Blog
- Uchafbwyntiau Dydd Mawrth
- 2 ddiwrnod i fynd!
- Darlledu dwyieithog o'r Ffair Aeaf
- Awyrgylch Nadoligaidd yn cynhesu'r Ffair Aeaf
- Ceffylau a siopa
- Edrych ymlaen at y Gwartheg a'r Neuadd Fwyd
- Croeso i wefan Y Ffair Aeaf
- Uchafbwyntiau’r diwrnod olaf
- Uchafbwyntiau Dydd Mercher
- Uchafbwyntiau dydd Mawrth
- Pigion Dai a Wyn o ddydd Llun
- Uchafbwyntiau Dydd Llun
- Edward Tudor Jones yn edrych ymlaen at y Sioe
- Ar drothwy'r Sioe
- Edrych ymlaen i'r cneifio
- Cyflwyniad i'r cyflwynwyr
- Bwyta!
- Wyn Gruffydd ar y Sioe
- Croeso i'r wefan
Blog
Edrych ymlaen i'r cneifio
Tim Cynhyrchu2011-07-14
Yn dilyn blwyddyn fythgofiadwy yn adran y cneifio llynedd mae’r cystadleuwyr yn ôl eto eleni am wythnos arall o gystadlu brwd.
Yn 2010 gwelwyd Pencampwriaethau Cneifio’r Byd ar faes y Sioe a chroesawyd pobol o ledled y byd i Gymru i fwynhau wythnos o gystadlu caled rhwng y gwledydd. Roedd nifer yn dweud nad oedd y ganolfan cneifio wedi denu cymaint o bobol o dan ei do erioed o’r blaen. Llwyddiant aruthrol i’r gystadleuaeth felly, a hefyd i’r Cymry fu’n cystadlu.
Er ni fydd Pencampwriaethau Cneifio’r Byd yno eleni bydd canolfan gneifio’r sioe dan ei sang a diddordeb mawr ym mrwdfrydedd ac angerdd y cystadleuwyr. Gyda gwobrau ariannol a gwyliau tramor yn y fantol mae cynnwrf yr adeilad yn cynyddu wrth i’r wythnos fynd yn ei blaen a llais y gohebwyr yn atseinio o amgylch y maes. Uchafbwynt yr wythnos heb os na nac oni bai yw’r frwydr fawr rhwng Cymru a Seland Newydd sy’n digwydd ar brynhawn Mercher y Sioe. Pwy fydd ar y brig eleni, y Cymry neu’r Kiwis?
Ifan Evans fydd yn sylwebu ar ran rhaglen Y Sioe felly gwyliwch ein darllediadau i fod yn rhan o’r cyffro.
