Y Sioe/09
Diweddarwyd: Mehefin 2009
Mae'r gwanwyn yn y tir ac rydyn ni'n dechrau meddwl am y Sioe Fawr. Mae yna lawer o waith paratoi ar gyfer yr 20fed - 23ain o Orffennaf eleni.
Dilynwch y datblygiadau ar y wefan hon o wythnos i wythnos tra bod y diwrnod mawr yn nesau wrth i gyflwynydd y we, Evan Rowlands deithio'r wlad i weld beth sy'n mynd 'mlaen.
Mae pethau'n brysur iawn yn Sir Forgannwg sy'n noddi'r Sioe eleni. Dymuniadau gorau i bawb sydd wrthi'n paratoi.
Amanda Harries





