryl

Annwyl Dewi,

Ola o Tenerife!! Gobeithio fod Dad 'di setlo'n iawn yn Pastures New. Dwi'n gwbod ei fod o mewn dwylo da efo chdi yn rhedeg y cartref. Wedi ffeindio lle i aros o'r diwedd a 'di cyfarfod boi lyfli o South Wales sy'n ffansio fi felly mae pethe ar i fyny – neu mi oedden nhw pan ddaru fo ddringo allan o'r pwll diwrnod o'r blaen!

Mae Cheryl yn flin am ryw reswm, dwi'n meddwl fod hi'n jealous. Ac mae Beryl yn poeni am Macaulay adra ar ben ei hun. Dwi mor lwcus fod gen i ffrind fel chdi i edrach ar ôl pethe i mi.

Gobeithio fod Dad ddim yn hambygio'r residents eraill a bod o ddim 'di blocio'r toilet eto.

Asda Lavista Baby!

Meryl Xxx

Cheryl

Annwyl Cleaner (Sori, dwi'm yn cofio be 'di'ch enw chi),

Gobeithio bod chi'n oce ac wedi ffeindio'r goriad yn iawn. (Wel os 'da chi'n darllen hwn mae'n rhaid bod chi 'di ffeindio fo). Eniwê jyst cwpwl o bethe nes i anghofio deud cyn mynd.

Dwi 'di rhoi llond pot o fwyd i'r pysgod so fyddan nhw'n iawn. Dwi'm yn cofio os nes i fflyshio'r toilet cyn mynd. Os nes i ddim, dwi'n riiiili sori! Oeddwn i 'di ecseitio am bo fi'n mynd ar fy holidays!

Gai ofyn ffafr plîs – newch chi newid y sheets ar y gwely. Rhowch y rhai satin du efo'r japanese motif ar plîs – ond gwnewch yn siŵr eu bod yn lân! Os nai chware fy nghardia yn iawn dwi'n meddwl fydd gen i gwmni yn dŵad adra efo fi!!

TTFN

Cheryl

P.S. Helpwch eich hun i banad a bisged, ond dim byd arall! Dyna pam rois i sac i'r cleaner dwytha.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales