15 Ionawr 2010
Gwahoddiad i Dendr Gwasanaeth Cymorth S4C (PDF)
Dyddiad Cyhoeddi: 16 Tachwedd 2009
Mae S4C Rhyngwladol yn gwahodd ceisiadau am drwyddedau i ymarfer Hawliau Marsiandïaeth yn y Rhaglenni a Chymeriadau Cyw a Sam Tan.
Gwahoddiad am geisiadau i greu a gwerthu marsiandïaeth (PDF)
Cwestiwn 1:
Mae'r ddogfen Tendr yn nodi bod cwmnïau yn cyfleu y tendr yn electroneg. Oes modd danfon copïau caled o gyfrifon y cwmni am y ddwy flynedd ddiwethaf drwy'r post?
Ymateb 1:
Mae'n dderbyniol i chi ddanfon y cyfrifon yn y post at sylw Mr Owain Jones, S4C, Parc Tŷ Glas, Llanishen, Caerdydd gan nodi "Cyfrinachol" ar yr amlen.
13 Tachwedd 2009
Cwestiwn 1:
Mae'r Gwahoddiad i Dendr (paragraff 1.6.3) yn nodi'r angen i gyflwyno 'Tystiolaeth ysgrifenedig o gefnogaeth i'r ymgeisydd er mwyn galluogi iddo fod yn gynrychioladol o'r holl gwmnïau cynhyrchu'.
a) A oes angen cyflwyno cefnogaeth i'n cais ni gan bob un o'r cwmnïau cynhyrchu?
b) A oes angen i'r dystiolaeth ysgrifenedig ddweud bod y cwmni yn hapus ein bod ni yn cynrychioli'r cwmni hwnnw?
Ymateb 1:
a) Mae S4C wedi nodi yn glir ym mharagraff 1.3 bod disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus 'ddarparu gwasanaeth sydd yn gynrychioladol o'r holl gwmnïau cynhyrchu'. Mae'r meini prawf er mwyn gwobrwyo'r cytundeb hefyd yn cyfeirio at allu'r gwasanaeth arfaethedig i fod yn 'Wasanaeth cynrychioladol ar gyfer y cwmnïau cynhyrchu a gomisiynir gan S4C'. Anogir ymgeiswyr i geisio sicrhau cefnogaeth yr holl gwmniau cynhyrchu.
b) Mae angen i gwmnïau cynhyrchu gadarnhau eu cefnogaeth i'r ymgeisydd, a nodi eu bodlonrwydd am allu'r ymgeisydd i gyfarfod â'u gofynion nhw ac S4C am wasanaeth o'r fath.
Cwestiwn 2:
Noder fod cyfanswm o 47 cwmni wedi eu rhestru fel aelodau TAC ar hyn o bryd. Oes modd i chi ddarparu amcangyrfif o'r nifer o gwmniau cynhyrchu annibynnol sydd yn gysylltiedig a'r gwasanaeth a chyfanswm nifer y rhai a gyflogir? Oes modd i chi roi amcangyrfif i ni o'r nifer o gontractwyr/cyfranwyr a gyflogir gan y cwmniau cynhyrchu annibynol?
Ymateb 2:
Comisiynir oddeutu 34 o gwmnïau cynhyrchu yn flynyddol gan S4C. Mae rhai yn gwmnïau grŵp. Mae union nifer y cwmnïau yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn ond mae'r cyfanswm wedi bod yn weddol gyson ers 2002. Mae'r cwmnïau sydd yn darparu cynnwys i S4C yn gallu bod yn aelodau o TAC a/neu PACT.
Mae data a manylion ychwanegol mewn perthynas â'r sector - y sector greadigol yng Nghymru a'r cwmniau sydd yn cyflenwi i S4C - ar gael ar y linc isod. http://www.s4c.co.uk/abouts4c/annualreport/acrobats/adroddiad-blynyddol-s4c-annual-report-2008.pdf http://www.s4c.co.uk/abouts4c/corporate/pdf/adroddiad_economaidd_s4c_2007.pdf http://www.skillset.org/uk/cymru/industry_sectors/article_6852_2.asp
Cwestiwn 3:
Dyw'r tender ddim yn cyfeirio at faterion cynhennus. Oes modd cadarnhau os gwelwch yn dda os yw'r gwasanaeth i gynnwys cynrychiolaeth cyfreithiol?
Ymateb 3:
Bwriad y gwasanaeth yw darparu fframwaith rhagweithiol sydd yn cefnogi a chynghori'r sector yn eu gweithgareddau - gan gynnwys sefydlu a chefnogi trefniadau datrys anghydfodau. Fodd bynnag nid yw'n fwriad cynnwys unrhyw gostau cyfreithiol mewn cysylltiad â threfniadau o'r fath yn y cytundeb. Byddai'r fath gostau yn fater i'r cwmnïau cynhyrchu yn unigol.
Cwestiwn 4:
Os yw'r tendr yn cael ei wobrwyo i ymgeisydd newydd, yna a fydd gan y gwasanaeth newydd unrhyw hawl i ddefnyddio deunydd a ddarperir ar hyn o bryd gan TAC dan eu cytundeb presennol? Os felly, pa drefniadau sydd yn berthnasol er mwyn caniatau i'r contractiwr newydd dderbyn yr holl wybodaeth.
Ymateb 4:
Mae'r cytundebau gyda'r undebau talent wedi eu trafod yn ddiweddar i ystyried effaith darfyddiad y gwasanaeth analog yng Nghymru. Bydd y trefniadau hawliau newydd yn cael eu hadlewyrchu yn y cytundebau hyn.
Os yw'r cytundeb yn cael ei wobrwyo i ymgeisydd newydd yna bydd angen cadarnhau'r trefniadau i sicrhau gweinyddiad di-dor y cytundebau gyda'r undebau. Byddwn hefyd yn ystyried yr angen am gyfnod trawsnewid, i hwyluso trosglwyddiad y trefniadau a'r cyfrifoldebau.
Cwestiwn 5:
Allwch chi gadarnhau os gwelwch yn dda, fod modd i gwmnïau cynhyrchu gynnig eu cefnogaeth i fwy nag un ymgeisydd?
Ymateb 5:
Rydym eisoes wedi nodi y dylai ymgeiswyr geisio sicrhau cefnogaeth yr holl gwmnïau cynhyrchu. Nid ydym yn rhagdybio y bydd y gefnogaeth honno yn ecsgliwsif i un ymgeisydd. Fodd bynnag, rydym yn rhagdybio y bydd cwmnïau yn cynnig eu cefnogaeth dim ond mewn sefyllfa lle mae nhw'n fodlon o allu'r ymgeisydd i gyfarfod â'u gofynion nhw ac S4C am wasanaeth o'r fath.
Cwestiwn 6:
At bwrpasau diwydrwydd, os modd i chi roi manylion am bersonél y darparwr gwasanaeth presennol, gan gynnwys niferoedd staff, dyddiadau cyflogaeth, nifer y blynyddoedd o gyflogaeth barhaol, cyflogau a buddiannau eraill, cyfnodau rhybudd ac unrhyw delerau perthnasol arall.
Ymateb 6:
Mae'r cytundeb presennol yn dirwyn i ben ar y 31/12/2009. Mae sgôp y gwasanaeth sydd i'w ddarparu dan y tendr hwn yn wahanol, ac mae gwerth y cytundeb yn sylweddol is.
Fel sydd wedi ei nodi yn rhan 3.9 o'r gwahoddiad i dendr, mae'r cwestiwn a yw TUPE yn weithredol ai peidio yn fater cyfreithiol, a bydd rhaid i ymgeiswyr ystyried a cheisio eu cyngor eu hunan. Er gwybodaeth yn unig, deallwn fod tri aelod o staff llawn amser yn gyflogedig gan y sefydliad.
