- Hafan
- Ffurflen gais
- Prosiectau
- Bro Ffestiniog
- Urdd Gobaith Cymru
- Prifysgol Llanbed
- Trust PA
- Apêl SOSirbKitAid
- Apêl Yogi
- Gwylio rhagflas
Seren Pobol y Cwm yn helpu codi arian i apêl “Yogi”
Ymunodd yr actor Nicholas McGaughey, sy’n chwarae Brandon Monk yn Pobol y Cwm, â grŵp o gefnogwyr rygbi o Glwb Rygbi Ruthun ar daith beicio i godi arian i Bryan ‘Yogi’ Davies, chwaraewr rygbi o’r Bala a anafwyd yn ddifrifol wrth chwarae.
Ymunodd Nicholas â’r beicwyr ym Merthyr, wrth iddynt gwblhau cymal olaf y daith o Landudno i Fae Caerdydd. Noddwyd Nicholas gan apêl S4C, Hybu Rygbi, a chyflwynodd siec o £400 i’r grwp.
Cafodd Bryan, a chwaraeodd i Glwb Rygbi’r Bala am ugain mlynedd yn ogystal â hyfforddi’r tîm ifanc, ei barlysu mewn damwain yn ystod ei gêm olaf cyn ymddeol.
Daeth nifer o’i ffrindiau at ei gilydd i godi arian i Bryan a’i deulu, er mwyn helpu talu am gostau addasu’r tŷ a chostau eraill.
Meddai Nicholas, "Rwy'n hynod o falch i gael cymryd rhan yn y ras beicio yma ac wy'n dymuno pob lwc i'r bois wrth iddyn nhw fynd ati gyda'u digwyddiadau codi arian eraill."
Am fwy o wybodaeth ar sut i gyfrannu, ewch i www.bryandavies.org.uk neu anfonwch siec yn daladwy i Gronfa Bryan Davies Appeal Fund c/o Gary Owen, 25 Maes Ffynnon, Rhuthun, LL15 1LX.
Sut i gymryd rhan
Os ydych chi â diddordeb mewn trefnu digwyddiad codi arian yn gysylltiedig â rygbi, ac awydd cymorth gan S4C, yna anfonwch ffurflen gais atom ni ar-lein neu gysylltwch â Gwifren Gwylwyr S4C, 0870 6004141.


