Ymunwch â Y Sioe/08 ar S4C i fwynhau'r holl uchafbwyntiau a'r gorau sydd gan Sioe Amaethyddol Cymru i'w gynnig, ar S4C yn analog, yn digidol ac ar-lein.
Uchafbwynt blynyddol calendr Amaethyddol Cymru ydy Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd, sioe sy'n denu dros 200,000 o ymwelwyr rhyngwladol dros y 4 diwrnod. Fe fydd cyfle ichi fwynhau holl uchafbwyntiau'r cystadlu, cwrdd a chymeriadau'r Sioe a llawer iawn mwy ar ddarllediadau a gwefan Y Sioe '08. Gyda bron i 100 awr o ddarlledu gwreiddiol o Faes y Sioe, bydd modd i chi ddilyn hynt a helynt y miloedd o gystadleuwyr o bob cwr o Gymru a'r byd. Ymunwch â Dai Jones a gweddill y criw i fwynhau blas o fywyd y Sioe, o'r anifeiliaid i'r cynnyrch o'r cystadlu i'r beirniadu a'r adloniant; holl liw a llun Sioe/08 ar S4C.
S4C - Rhaglenni uchafbwyntiau pob nos 20:25
S4C digidol - Yn fyw pob dydd o 10:00
Gwasanaeth di-dor o’r prif gylch a’r ail gylch drwy’r gwasanaeth botwm coch
© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales