Blog

Uchafbwyntiau dydd Mawrth

Rhodri ap Dyfrig
2011-07-19

Yn ôl y rhagolygon heddiw mae hi’n argoeli’n sych am y dydd felly cawn weld os bydd y torfeydd yn dod heddiw. Dyma’r prif ddigwyddiadau dydd Mawrth wedi eu dewis gan ein tîm.

Cobiau Cymreig

Bydd y prif gylch yn denu llawer o sylw’r bore ma gyda’r cystadlaethau Cobiau Adran A, C a D yn dechrau. Mae pobol o Wlad Belg, Yr Almaen, Yr Iseldiroedd ac Awstralia eisoes wedi bod yn gwylio’r ffrwd fyw o’r Prif Gylch gan ddangos poblogrwydd y cystadlaethau hyn.

Cneifio

Bydd y bencampwriaeth iau Pfizer yn digwydd yng Nghanolfan Gneifio Meirion, gyda’r rownd gynderfynol yn dechrau am 12:00 a’r ffeinal am 13:30.

Pen y Polyn!

Bydd y rowndiau rhagbrofol am 10:30, 12:30 a 15:00 yn yr ardal goedwigaeth wedi’i ddilyn gan y rownd derfynol ar gyfer y gystadleuaeth am 17:00. Rhowch dro arni eich hun drwy chwarae ein gêm: Pen y Polyn.

Gwartheg Bîff - Tîm o 5

Am 15:00 bydd y gystadleuaeth NatWest ar gyfer tîmau o 5 buwch wedi eu dewis gan gymdeithasau’r bridiau. Mr Trebor Edwards fydd yn beirniadu.

Rydyn ni eisiau clywed ganddoch chi felly cysylltwch ar ein tudalen Facebook, Twitter neu ein negesfwrdd.