Neidio at y cynnwys

S4C

Tîm rygbi merched yn teithio nôl i'r 40au

Gwyliwch glip o dîm rygbi merched Prifysgol Llanbed ar Wedi 7

Mae tîm rygbi merched Prifysgol Llanbed yn brysur yn codi arian ar gyfer prynu offer hyfforddi newydd.

Fel rhan o'r ymgyrch i godi arian, cynhaliwyd noson 1940au yn Undeb y Brifysgol ar 22 Hydref, gyda'r myfyrwyr yn gwisgo i fyny ac yn mwynhau cerddoriaeth ac addurniadau o'r cyfnod.

Ar hyn o bryd, mae'r merched yn rhannu offer gyda thîm rygbi'r bechgyn - mae gan y bechgyn noddwyr sydd wedi ariannu eu hoffer. Mae'n rhaid i'r merched gael caniatâd pob tro maent yn eu defnyddio.

Gyda chymorth S4C, aeth camerau Wedi 7 i ffilmio'r merched yn hyfforddi, gan roi'r cyfle iddyn nhw hyrwyddo'r digwyddiad.

Ymysg yr offer sydd angen ar y merched, mae bagiau taclo, tariannau ryc, bibiau, conau a nwyddau bach eraill.

Ymhlith aelodau'r tîm mae myfyrwyr o'r Brifysgol, yn ogystal â merched o'r dref, sy'n atgyfnerthu'r cydweithio yng nghymuned Llanbed.

Os hoffech wybod sut i helpu'r tîm, cysylltwch â Phrifysgol Llanbed er mwyn cysylltu â Elizabeth McElhinney.

Sut i gymryd rhan

Os ydych chi â diddordeb mewn trefnu digwyddiad codi arian yn gysylltiedig â rygbi, ac awydd cymorth gan S4C, yna anfonwch ffurflen gais atom ni ar-lein neu gysylltwch â Gwifren Gwylwyr S4C, 0870 6004141.

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales