Neidio at y cynnwys

S4C

Teithiau tramor

Trip Clwb Ffermwyr Ifanc i Kenya

Joy Cornock
2010-09-13

Mae teithio gyda Mudiad y Ffermwyr Ifanc wedi apelio ataf erioed. Penderfynais ymgeisio am le ar y daith i Kenya gan fy mod yn ysu am y cyfle i ymweld â gwlad sy'n datblygu. Mae nifer o wledydd ar gael i aelodau Mudiad y Ffermwyr Ifanc ymweld â nhw gan gynnwys Seland Newydd, Awstralia a Chanada i enwi ond ychydig. Hefyd ar y daith oedd 5 aelod arall o MFfI Cymru a 7 o Loegr.

Treuliais yr wythnos gyda theulu Mwangi ger pentref Gatura. Roedd y tŷ yma yn debyg iawn i hen feudy fferm. Nid oedd trydan yno, defnyddir tân i baratoi’r bwyd ac roedd y tŷ bach, sef twll yn y llawr mewn sied ar waelod yr ardd.

Roedd gweithgareddau penodol wedi eu trefnu ar ein cyfer gan gynnwys plannu coed a llysiau a helpu i hel yr anifeiliaid a godro. Synnais nad oedd angen clymu’r gwartheg ac roeddent yn hapus iawn i sefyll yn stond. Yn ogystal â hyn gwelsom y dechneg o droi llaeth mewn i fenyn, hel dŵr o’r afon, pigo a phwyso tê ac yna dilyn y broses draw yn Ffactori Tê Ngere. Hefyd, roedd cyfle i droi llaw at wau matiau a basgedi a dysgu am draddodiadau moddion naturiol.

Yn ystod y daith aethom i ymweld ag Ysgol Gynradd Karangi, Canolfan Iechyd Karangi ac Ysgol Uwchradd Kimande. Roedd nifer o’r disgyblion llai academaidd yn astudio yng ngwyliau’r hâf er mwyn gwella ar eu canlyniadau.

Rhai o'r uchafbwyntiau oedd ein hymweliad â Saffari Hell’s Gate lle gwelsom nifer o sebraod, baedd ysgithrog, jiraffod a udfilod; canu a chymryd rhan mewn gwasanaeth yn yr Eglwys; ymlacio gyda chwrw Tusker yn Dafarn Muchegi ac, wrth gwrs, cyn terfyn y daith cawsom fwyta yn y bwyty enwog, ‘Carnivore’.

Mae’r daith wedi bod yn brofiad bythgofiadwy ac rwy’n argymell bob aelod o’r Ffermwyr Ifanc i deithio gyda’r Mudiad http://www.yfc-wales.org.uk/tramor.php. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i'm noddwyr am eu harian a'u cefnogaeth garedig. Daeth tristwch mawr drosof pan glywais nad yw eitemau o ddillad sy’n cael eu rhoi i Oxfam yn mynd yn syth i deuluoedd difreintiedig. Yn hytrach, mae’r llywodraeth yn Kenya yn gwerthu’r nwyddau fel modd o godi arian. Pe byddech yn dymuno anfon dillad, nwyddau neu arian yn uniongyrchol i deuluoedd yn ardal yr Aberdare, yma gyrrwch at:

Julia Wanjiru Mwangi
Karangi Kiana Primary School
P.O. Box 176
Gatura Thika
Kenya

Noddwyd yn garedig gan:
Cyngor tref Abergwaun ac Wdig
John Lewis a’i deulu, Spittal
Victoria Dwyer & Colin Davies, Abergwaun
E H James a’i gwmni, Abergwaun
Dairy Care Cyf
Allpump water treatment services
Penybryn Motors, Letterston
Sarah’s Newsagents, Maenclochog
David Bowen & Co. Cyfrifydd
Gwilym J Morris a’i Fab
Vergam Dental Practise
Mr & Mrs J Lewis, Little Newcastle
Enid White, Crete
B & M Morgan, Gwaun Garage
Alta
Mrs M P Jeffreys, Scleddau
Cyngor Scleddau
Arfon and Myfanwy Williams, Maenclochog Hardware Store
Mr and Mrs G Thomas, Pantycoch
Gareth Raw Rees Memorial Award, NFU
Wern Road Motors
YFA



Cneifio yn Seland Newydd

Lowri Williams
2010-05-06

Mae Lowri Williams yn gystadleuwraig trin gwlân ac wedi cystadlu yn y Sioe Frenhinol nifer o weithiau. Penderfynodd Lowri fynd i Seland Newydd i ddysgu am draddodiadau ffermio ar ochr arall y byd. Enillodd Lowri ysgoloriaeth amaethyddol Gareth Raw Rees NFU Cymru a defnyddiodd yr arian i gyllido'r daith. Mae Lowri bellach wedi dyweddïo gyda Gareth L Evans, sef un o gneifwyr tîm Cymru fydd yn cystadlu ym Mhencampwriaethau'r Byd Cneifio yn Sioe Frenhinol Cymru 2010. Aeth Tîm Cymru allan i Seland Newydd i gneifio ac i gystadlu mewn sioeau. Dyma adroddiad Lowri o'i hamser yn Seland Newydd

Fe lanio ni yn Seland Newydd ar y 25ain o Dachwedd a chael 10 diwrnod o law!! Ddim yn argoeli yn dda am y tymor i ddod ond erbyn y 3ydd o Ragfyr roedd yn amser gweithio.

Roedd 8 ohonym yn byw yn y Riverside – 5 Cymro, 2 Albanwr ag 1 bachgen o Awstralia. Roedd Gareth Evans (fy narpar wr) a minnau, a Gareth Daniel wedi sicrhau cyfnod yn gweithio i Dean a Gillian Ball.

Roedd rhaid gweithio'r rhan fwyaf o Ragfyr gydag ychydig iawn o ddiwrnodau i ffwrdd a'r tywydd yn wlyb. Bum yn gweithio hyd at y 24ain o Ragfyr cyn cael tridiau i ffwrdd dros yr Ŵyl, amser i ymlacio a CHYMDEITHASU!!!

Bum yn gweithio wedi'r Dolig am 3 diwrnod cyn cael ychydig ddyddiau i ffwrdd i ddathlu’r flwyddyn newydd. Aeth y criw i lawr i Toupo – tua 15 ohonym ni yn Te Kuiti lle cawsom amser i gwrdd a Chymry eraill a oedd wedi bod yn gweithio mewn rhannau eraill o'r wlad.

Wedi'r gwyliau roedd yn adeg i Gareth a minnau i hel ein pac. Roeddem yn mynd ar ‘stay out’ i sied 8 stand yn Te Hapu ble oedd tua 25,000 o ddefaid i'w cneifio. Roeddem yn cychwyn gwaith am 5 yn y bore a gorffen am 5 y nos – felly roedd hi'n gyfleus iawn ein bod ni'n aros yn ymyl y sied. Braf iawn oedd cael gadael y sied ar y 10fed diwrnod a hel ein pethau a mynd yn ol am Te Kuiti.

Dychwelais adref ar yr 2il o Chwefror ac aeth Gareth i lawr at ynys y dê i weithio. Roedd wedi cael gwaith gan Mark Conroy yn Gore, sydd ar waelod yr ynys ac yn daith o 15 awr.

Cafodd tim Cneifio Cymru sawl cyfle i gystadlu mewn sioeau tra yn y dê. Yn anoffodus colli fu hanes y bechgyn yn y profion yn erbyn Seland Newydd, tîm a oedd yn cynnwys Johnny Kirkpatric a James Fagan

Erbyn y sioe yn Gore – roedd tîm Cymru yn gyflawn gyda Bronwen Tango a Meinir Evans yn trin y Gwlan, John Till yn cneifio gwelle a Bryan Puw a'i bartner yn arwain y tîm

Ar y 6/7fed o Fawrth cynhaliwyd cystadleuaeth y Golden Shears yn Marstaton. Enillydd y gystadleuaeth agored oedd Cam Ferseson ac o ganlyniad i'w fuddugoliaeth sicrhaodd ei le yn nhîm Seland Newydd ym Mhencampwriaeth y Byd. Bu'r ddau Gareth yn cystadlu yn y sioe ond yn anffodus doedd dim buddugoliaeth.

Wedi cyfnod o 7 wythnos yn y dê dychwelodd y ddau Gareth yn ol i'r gogledd i gystadlu mewn mwy o sioeau.

Sioe olaf y tymor oedd y NZ Shears – sef y sioe a fydd yn dewis yr ail aelod o dîm Seland Newydd ym Mhencampwriaeth y Byd yng Nghymru 2010. Mae'n sioe hynod o boblogaidd iawn ac yn denu cynulleidfa eang iawn. Ail gafodd Cymru yn y prawf gyda James Fagan a Johnny Kirkpatric yn ennill unwaith eto.

Roedd ffeinal yr "Open" yn gyffrous iawn gyda'r cneifwyr i gyd yn ysu i ennill i gael bod yn rhan o'r tîm a fydd yn cael teithio i Gymru. David Fagon enillodd, ac ef a Cam Feruson fydd yn cynrychioli Seland Newydd yng Nghymru dros yr Haf. Dychwelodd y ddau Gareth yn ol adre ar y 12fed o Ebrill – wedi osgoi'r tywydd mawr i gyd!


Lluniau o Seland Newydd