Blog

Awyrgylch Nadoligaidd yn cynhesu'r Ffair Aeaf

Tim Cynhyrchu
2011-11-17

Bydd tyrfaoedd yn heidio i Lanelwedd eto eleni ar gyfer Y Ffair Aeaf ar 28 a 29 Tachwedd a bydd S4C yn eu plith gyda darllediadau byw o’r maes a rhaglenni o uchafbwyntiau’r gweithgareddau.

Dai Jones, Nia Roberts, Ifan Jones Evans ac Eleri Siôn sy’n cyflwyno’r rhaglenni, ar 28 a 29 Tachwedd, gyda’r arlwy yn dechrau yn fyw am 10:00 y bore.

Gyda’r nos bydd cyfle i fwynhau uchafbwyntiau’r dydd gyda sylw i oreuon y cystadlu yn y cylchoedd a'r gweithgareddau ar y maes. Cawn flas hefyd ar y gwerthu a’r stondinau bwyd.

"Cawsom ni dywydd ofnadwy'r llynedd. Roedd hi’n rhewi’n galed a dim dŵr ar gyfer golchi’r anifeiliaid," cofia Dai Jones, Llanilar. "Dydy hi ddim yn sioe hawdd i ddod iddi, ond mae torf yn heidio yma bob blwyddyn, ac mae pobl yn cydnabod mai hon yw’r sioe Nadolig orau ym Mhrydain."

Mae’r Ffair Aeaf yn cloi blwyddyn o weithgareddau amaethyddol ac mae Dai yn credu bod yna deimlad hyfryd amdani am ei bod hi’n sioe lai, ac yn agos at y Nadolig.

"Mae llawer yn dod yma i wneud eu siopa Nadolig gyda stondinau o grefftau cartref yn cynnig anrhegion sydd ychydig yn wahanol, ac am bris teg hefyd," ychwanega Dai.

"Ond yr arddangos a’r cystadlu sydd bwysicaf i lawer. Ac nid yr ennill sy’n bwysig chwaith. Rhaid cofio mai un dyn yng nghanol y cylch sy’n dewis pwy sy’n cael y rhuban, ond mae yna hefyd llond sied o feirniaid o’ch amgylch, ymhlith y cyhoedd, ac mae eu barn nhw yn cyfri llawn cystal."

Mewn rhaglen arbennig ar nos Sul, 27 Tachwedd, bydd Dai a’r tîm yn cwrdd â rhai o’r cystadleuwyr a’r trefnwyr wrth baratoi ar gyfer y Ffair.

"Dwi wrth fy modd ar y dydd Sul ynghanol y paratoadau yn gwylio’r anifeiliaid yn dod i mewn a chael siarad gyda’r teuluoedd," meddai Dai.

"Ry’ ni’n cael clywed eu hanesion a chwerthin wrth glywed rhai o’r troeon trwstan fu wrth ddod â’r anifail i’r maes. Y teimlad yma o gymdeithas glos yw fy hoff beth am Y Ffair Aeaf."

Y Ffair Aeaf '11
Llun a Mawrth 28 a 29 Tachwedd
Yn fyw o'r maes 10:00 tan 16:00, S4C
Uchafbwyntiau’r dydd 20:25, S4C  

Nos Sul 27 Tachwedd 19:30, rhaglen rhagflas yn dilyn paratoadau cyn y ffair. 

Isdeitlau Saesneg
Gwefan: s4c.co.uk/ffairaeaf
Ar alw: s4c.co.uk/clic
Cynhyrchiad Boomerang ar gyfer S4C