Blog
- Uchafbwyntiau Dydd Mawrth
- 2 ddiwrnod i fynd!
- Darlledu dwyieithog o'r Ffair Aeaf
- Awyrgylch Nadoligaidd yn cynhesu'r Ffair Aeaf
- Ceffylau a siopa
- Edrych ymlaen at y Gwartheg a'r Neuadd Fwyd
- Croeso i wefan Y Ffair Aeaf
- Uchafbwyntiau’r diwrnod olaf
- Uchafbwyntiau Dydd Mercher
- Uchafbwyntiau dydd Mawrth
- Pigion Dai a Wyn o ddydd Llun
- Uchafbwyntiau Dydd Llun
- Edward Tudor Jones yn edrych ymlaen at y Sioe
- Ar drothwy'r Sioe
- Edrych ymlaen i'r cneifio
- Cyflwyniad i'r cyflwynwyr
- Bwyta!
- Wyn Gruffydd ar y Sioe
- Croeso i'r wefan
Blog
Bwyta!
Ffion Davies2011-07-13
Mae diwrnod yn y Sioe yn gallu bod yn un go hir wrth grwydro'r 90 erw o bebyll, cylchoedd a'r meysydd gwahanol sydd i'w weld ar y maes. Un peth sydd yn sicr, gyda chymaint o fwydydd blasus o amgylch y maes, fyddwch chi ddim yn cerdded ar fola gwag ar faes y Sioe!
Os bydd hi'n braf dros wythnos y Sioe bydd llawer o fynd ar yr hufen ia. Mae'r amrywiaeth o gwmniau sydd yn cynhyrchu Hufen Ia yng Nghymru yn anhygoel a digon o flasau gwahanol, gyda rhywbeth at ddant pawb. Agorwyd neuadd fwyd newydd llynedd ac unwaith eto eleni bydd y neuadd yn llawn o gynnyrch Cymreig o gig i winoedd, llefrith i siocled. Bydd cyfle i ymwelwyr flasu'r cynnyrch amrywiol ac ei fwynhau adref wedi'r digwyddiad. I'r rhai ohonoch chi na fydd yn y Sioe bydd Nia Roberts yn eich tywys o amgylch y dantieithion yn ystod ein darllediadau byw ac yn rhaglen uchafbwyntiau'r nos.
I'r nifer ohonoch sydd yn aros yn y sioe yn flynyddol does dim angen poeni am bacio bwyd gan fod bwytai y Sioe yn cynnig brecwast, cinio a swper. Yn flynyddol, mae lleoliadau bwyd i'w cael ym mhob twll a chornel o'r Sioe ac amrywiaeth eang ohonynt hefyd, o sglods i frechdannau, bwyd Indiaidd i fwyd Tseiniaidd.
