S4C

Beth yw TAG?

Croeso i Tag, sy'n fyw bob nos Wener o stiwdio Tag. Bob wythnos byddwn ni'n croesawu gwestai arbennig ac yn edrych ar y ffasiwn, y ffilmiau, y gerddoriaeth a'r gajets diweddaraf. Bydd Tîm Tag allan bob wythnos yn ffilmio o amgylch Cymru er mwyn cael y diweddaraf o beth sy'n digwydd yn dy ardal di. Bydd Geraint ac Elin yn y stiwdio ac allan mewn digwyddiadau ledled Prydain ac yn cael cyfweliadau gyda'r sêr poethaf! Hefyd, bydd gwobrau lu a chyfle i ti ennill bag Tag yn llawn gajets a nwyddau gwerth chweil!

Pwyntiau Tagio

Cysylltu â Tag

Tag - 21/06/13

Ken Owens a Cath Ayres yw’r gwesteion stiwdio. Byddwn ni’n Tagio ardal Abersoch ac adolygu taclau gwersylla a gemau. Cawn gip tu ôl i’r llenni yn Wimbledon. Edrych ymlaen at brawf cyntaf y Llewod, ac yn Bag Tag, mae pecyn gwersylla sy’n cynnwys pabell a hamog. Tag – dydd Gwener am 5.00. Mae dy benwythnos yn dechrau fan hyn.