S4C

Close
Flash is required to view this video
Drama Newydd Nos Sul
Nos Sul am 21:00

Cymeriadau Sombreros

Er bod Elin ac Anna yn ddwy chwaer does ganddyn nhw fawr yn gyffredin. Mae Anna'n rhedeg gwesty crand ym Mallorca tra bo Elin yn crafu bywoliaeth yng Ngogledd Cymru. Prin mae'r ddwy'n gweld ei gilydd ond maen nhw'n gweld digon ar Mel, yr Arlunydd. Rhanna Mel ei amser rhwng Elin, ei wraig, ac Anna. Ond nid ei amser yn unig mae o'n rhannu ac mae'n syndod iddo gael cyfle i beintio o gwbl…

ELIN PARRY (Gwenno Elis Hodgkins)

Elin Parry

Gwraig Mel. Mam Sioned. Chwaer fach Anna. Ffrind pennaf Nansi. Byw o fewn tafliad carreg i'r môr yng Nghricieth, Gogledd Cymru. Hi sy'n ennill y cyflog tra bo'i gwr, Mel yr Arlunydd Mawr, yn dilyn ei freuddwyd. Dim llawer o bres ganddyn nhw ond mae byw bywyd i'r eithaf yn bwysicach iddi na phethau materol. Fawr o ddiddordeb ganddi mewn colur na dillad.

Emosiynol hael. Cynnes. Ffwrdd a hi. Hwyliog. Poblogaidd yn ei chymuned. Hoff o gymdeithasu, yn enwedig efo Nansi sy'n aml yn codi gwrychyn Sioned. Mae hi'n ennill ei bywoliaeth yn rhoi gwersi Pilates, ac mae cryn dipyn o fynd arnyn nhw oherwydd ei phersonoliaeth gynnes. Perthynas agos ganddi gyda Sioned ond mae ei pherthynas gydag Anna yn un hyd braich. Gan amlaf mae Elin yn barod i ddweud beth sydd ar ei meddwl ond mae ganddi un gyfrinach nad yw hi wedi ei rhannu efo neb.

ANNA RAMIREZ (Bestan Llwyd)

Anna Ramirez

Chwaer fawr Elin. Gwraig Carlos. Does ganddi'm plant ond mae hi'n addoli Pepe, ei chihuaha. Mae hi'n rhedeg y Casa de Toro, gwesty chic boutique ym Mallorca. Gyda'i brêns hi ac arian Carlos mae'r ddau yn gwneud tîm da - pan nad yw La Madre, mam Carlos, yn ymyrryd. Mae hi a La Madre'n casáu ei gilydd, efallai am fod La M yn gweld tu hwnt i'r façade. Perffeithydd. Licio bod in charge. Tydi hi byth yn yfed gan ei bod wedi cael problemau yn y gorffennol.

Yn ddeddfol bob bore, mae hi'n nofio yn y pwll ac yn ymgolli yng nglesni'r dwr tra'n hel meddyliau am ei dyfodol. Gosgeiddig a lluniaidd. Gwisgo'n smart bob amser. Gall ymddangos yn snobyddlyd a ffroenuchel ac o'r herwydd tydi hi'm yn gneud ffrindiau'n hawdd. Er ei bod wedi setlo ar yr ynys mae hi'n dal yn ynysig fel person. Chaiff hi byth mo'i derbyn gan La Madre am nad ydi hi, ac am na fydd hi chwaith, yn 'un ohonyn nhw'. Ond ai dyna'r rheswm dros atgasedd La M? Er ei bod yn ddigon hapus gyda Carlos mae Anna'n aros am ei chyfle am fywyd gwell - gyda Mel. Petai Sioned 'mond yn gwybod mi fydda hi'n amen ar eu cyfeillgarwch. A Duw a ŵyr be fyddai Elin yn ei ddweud.

MEL PARRY (Dyfed Thomas)

Mel Parry

Gwr Elin. Tad Sioned. Brawd yng nghyfraith Anna. Mae o'n rhannu ei amser - a'i dalentau - rhwng Cricieth a Mallorca. Arlunydd giami sy'n meddwl ei fod yn Arlunydd Mawr. Dipyn o charmer ac yn licio brolio am ei orchestion yn ei ddiod. Mae o'n ffansio'i hun fel rhyw Casanova ac yn ymhyfrydu yn ei rywioldeb a'i sex drive.