Dylai'r holl ymgeiswyr nodi'r holl ragdybiaethau mewn cysylltiad â chostau trosglwyddo unrhyw staff, fel bod S4C yn glir am sail y cynnig. Cedwir yr hawl i gysylltu gydag unrhyw ymgeisydd gyda chwestiynau yn sgil y wybodaeth/nodiadau a ddarperir.
Mae YouGov wedi ennill mewn cystadleuaeth agored y tendr i ddarparu gwasanaethau ymchwil ansoddol ar gyfer S4C am dair blynedd o Ionawr 2010.
Mae S4C yn rhedeg tendr ar gyfer dylunio a gweithrediad datrysiad technegol a chaffaeliad cyfarpar yn gysylltiedig â Chyfleusterau Datblygu Manylder Uwch newydd. Mae'r tendr wedi ei hysbysebu yn Siwrnal Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd gyda rhif OJEU 2009/S118-171028 a gellir cael gwybodaeth bellach am y tendr yma ar: http://ted.europa.eu/.
Y dyddiad olaf er mwyn i S4C dderbyn y Ffurflen Gais/Holiadur Cyd-gymhwyso wedi ei gwblhau yw canol dydd 28ain Gorffennaf 2009.
Cwestiwn 1:
Ydych chi'n gallu darparu fersiwn Word o'r Ffurflen Gais sydd ar hyn o bryd mewn fformat PDF neu a oes hawl gennym i ail-greu'r ddogfen ein hunain gan sicrhau ein bod ni'n ateb y cwestiynau yn eglur ac yn yr un drefn?
Ateb 1:
Gall Ymgeiswyr ail-greu'r Ffurflen Gais ond cyfrifoldeb yr Ymgeiswyr ydy sicrhau nad oes unrhyw ran o'r Ffurflen Gais yn cael ei golli a bod yr holl wybodaeth a ofynnwyd amdani wedi'i amgáu o dan y penawdau perthnasol ac yn y drefn gywir. Mae'r Ffurflen Gais ar gael mewn ffurf 'Word' ar gais, fodd bynnag fel y nodwyd uchod, cyfrifoldeb yr Ymgeisydd ydy sicrhau nad oes unrhyw ran o'r Ffurflen Gais yn cael ei golli neu ei ddileu a bod yr holl wybodaeth a ofynnwyd amdani yn cael ei chyfleu yn y drefn gywir. Os ydy fersiwn 'Word' o'r ddogfen yn cael ei chreu neu ei chwblhau, dylai'r Ymgeiswyr sicrhau bod y datganiad ar ddiwedd y Ffurflen Gais wedi'i harwyddo a bod y Ffurflen Gais gyflawn yn cael ei sganio a'i danfon at S4C yn electronig. Gall unrhyw Ffurflen Gais anghyflawn gael ei heithrio o'r broses.
Hoffai S4C wahodd cwmnïau i dendro i ymgymryd â darparu pymtheg grŵp trafod y flwyddyn, ar gytundeb tair blynedd o 1af Ionawr 2010. Fe amgaeir dogfennau tendro isod (Y ddogfen GID sy'n cynnwys matrics gwerthuso, a'r cytundeb ddrafft).
Y dyddiad olaf am ymholiadau yw 5pm ar 29 Gorffennaf 2009, a'r dyddiad cau am dderbyn ceisiadau yw 5pm ar 11 Medi, 2009.
Dylai pob ymholiad fod drwy ebost i - panel@s4c.co.uk
Gwahoddiad i dendro i ddarparu Gwasanaethau Ymchwil Ansoddol (PDF)
Tendr i ddarparu Gwasanaethau Ymchwil Ansoddol - Cytundeb (PDF)
Mae gennym gwestiwn am y GID ymchwil ansoddol. Deallwn na wyddoch chi eto gyda pha gynulleidfaoedd byddwch yn trafod ar gyfer yr ymchwil, ond gobeithiwn y gallwch ddweud wrthym am astudiaethau eraill o'r gorffennol er mwyn i ni gael arweiniad. Yn benodol:
Cwestiwn 1:
Pa gynulleidfa oedd yr hawsaf i'w cyrraedd? Hynny yw, pa rai oedd hawsaf i'w darganfod o bersbectif recriwtio?
