O Faes y Sioe


Mae digonedd o ddigwyddiadau ar faes y Sioe i lenwi cyfrolau, ac mae modd i chi weld y goreuon yma ar-alw. Byddwn yn cwrdd â rhai o gymeiradau'r sioe a gweld tu ôl i lenni sioe amaethyddol fwyaf Ewrop.

Wythnos y Sioe yw uchafbwynt calendr Clwb Ffermwyr Ifanc Cymru, wedi wythnosau o baratoi i'w raliau mae goreuon pob Sir wedi'i dewis i gystadlu yn Sioe 2012. Bydd yna dipyn o fwrlwm ar y dydd Iau wrth glywed pa ffederasiwn fydd ar y brig wedi wythnos o gystadlu brwd.