S4C

Y Cyflwynwyr

Enw:
Elin

Er bod Elin yn actio a pherfformio ers blynyddoedd roedd cyflwyno yn brofiad newydd iddi nes iddi ymuno â Tag y llynedd. Bellach mae hi wrth ei bodd yn cyd-gyflwyno gyda Ger er ei bod hi'n dweud fod Ger yn hwyr i bobman! Mae Elin yn gantores wych felly ei uchafbwynt hi ar Tag hyd yn hyn oedd cael mynd gefn llwyfan i gyfarfod Mark Evans pan oedd yn cymryd rhan yn Ghost. Mae hi'n edrych ymlaen yn arw am gyfres arall, yn enwedig ar ôl cael gwybod ei bod hi'n mynd i fod yn gwneud eitem am Doctor Who. Gobeithio wnaiff hi ddim diflannu yn y Tardis!

Enw:
Geraint

Mae Ger yn ddilynwr ENFAWR o Man United ac yn hoff iawn o bob math o chwaraeon. Mae'n barod wedi cael pob math o brofiadau ar Tag ond yr eitem fu'n waith anhygoel o galed iddo oedd cael ei gusannu gan 37 o gystadleuwyr Miss World yn Llundain! Ei brif uchafbwynt oedd cael cyfarfod Jay Z ar y carped coch ond mae'n edrych mlaen hefyd i ffilmio sioe Top Gear Live ar gyfer y gyfres newydd. Yr hyn mae'n fwynhau fwyaf am weithio ar Tag ydi tynnu coes Elin ei bod hi wastad yn edrych yn llwyd, fel ei henw. Dydi Elin ddim yn hoff iawn o hynny!

Tag - 24/04/13

Bydd dawnswyr ‘Pre-School’ yn y stiwdio yn sôn am eu profiad ar ‘Britain’s Got Talent’. Byddwn ni’n edrych ymlaen at berfformiad nesa Alys Williams ar ‘The Voice’. Lois Cernyw fydd yn sôn am Eisteddfod yr Urdd Sir Benfro wrth i ni ‘tagio’ ardal Boncath. Mae Ffasiwn Ffab Ani’n ein cael ni’n barod at yr haf o’r diwedd. Ac yn Bag Tag, gwerth £85 o dalebau i’w gwario ar ddillad o dy ddewis di.