Tydi Mel ddim yn un am wynebu realiti ac yn aml mae o'n cuddio'i ben yn y tywod. Breuddwydiwr, rhamantydd sy'n cyd-fynd â'i alwedigaeth. Caru ei hun yn fwy na'r merched yn ei fywyd ond tydi o'm yn ddyn drwg, dim ond dyn gwan. Er gwaetha'i wendidau mae ganddo galon fawr. Licio mynd ar y môr yn ei gwch - Y Wennol.

SIONED PARRY (Sioned Wyn)

Sioned Parry

Merch Elin a Mel. Cannwyll llygaid ei thad ac mae ganddi berthynas dda gyda'i mam hefyd. Mae hi'n agos at ei modryb Anna er nad yw'r ddwy'n gweld ei gilydd yn aml. Caiff ei difetha gan Anna, sy'n dân ar groen ei mam. Mae Sioned yn disgwyl am ei chanlyniadau lefel A. Petai'n llwyddiannus gobeithia fynd i Gaerdydd i astudio Celf.

Merch greadigol, wahanol. Annibynnol. Tydi hi'm yn dilyn y lli. Mae hi'n falch o'i gwreiddiau ond mae hi'n barod i adael ei milltir sgwâr ac ehangu ei gorwelion. Edrycha mlaen at fynd i'r coleg er ei bod yn ymwybodol o amgylchiadau ariannol ei theulu. Ffrind agos i Dyl Death. Mae hi'n gyfforddus yn ei gwmni am ei fod yn ei deall. Ond tydi hi'm yn sylweddoli cymaint mae o'n ei haddoli. Fel nifer o'i chyfoedion mae Sioned yn meddwl ei bod yn gwybod y cwbl am fywyd ond tydi hi'm yn gwybod dim. Ond mi ddaw i ddeall yn ddigon buan.

DYL DEATH (Carwyn Jones)

Dyl Death

Unig blentyn DJ Williams, Trefnwr Angladdau yng Nghricieth. Ers gadael yr ysgol mae o wedi dechrau gweithio gyda'i dad yn llawn amser ond tydi o'm yn cîn. Mae meddwl am ddelio efo marwolaeth bob dydd am byth bythoedd yn codi'r felan arno. Dead end job go iawn! Hogyn annwyl, ffeind a hoffus ond mae o'n ddihyder ac mae marwolaeth yn ei ddychryn. Mae o ofn ei gysgod ei hun hefyd.

Ei ddileit mwya ydi coginio ac mi fydda'n licio bod yn chef. Ond does fawr o obaith am hynny a fynta am etifeddu'r busnes. Sioned yw ei ffrind gorau ac mae o sooo mewn cariad efo hi, er nad ydi hi'n ymwybodol o hynny. Cyfeillgarwch ddwfn, naturiol rhyngddyn nhw ond licia fo fynd ymhellach na hynny.

NANSI (Delyth Eirwyn)

Nansi

Gwraig ffarm - a gwraig i Dic. Mam Iddon a Tegid. Meddwl y byd o Elin ac yn casáu Mel - ac Anna. Dipyn o rebal yn ei dydd. Mentrus. Llawn hwyl. Halen y ddaear. Ateb Nansi i broblemau bywyd ydi potal o Merlot - a dawnsio i Queen.

Mae hi'n caru ei gwr ond mae'r rhamant a'r nwyd wedi pylu ar ôl blynyddoedd o briodas a llafurio ar y ffarm. Bellach mae ei gwr yn rhoi mwy o sylw i'w faharen - y Greyface Dartmoor - nag y mae o iddi hi. Mae Nansi'n crefu am dipyn o gynnwrf yn ei bywyd ond does fawr o obaith o hynny efo Dic.

