Blog
- Uchafbwyntiau Dydd Mawrth
- 2 ddiwrnod i fynd!
- Darlledu dwyieithog o'r Ffair Aeaf
- Awyrgylch Nadoligaidd yn cynhesu'r Ffair Aeaf
- Ceffylau a siopa
- Edrych ymlaen at y Gwartheg a'r Neuadd Fwyd
- Croeso i wefan Y Ffair Aeaf
- Uchafbwyntiau’r diwrnod olaf
- Uchafbwyntiau Dydd Mercher
- Uchafbwyntiau dydd Mawrth
- Pigion Dai a Wyn o ddydd Llun
- Uchafbwyntiau Dydd Llun
- Edward Tudor Jones yn edrych ymlaen at y Sioe
- Ar drothwy'r Sioe
- Edrych ymlaen i'r cneifio
- Cyflwyniad i'r cyflwynwyr
- Bwyta!
- Wyn Gruffydd ar y Sioe
- Croeso i'r wefan
Blog
Uchafbwyntiau’r diwrnod olaf
Rhodri ap Dyfrig2011-07-21
Bore sych a chydig o niwl dros fryniau Sir Frycheiniog ar gyfer diwrnod ola’r Sioe. Rydyn ni wedi mwynhau’r wythnos yn fawr a gobeithio y gallwch chi barhau i fwynhau drwy ddal fyny ar yr hyn na lwyddoch chi i’w weld yn ystod eich amser yma. Mae uchafbwyntiau nifer fawr o’r cystadlaethau ar gael ar ein gwefan i’w gwylio eto.
Felly ymlaen at bigion ein tîm ar gyfer dydd Iau’r Sioe:
Prif Gylch
Y bore ma fe welwn y beirniadu ar gyfer yr adrannau B a C, sef y Merlod Cymreig (adrannau 42-49) a’r Merlod Cymreig o fath Cob (adrannau 65-73). Ymunwch â Wyn Gruffydd a David Oliver am sylwebaeth fyw o’r Prif Gylch drwy’r dydd.
Defaid
Y bore ma am 09:30 bydd y bencampwriaeth grŵp defaid rhyngrfrid. O fewn y grŵp rhaid cael un gwryw, un ddafad ac un oen banw.
Pencampwriaeth Tom & Sprightly a Cuddy
Bydd Dai yn ymuno â David Oliver yn y Prif Gylch ar gyfer y ddwy gystadleuaeth hyn. Yn y Tom & Sprightly fe wobrwyir y Ferlen neu Gob Cymreig orau yn y Sioe. Bydd ennillydd y bencampwriaeth Cuddy mewn llaw yn mynd ymlaen i gystadlu yn y Horse of the Year Show.
Treialon Cŵn Defaid
Am 13:15 yn y Prif Gylch bydd pinacl cystadlu’r treialon cŵn defaid, gyda Phencampwr y Pencampwyr. Bydd Dai yno gyda Meirion Jones.
Bridiau Bîff Brodorol
Am 10:00 gwelir y bencampwriaeth bridiau bîff brodorol ac yn sylwebu bydd Edward Tudor Jones a Tudor Williams. Yn y gystadleuaeth hon bydd grŵp o 3: un tarw a dwy heffer.
Cofiwch adael eich sylwadau neu gwestiynau i ni ar y negesfwrdd, Facebook a Twitter.
Mwynhewch y dydd!
