Blog

Cyflwyniad i'r cyflwynwyr

Tim Cynhyrchu
2011-07-14

Dai Jones - Yn dilyn blwyddyn o lywyddu llynedd mae Brenin y Sioe yn ôl eleni eto. Bydd Dai Llanilar ar hyd a lled y maes trwy gydol yr wythnos yn ymweld ag atyniadau ac uchafbwyntiau arbennig y Sioe. Mae Dai wedi treulio'i fywyd ym myd amaeth ac wrth ei fodd yn cwrdd â phobol wrth grwydro'r maes. Bydd pencampwriaeth y gwartheg eidion yn siŵr o ddenu Dai yn ogystal â threialon y cŵn defaid.

Nia Roberts - Bydd Nia yn teithio o Eisteddfod Llangollen i Lanelwedd i gyflwyno rhaglenni byw'r dydd i chi ar S4C. Trwy gydol yr wythnos bydd Nia yn ymweld ag amrywiaeth o adrannau: o beiriannau i'r stondinau, y neuadd fwyd a'r adran coedwigaeth.

Shân Cothi - Shân fydd yn tywys y rhaglen uchafbwyntiau bob nos yn ystod wythnos y Sioe. Ym myd y ceffylau mae ei phrif ddiddordeb felly bydd hi'n edrych ar y brif gylch a'r cylch ceffylau. Bydd Shân hefyd yn crwydro'r maes i ymweld ag adrannau megis y babell arddwriaeth, coedwigaeth, y cynnyrch a gwaith llaw a hefyd yn ymweld â'r neuadd fwyd newydd a agorwyd llynedd.

Ifan Jones Evans - Ifan fydd yn cyflwyno ar gyfer adrannau'r dofednod, geifr, moch, ffwr a phlu, yr C.Ff.I a chneifio yn y Sioe eleni. Yn gyn aelod o Glwb Ffermwyr Ieuainc Trisant mae Ifan yn sicr o gael wythnos i'r brenin yng nghwmni aelodau'r mudiad.

Daloni Metcalfe - Yn frodor o Ddyffryn Conwy, mae amaeth yn amlwg yn greiddiol ym mywyd Daloni Metcalfe sydd yn treulio'r flwyddyn gyfan yn cwrdd â ffermwyr a chynhyrchwyr yma yng Nghymru gyda'i swydd ar Ffermio. Ymhlith y defaid fydd Daloni wythnos y Sioe yn cwrdd ag enillwyr y bridiau a chystadlaethau gwahanol.

Edward Tudor Jones - Bydd Edward yn treulio'i wythnos yng nghylch y gwartheg yn gwylio'r holl ddigwyddiadau o ben bore tan yr hwyr.

Wyn Gruffydd a David Oliver - Bydd Wyn a David, arbenigwyr byd y ceffylau, yn y blwch sylwebu yn y prif gylch trwy gydol yr wythnos. Bydd ffrwd fyw ddi-dor ar y wefan yn eu cwmni hwy drwy gydol y Sioe o 8yb hyd 5yh yn dod a holl gyffro'r brif gylch i chi adre.