Neidio at y cynnwys

S4C

Shân Cothi

Ar ddydd Nadolig bydd Shân Cothi yn cyflwyno rhifyn arbennig o'i rhaglen boblogaidd gyda gwesteion arbennig iawn.

Yn ymuno â hi yn y rhaglen awr o hyd bydd y Tri Thenor Cymreig, Aled Hall, Rhys Meirion ac Alun Rhys Jenkins; telynores y Tywysog Charles, Claire Jones; a'r actores a'r gantores amryddawn Ruth Madoc.

"Maen nhw'n dweud bod pethe da mewn bywyd yn dod mewn pecynnau bach o dri. Dyma dri o gantorion gorau Cymru mewn pecyn bach perffaith!" meddai Shân am y tri thenor Cymreig. "Dwi'n nabod y tri ohonyn nhw yn unigol, ond byddwn i'n hoffi gwybod pwy gafodd y syniad gwych o ddod a'r tri ohonyn nhw at ei gilydd," ychwanega Shân.

Yn ogystal ag esbonio beth ysgogodd y tri i uno, bydd y tenoriaid yn perfformio dwy gân yn cynnwys deuawd â Shân i gloi'r rhaglen.

Ail westai Shân fydd y delynores Claire Jones, sy'n dod o Grymych. Bydd hi'n trafod ei phrofiadau fel telynores y tywysog, a'r cyfleoedd mae'r swydd yn eu rhoi i gerddor ifanc. Yn drydydd, bydd Ruth Madoc yn camu i'r llwyfan i berfformio Everything's Coming up Roses o'r sioe gerdd Gypsy. Bydd hi'n hel atgofion am ei gyrfa lwyddiannus ar y sgrin ac ar lwyfannau sioeau cerdd.

  • Shan Cothi
  • Shan Cothi
  • Shan Cothi

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales