Blog

Croeso i wefan Y Ffair Aeaf

Tim Cynhyrchu
2011-11-14

Pythefnos i heddiw byddwn yng nghanol ein darllediadau byw o'r Ffair Aeaf yn Llanelwedd. Mae’n anodd credu bod yr Ŵyl, sydd erbyn hyn yn un o uchafbwyntiau’r calendr amaethyddol yn 22ain oed eleni. Eleni eto bydd y maes yn llawn o siopau a stondinau yn gwerthu nwyddau nadoligaidd a’r neuadd fwyd yn orlawn. Er bod sioeau’r haf yn hen hanes erbyn hyn mae trinwyr anifeiliad Cymru benbaladr yn paratoi i orffen y flwyddyn ar nodyn uchel.

Mae holl griw S4C yn edrych ymlaen at gwrdd â’r cystadleuwyr ag holl ymwelwyr yr Ŵyl. Wedi’r oerfel y llynedd, (-14!) byddwn yn dod â’r bwrlwm yn fyw o’r maes yn Llanelwedd i’ch cartrefu cysurus a chlud drwy'r wefan hon a darllediadau S4C. Bydd y wefan yn rhoi blas ar yr hyn fydd i'w weld yn ystod y Ffair Aeaf wrth i ni ymweld â phobl led-led Cymru yn paratoi at y digwyddiad.

Ymunwch â grwp facebook Y Ffair Aeaf, dilynwch ni ar Twitter a chofiwch adael neges i ddymuno pob hwyl i bawb sydd yn cystadlu yn y Ffair neu holi gwestiwn i'r criw cynhyrchu. Pwy a wyr efallai bydd eich neges yn cyrraedd y sgrin deledu!

Ymunwch yn y bwrlwm yn fyw o faes y Ffair yn ddyddiol ar S4C a'r wefan hon o 10:00 tan 16:00 ac yna 60 munud o uchafbwyntiau nosweithiol am 20:25. Byddwn yn darlledu'r uchafbwyntiau o Brif Pencampwriaeth y gwartheg i gystadleuthau Mudiad y Ffermwyr Ifanc. Dai Jones, Nia Roberts, Eleri Sion ,Ifan Jones Evans, Edward Tudor Jones, Wyn Gruffydd a David Oliver fydd wrth y llyw. Eleni am y tro cyntaf byddwn yn darlledu yn fyw o faes y Ffair ar y nos Sul am 19:30, lle bydd cyfle i brofi'r cyffro ar y maes wrth i bawb osod eu stondinau a pharatoi eu anifeiliaid.