Bydd y Cynorthwy-ydd yn atebol i Ysgrifennydd yr Awdurdod, a bydd yn darparu cymorth a chefnogaeth weithredol i Gadeirydd ac Ysgrifennydd yr Awdurdod. Bydd hefyd yn cydlynu gydag adrannau eraill o fewn S4C er mwyn darparu gwasanaeth o ansawdd uchel i Awdurdod S4C.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o weithio ym maes materion cyhoeddus, llywodraethiant gorfforaethol, cyfreithiol neu wleidyddol.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5.00 ar 28 Mehefin 2012
Ceir ffurflen gais isod neu drwy gysylltu â Carys Hedd Paschalis, Swyddog Adnoddau Dynol ar 029 2074 1302 neu drwy e-bostio carys.hedd.paschalis@s4c.co.uk
Gweithredir polisi cyfle cyfartal.