DIC (Rhys Richards)

Dic

Ffarmwr cydwybodol, confensiynol. Gwr Nansi, tad Iddon a Tegid. Aelod ffyddlon o Gôr Meibion Afonwen. Dyn y pridd sydd wrth ei fodd ar y ffarm ac yn y caeau. Dio rioed 'di bod yn bellach na Sioe'r Royal Welsh.

Does ond un peth mae Dic yn ei drysori'n fwy na'i faharen - y Greyface Dartmoor - a bwyd ydi hwnnw. Mae o'n licio'i fwyd yn blaen, traddodiadol a rheolaidd. Er ei fod o'n ffarmwr heb ei ail does fawr o siâp arno'n y tŷ. Nansi sydd in charge yn fan'no. Dyn a'i helpo petai Nansi'n ei adael…

MANDY (Fflur Medi)

Mandy

Mae Mandy wedi bod yn byw yn Mallorca ers rhai blynyddoedd bellach ac yn gweithio gyda Gwalia Tours fel rep. Does ganddi'm teulu eto ac mae hi'n dyheu am un. Merch if anc, ddiniwed ond llawn rhamant a gobeithion am ei dyfodol. Wrth ei bodd ar yr ynys ac yn ffrindiau gyda Carmella, athrawes ddawns.

GARI (Dyfrig Evans)

Gari

Chef yng ngwesty Anna a Carlos Ffrind agos i Anna ers iddo ei chyfarfod yn Ibiza flynyddoedd yn ôl. Hedonistaidd. Ymfflamychol pan nad yw pethau'n mynd fel ag y dylen nhw yn y gegin. Fel arall mae o'n laid back iawn ac yn hyderus. Uchelgais - ennill sêr Michelin a bod yn enwog.

CARLOS RAMIREZ (Daniel Fuster)

Carlos Ramirez

Gwr Anna, unig fab La Madre. Perchennog y Casa de Torro. Mae o'n caru Anna ac eisiau ei phlesio a'i gwneud yn hapus. Mi fyddai'n licio petai ei fam ac Anna'n cyd-dynnu ond yn ei galon fe wyr nad yw hynny'n bosib. Digon o bres ganddo.

Mae o'n casau Mel ond yn ei ddioddef oherwydd Elin. Ond mae o'n amheus ohono ac yn sylweddoli nad ydi'r dyn i'w drystio. Dyn gwan sy'n cael ei reoli gan ei fam a'i emosiynau. Mae ganddo galon feddal. Rhagrithiwr. Caiff ei ddylanwadu'n hawdd ac o'r herwydd mae o'n cael ei hun i drafferthion.

LA MADRE (Laura Pons)

La Madre

Mam Carlos. Dynes draddodiadol, benstiff. Matriarch. Mae hi'n caru Carlos yn ddi-gwestiwn ond hefyd mae hi'n ei reoli. Mae tensiwn a gwrthdaro ym mherthynas La M ac Anna a La M'n mwynhau tynnu blewyn o drwyn Anna. Yn groes i'w dymuniad roedd Carlos wedi mynnu priodi Anna.

Mae hi'n byw ar ei phen ei hun yn y Finca ac yn cael perthynas efo Rafael, garddwr yng ngwesty Anna. Licio hwyl a chwmpeini. La M yn gwybod fod gan Anna gynlluniau ar gyfer y Finca ac yn mwynhau bod yn rhwystr iddi. Neith hi'm symud o'r ty dros ei chrogi. Mae ganddi alergedd i gor-gymychiaid.

CARMELLA (Lluqui Herrero)

Carmella

Yn enedigol o Fadrid ond wedi ymgartrefu ar yr ynys ers blynyddoedd. Athrawes dawns, yn arbenigo ar Flamenco. Merch nwydus, hardd, llawn egni a bywyd. Person emosiynol a dramatig - a demanding. Mae ganddi berthynas dda gyda La M. I ddeud y gwir mi fysa La M'n fwy na bodlon iddi briodi Carlos. Ac fe wyr hithau hynny.

PEPE (Zowie)

Pepe

Ci rhech Anna a Carlos. Mae o'n fychan, yn ffyddlon ac yn niwsans ond mae Anna'n meddwl y byd ohono.