Blog

Edrych ymlaen at y Gwartheg a'r Neuadd Fwyd

Alaw Owen
2011-11-14

Mae prynnu rhifynnau wythnosol o gylchgronau a phapurau ffermio, gwylio pob rhaglen deledu amaethyddol dan haul, a holi Dad dros bryd o swper pwy oedd yn Sêl Ruthin ddoe, yn golygu un peth, ac un peth yn unig – bod y Ffair Aeaf yn nesau!!

Ar ôl clywed am ddŵr yn rhewi o fewn munudau mewn potel, a phobol yn cysgu gyda mwy nag un “sleeping bag” yn eu ceir (a dod adre efo’r ffliw!) llynedd, mi fysa’n deg i ddweud mod i wedi bod yn lwcus i fethu oerfel y Ffair llynedd. Eleni, dwi’n edrych ‘mlaen hyd yn oed yn fwy na’r arfer i gael bod ynghanol bwrlwm ac awyrgylch hudolus y Ffair.

‘Dani gyd bellach wrth ein desgiau yn ein swyddfa unigryw yn prysur baratoi ar gyfer ein rhaglenni o Lanelwedd ar y 28ain a 29ain o Dachwedd, ac ymysg yr holl adrannau sydd i’r Ffair dwi’n gyfrifol am adran y Gwartheg a’r Neuadd Fwyd. Felly yn yr wythnosau diwethaf dwi wedi bod yn gwneud ambell i alwad ffon i holi a sgwrsio ac wedi bod yn hel syniadau i fod yn ran o raglen deuddydd arbennig! Ac wrth baratoi, mae dipyn o bethau dwi’n barod yn edrych ymlaen i’w gweld.

Yn adran y gwartheg, pwy all anghofio llwyddiant y bustach Jager Bomb a’i berchennog Tecwyn Jones, Nebo, a’r heffer Minni M a’i pherchennog M L Howatson, Dinbych yn y Sioe Frenhinol. Ac yn dilyn llwyddiant ysgubol Miss C Alford gyda Poker Face ym Mhrif Bencampwriaeth y Ffair llynedd, dwi’n meddwl ei bod hi’n mynd i fod yn anodd cadw draw o gynwrf y Cylch Gwartheg eleni wrth i Eidion gorau’r wlad gystadlu am eu lle ar lwyfan y digwyddiad. Cyffrous iawn!!

O Wartheg da wrth gwrs, cewch gig da, a gyda’r linc esmwyth yna, symudai’n mlaen i ddweud ‘chydig am y Neuadd Fwyd (adran sy’n annodd iawn ei ymchwilio ar fol gwag, coeliwch fi!). Boed yn gig o’r safon uchaf, yn felysion i fodloni’ch ‘taste buds’, neu’n anrhegion i’r teulu, dachi’n siwr o gael llond ‘bag for life’ o bethau neis yn fama. Dyma lle cewch ddarganfod cynnyrch cymreig ar ei orau – i ddweud y gwir mae’n gwneud y brechdan ham sgennai’n y ‘fridge’ i ginio edrych yn ddiflas iawn! Felly gwnewch yn siwr eich bod yn ymwled â stondinau’r neuadd fwyd, a chael ambell i fins pei tra fyddwch yno!

Hwyl am y tro
Alaw