Bydd deilydd y swydd hon yn gyfrifol am ddarparu elfennau'r wasg ar gyfer ymgyrchoedd. Bydd hyn yn cynnwys defnyddio deunydd ymchwil, drafftio a chyhoeddi datganiadau i'r wasg, digwyddiadau a seminarau ag ysgrifennu copi. Byddwch yn ysgrifennu datganiadau i'r wasg, erthyglau a deunydd cyhoeddus eraill yn y Gymraeg a'r Saesneg, er mwyn eu cyhoeddi ar draws holl lwyfannau a chyfryngau.
Yn ogystal â meddu ar sgiliau cyfathrebu dwyieithog rhagorol, disgwylir i ddeilydd y swydd gael profiad o weithio gyda phecynnau Photoshop, PowerPoint a meddalwedd perthnasol er mwyn creu cynnwys a deunyddiau marchnata o safon uchel. Mae profiad o weithio'n llwyddiannus ar ymgyrchoedd y wasg ym maes y cyfryngau gyda phrofiad penodol o ymgyrchoedd golygyddol, ysgrifennu copi a rheoli prosiect yn hanfodol.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5.00 ar 28 Mehefin 2012
Ceir ffurflen gais isod neu drwy gysylltu â Carys Hedd Paschalis, Swyddog Adnoddau Dynol ar 029 2074 1302 neu drwy e-bostio carys.hedd.paschalis@s4c.co.uk
Gweithredir polisi cyfle cyfartal.