Neidio at y cynnwys

S4C

Gorllewin Cymru yn cynnig cymorth i wledydd tlawd

Mae clybiau rygbi yn ne orllewin Cymru wedi bod yn brysur iawn dros y mis diwethaf yn hel hen grysau rygbi ar gyfer yr elusen SOSirbKitAid.

Yn ystod penwythnos y gêm dyngedfennol rhwng Cymru a Ffiji, wnaeth gwirfoddolwyr SOSirbKitAid alw mewn 20 o glybiau yn rhanbarthau’r Gweilch a’r Sgarlets i gasglu cyfraniadau o offer a gwisgoedd rygbi a fydd yn cael eu danfon at wledydd y trydydd byd.

Meddai’r cydlynydd gwirfoddol Ken Thomas, “Dyma oedd ein cynnig cyntaf i gasglu ac rydym wedi bod yn hapus iawn gyda’r ymateb. Rydym wedi casglu dros 2,000 o eitemau mewn un penwythnos.”

I gynorthwyo Ken a gweddill y gwirfoddolwyr, aeth camerâu Wedi 7 draw i weld a fydden nhw’n gallu cyfrannu drwy gynnig cyhoeddusrwydd a chydnabyddiaeth i’r elusen newydd.

Cefnogir yr elusen gan Rugby Supplies, Llandarcy, Universal Haulage, Penybont, a Swansea Round Table, a wnaeth ddarparu faniau a phetrol ar gyfer y prosiect.

“Rydym nawr yn edrych i wneud hwn yn achlysur blynyddol yn ystod mis Medi ac mae clybiau eraill wedi addo casglu yn y dyfodol,” medd Ken.

“Ein bwriad yn y dyfodol yw creu cysylltiadau rhwng y cyfranwyr a’r rhai sy’n derbyn y rhoddion.”

Y clybiau a wnaeth gymryd rhan oedd Amman United, Aberavon Quins, Banwen, Bridgend Atheltic, Brynaman, Bôn-y-maen, Bynea, Cwm-gors, Dunvant, Glais, Gorseinon, Llandeilo, Llanymddyfri, Neath Athletic, Porthcawl, Swansea Uplands, Tonmawr, Trimsaran, Ystalyfera, ysgolion yn rhanbarth Abertawe a’r Gweilch a’r Sgarlets.

Mae croeso i unrhyw un sydd am gyfrannu offer neu wisgoedd rygbi gysylltu â Ken Thomas ar 07966 193170 neu i edrych ar y wefan.

Sut i gymryd rhan

Os ydych chi â diddordeb mewn trefnu digwyddiad codi arian yn gysylltiedig â rygbi, ac awydd cymorth gan S4C, yna anfonwch ffurflen gais atom ni ar-lein neu gysylltwch â Gwifren Gwylwyr S4C, 0870 6004141.

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales