Blog
- Uchafbwyntiau Dydd Mawrth
- 2 ddiwrnod i fynd!
- Darlledu dwyieithog o'r Ffair Aeaf
- Awyrgylch Nadoligaidd yn cynhesu'r Ffair Aeaf
- Ceffylau a siopa
- Edrych ymlaen at y Gwartheg a'r Neuadd Fwyd
- Croeso i wefan Y Ffair Aeaf
- Uchafbwyntiau’r diwrnod olaf
- Uchafbwyntiau Dydd Mercher
- Uchafbwyntiau dydd Mawrth
- Pigion Dai a Wyn o ddydd Llun
- Uchafbwyntiau Dydd Llun
- Edward Tudor Jones yn edrych ymlaen at y Sioe
- Ar drothwy'r Sioe
- Edrych ymlaen i'r cneifio
- Cyflwyniad i'r cyflwynwyr
- Bwyta!
- Wyn Gruffydd ar y Sioe
- Croeso i'r wefan
Blog
Ceffylau a siopa
Caryl Brown2011-11-14
Wel mae gwaith y Ffair Aeaf wedi cychwyn i ni’r tîm cynhyrchu yn Aberystwyth. Mae’n anhygoel pa mor gyflym mae’r ffair yn dod rownd. Dwi dal yn gallu teimlo oerfel llynedd; -14 ar un pwynt!!
Eleni unwaith eto dwi yng ngofal y cylch ceffylau, felly beth sydd i’w ddisgwyl? Eleni mae’r niferoedd i lawr yn adrannau’r A,B,C a D ond mae niferoedd y bridiau eraill wedi codi, yn enwedig yn y Rhan-frid Cymreig a ceffylau chwaraeon. Ond pwy fydd yn fuddugol eleni? Beth am atgoffa ein hunain o rai enillwyr y sioe eleni a’r ffair llynedd.
Yn yr haf bu Stonedge Samuel yn lwyddiannus iawn wrth iddo gael ei enwi’n bencampwr yr Adran A cyn ymlaen i ennill y Brif Bencampwriaeth mewn llaw a’r Cuddy. Aeth Cwpan fythol Tom & Sprightly i Bencampwr Adran D sef Abergavenny Morning Queen oedd berchen i deulu Batt.
Prif enillwyr y Ffair Aeaf llynedd oedd Gwenllan Brenhines Mai o deulu Davies, Bridfa Gwenllan ym Mhencampwriaeth Cymru. Llanidan Truffle a’i berchennog Henrie Leeuwenhaag gipiodd y Brif Bencampwriaeth, gyda Huw Reed o Fridfa Tyngwndwn yn ei arddangos yn y cylch.
Yn ogystal a gweld yr holl anifeiliaid mae’r ffair yn gyfle gwych i wneud ychydig o siopa Nadolig. Mae ‘na rhywbeth i bawb yn y neuadd anrhegion ac mae hyd yn oed Santa yn galw heibio - felly ewch i’w weld yn ei grotto.
Bydd mwy o wybodaeth a chlipiau fideo ar y wefan yn agos at y Ffair a chofiwch ymweld a’n tudalennau facebook a twitter!
Hwyl am y tro
Caryl
