Y Cynorthwy-ydd Adran fydd yn gyfrifol am gydlynu gweithgaredd gweinyddol yr Adran Gyfathrebu, Marchnata a Phartneriaethau. Ymhlith y dyletswyddau byddwch yn gyfrifol am gynorthwyo'r tîm Hyrwyddo a Marchnata i drefnau a staffio digwyddiadau; cadw trefn ar ddyddiaduron, treuliau, trefniadau teithio ag ati ar ran aelodau'r adran, a chyflenwi dros dro ar y dderbynfa a gweithredu'r switsfwrdd.
Ni fyddwn yn derbyn CV.
Dylid anfon ceisiadau erbyn 12:00 ar 26 Gorffennaf 2012 i Michelle Holland, Swyddog Adnoddau Dynol, S4C, Parc Tŷ Glas, Llanisien, Caerdydd, CF14 5DU.
Ceir ffurflen gais isod neu drwy gysylltu â Michelle Holland, Swyddog Adnoddau Dynol ar 029 2074 1304 neu drwy e-bostio michelle.holland@s4c.co.uk
Gweithredir polisi cyfle cyfartal.