S4C

Jobs

Pennaeth Y Wasg a Gwybodaeth

This is an advertisement for the role of Head of Press and Information. The ability to communicate fluently in Welsh and English is essential for this post.

Mae hon yn swydd llawn her mewn cyfnod allweddol i ni a bydd disgwyl i'r Pennaeth newydd i arwain, rheoli ac ysbrydoli timau'r Wasg a'r Wifren a bod yn gyfrifol am gyfathrebu mewnol yn S4C. Mae'r swydd yn atebol i Garffild Lloyd Lewis, y Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Marchnata a Phartneriaethau.

Bydd angen cyfrannu i amcanion strategol yr Adran yn ogystal â sicrhau effeithiolrwydd ymgyrchoedd yn y wasg a'r cyfryngau. Mae disgwyl i'r Pennaeth gyfrannu i a bod yn bresennol mewn digwyddiadau corfforaethol, cyfarfodydd gwylwyr a chyhoeddus, cyhoeddiadau rhaglenni a phrif ddigwyddiadau S4C a bod yn brif gyswllt ar gyfer trefnu a rheoli llif gwybodaeth i ohebwyr a chysylltiadau allanol.

Rhaid i ymgeiswyr fod yn brofiadol ym maes y wasg a meddu ar sgiliau strategol a rheoli. Mae gwybodaeth drylwyr o sefydliadau'r wasg a chyfryngau o fewn Cymru a thu hwnt ag arbenigedd mewn cyfathrebu drwy gyfryngau digidol a thraddodiadol yn hanfodol.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5.00 ar 8 Mehefin 2012

Ceir ffurflen gais isod neu drwy gysylltu â Carys Hedd Paschalis, Swyddog Adnoddau Dynol ar 029 2074 1302 neu drwy e-bostio carys.hedd.paschalis@s4c.co.uk

Gweithredir polisi cyfle cyfartal / We operate an equal opportunities policy.