Ateb 1:
Darganfod gwylwyr/pobl nad sy'n wrthun i raglenni cwis (ar unrhyw sianeli)- Siaradwyr Cymraeg.
Cwestiwn 2:
Pa gynulleidfa oedd yr anoddaf i'w cyrraedd? Hynny yw, pa rai oedd anoddaf i'w darganfod o bersbectif recriwtio?
Ateb 2:
Darganfod cartrefi gyda theledu analog yn unig, sy'n gwylio rhaglenni Cymraeg ar S4C, ac sydd yn bwriadu mudo i Deledu Daearol Digidol ar ôl Newid i Ddigidol.
Cwestiwn 3:
Ydych chi'n gallu rhoi enghreifftiau o bynciau a drafodwyd gan grwpiau trafod yn y gorffennol? Gallwch chi hefyd nodi ble gynhaliwyd y grwpiau?
Ateb 3:
Mae pynciau diweddar yn cynnwys trafod rhaglenni peilot, profi gwefannau, edrych ar chwaraeon penodol, neu genres rhaglenni penodol a darganfod anghenion y gynulleidfa. Fe gynhelir y grwpiau dros Cymru gyfan - Caerdydd, Abertawe, Llanbedr Pont Steffan, Pontypridd, Bangor, Abergele, Pwllheli, Rhuthun, Aberystwyth, Caerfyrddin ac Ystalyfera i enwi rhai llefydd diweddar.
Cwestiwn 4:
Mae'r GID yn son am 15 grwp trafod i gymeryd lle mewn blwyddyn. Ydych chi'n gallu rhoi amcan o faint o rhain fydd angen cymeryd lle fesul "set"? Mewn geiriau eraill, ydych chi'n disgwyl i'r 15 i gael eu rhannu i 5 set o 3 grwp trafod ar draws Cymru neu rywbeth tebyg?
Ateb 4:
Mae hyblygrwydd yn angenrheidiol yma, fel nodir yn y ddogfen tendr. Ar y funud rydym yn comisiynu 11 grwp mewn setiau o 2 & 1 ar draws y misoedd nesaf. Ar adegau eraill gall maint y setiau fod yn 3, 4 neu mwy.
Cwestiwn 5:
A fyddwch chi angen i'r holl grwpiau trafod gael eu trawsysgrifio?
Ateb 5:
Bydd disgwyl i chi gadw cofnodion o'r drafodaeth -gall hyn fod ar ffurf sain yn unig neu wedi eu trawsysgrifio.
Cwestiwn 6:
Rydych yn son am 'grwpiau gwylio' o hyd at 20 o bobl - o dro i dro. Ydych chi'n disgwyl i ni ddarparu adnoddau gwylio/sgrinio ochr yn ochr a'r grwp trafod?
Ateb 6:
Byddai disgwyl i chi drefnu adnoddau gwylio a sgrinio ond os mae hyn yn golygu cost ychwanegol gallwch nodi hyn.
Cwestiwn 7:
Rydych yn son fod grwpiau gwylio yn achlysurol yn cymeryd lle tu allan i Gymru, mewn pa ranbarthau neu siroedd ydych yn rhagweld hyn yn digwydd?
Ateb 7:
Mae'n anhebygol fydd hyn yn digwydd yn aml iawn, gall y rhanbarthau gynnwys ee Llundain neu ardaloedd y gororau (Cymru/Lloegr).
Cwestiwn 8:
Ydych chi'n rhagweld cynnal amrywiadau o'r grwpiau trafod i siaradwyr Iaith gyntaf a Dysgwyr? Hefyd gallwn ni rannu y grwpiau trafod fesul oedran, rhyw, dosbarth cymdeithasol, ayb… dull clystyru, fel sydd angen, neu ydych chi'n chwilio am ddull strata ym mhob grwp trafod?
Ateb 8:
Mae gan pob prosiect anghenion gwahanol, ond sefyllfa arferol yw os ein bod angen, dyweder, 6 grwp, gall y dosbarthiad fod : 2 yn Ne Cymru, 2 yn y Gorllewin/Canolbarth & 2 yng Ngogledd Cymru. Fel arfer fyddai rhain wedi eu pario o ran demograffeg, hy gall un grwp ym mhob rhanbarth fod yn cynnwys bobl o'r grwp oedran 16-34, gyda dosbarth cymdeithasol yn weddol eang, ac yn wylwyr o raglen penodol. Gall y grwp arall yn y rhanbarth fod yn bobl dros 35 oed, gyda dosbarth cymdeithasol yn weddol eang, ac yn wylwyr o'r un rhaglen. Gall fod fod angen recriwtio cyn-wylwyr o raglen penodol, neu unrhyw griteria arall.
Gallem ofyn i chi recriwtio siaradwyr Cymraeg sy'n Ddysgwyr ar gyfer rhai prosiectau, neu pobl Di-Gymraeg. Gallem hefyd ofyn i chi recriwtio pobl o lefelau rhuglder penodol.
Cwestiwn 9:
A allwn ni gymryd yn ganiataol mai dim ond un grwp a fydd ar gyfer pob lleoliad am bob set o grwpiau ffocws?
Ateb 9:
Nid yn angenrheidiol gan fydd anghenion pob prosiect yn unigryw. Petaech isio costio ar y sail hyn, nodwch hyn, a nodwch os oes arbediad cost petae mwy nac un grwp yn yr un lleoliad.
Cwestiwn 10:
Pan yn recriwtio grwpiau, beth fyddai diffiniad o siaradwr Cymraeg - a fyddai yr un peth a BARB?
Ateb 10:
Gallai' r diffiniad fod yr un peth a BARB, neu yn ddiffiniad syml o Gymraeg sgyrsiol, yn dibynnu ar anghenion y prosiect.
Cwestiwn 11:
Wrth redeg grwpiau, a fyddai'r iaith mae'r grwpiau'n defnyddio yn ddibynnol ar y mwyafrif neu a ddylai pob cyfrannwr fod yn rhydd i gyfnewid?
Ateb 11:
Mae'r mwyafrif o'r grwpiau yn cael eu cynnal yng Nghymraeg gyda siaradwyr Cymraeg a lefelau rhuglder amrywiol, mae nifer llai o grwpiau yn cael eu cynnal ymysg y di-gymraeg. Mae'r rhain fel arfer yn grwpiau arwahan.
Cwestiwn 12:
Gallwch chi ddweud wrthym am y cyfranddalwyr allweddol a'u hanghenion, er enghraifft byddai'r grwpiau yn cael eu defnyddio ar gyfer profi cysyniad, achosion gwerthu neu enrhifo'r farchnad?
Ateb 12:
Mae amrywiaeth eang o gyfranddalwyr a gall pynciau amrywio o edrych ar raglenni peilot a gwefannau newydd, at waith mwy corfforaethol.
Cwestiwn 13:
Bydd y newid i ddigidol a'i effaith ar S4C yn thema allweddol ar gyfer grwpiau trafod?
Ateb 13:
Ni ellir trafod pynciau unigol yn y fan hon.
Cwestiwn 14:
Ydych yn rhagweld defnyddio unrhyw dechnoleg arbenigol o fewn grwpiau trafod ar hyn o bryd, e.e. Teledu HD, PVR, Gwasanaethau Ar-Alw?
Ateb 14:
Efallai bydd gofynion tebyg, dwedwch eich syniadau wrthym.
Cwestiwn 15:
I ba raddau bydd diddordeb gennych i ddefnyddio dulliau dadansoddi arbenigol yn y grwpiau trafod, e.e. tracio'r llygaid, tracio symudiad llygoden?
Ateb 15:
Nodwch pa ddulliau y gallwch ddarparu, bydd hyn yn cael ei gynnwys yn ein hasesiad o'ch cais.
Cwestiwn 16:
Er mwyn penderfynu ymarferoldeb ac amcangyfrif cost yr ymarfer hwn, byddai'n ddefnyddiol gwybod:
Ateb 16:
Cwestiwn 17:
A allwch chi ddarparu esiampl o ddemograffeg y byddwch yn debygol o angen fel model ar gyfer seilio costau recriwtio.
Ateb 17:
Mae hyn yn amhosib ei ddarogan ar hyn o bryd. Awgrymwn eich bod amcangyfrif cymysgedd o wahanol ddemograffeg ar gyfer pwrpas costio.
Cwestiwn 18:
Byddai'n ddefnyddiol gwybod os ydych yn cynnal ymchwil meintiol ar y pynciau hyn drwy ffynonellau eraill, neu yn wir fyddai hyn yn ddatrysiad ychwanegol gwerthfawr i'ch briff.
Ateb 18:
Drwy ffigyrau gwylio BARB mae gennym ddata meintiol ar holl raglenni cyfredol, felly mae hwn pob tro yn ddata ychwanegol os ydym yn edrych ar raglenni teledu cyfredol. Ond, mewn rhai achosion, hwn fyddai'r unig ffynhonnell wybodaeth.
Cwestiwn 19:
Wrth ddarparu grwpiau trafod a fforymau gwylio traddodiadol, oes gofyn darparu fforymau iaith gymysg a fyddai angen cael eu cyfieithu yn syth?
Ateb 19:
Nid yw hyn yn cael ei wneud, mae grwpiau yn cael eu cynnal yn y Gymraeg neu'r Saesneg.
Mae Event Exhibition & Design Limited wedi ennill mewn cystadleuaeth agored y tendr i ddarparu a rheoli adeilad digwyddiadau dros dros ar gyfer S4C am y ddwy flynedd nesaf.
Mewn cais ar y cyd, mae JM Creative a Working Word Public Relations Cyf. wedi ennill mewn cystadleuaeth agored y tendr i ddarparu ymgyrch cyfathrebu trosiad i ddigidol ar gyfer S4C. Bydd yr ymgyrch cyfathrebu amlgyfrwng dwyieithog yn hyrwyddo gwasanaethau teledu digidol S4C yn arwain at, yn ystod a heibio'r broses trosiad i ddigidol yng Nghymru yn 2009/10. Bydd y cytundeb yn rhedeg o fis Ebrill 2009 hyd at fis Awst 2010.
Mae cwmni Acen wedi ennill mewn cystadleuaeth agored y tendr i ddarparu Gwasanaeth Dysgwyr Cymraeg S4C am y tair blynedd nesaf.
15-Ebr-2009
Rhybudd o fwriad i dendr (PDF)
Mae Event Exhibition & Design Limited wedi ennill mewn cystadleuaeth agored y tendr i ddarparu a rheoli adeilad digwyddiadau dros dros ar gyfer S4C am y ddwy flynedd nesaf.
Mae Trinity Mirror Gogledd Cymru Cyf wedi ennill mewn cystadleuaeth agored y tendr i ddarparu Gwasanaeth Amserlenni Teledu a Chyhoeddiad Golygyddol ar gyfer S4C yng Ngogledd Cymru am y tair blynedd nesaf.
Mae cwmni Galw wedi ennill mewn cystadleuaeth agored y tendr i ddarparu gwasanaeth Gwifren Gwylwyr S4C am y tair blynedd nesaf. Y Wifren Gwylwyr yw prif bwynt cyswllt gwylwyr S4C. Mae'n ymdrin ag ymholiadau cyffredinol yn ymwneud â gwasanaethau ac allbwn S4C.
Cwestiwn 1:
A wnewch chi gynghori ar sut i lenwi'r Ffurflen Gais? Mae'r briff yn awgrymu ein bod yn cwblhau'r ffurflen a ddarparwyd, fodd bynnag mae'r ffurflen ar ffurf PDF ac felly mae'n anodd. Ydych chi'n gallu darparu dogfen Word o'r PDF neu a oes hawl gennym i ail-greu cyflwyniad ein hunain gan sicrhau ein bod ni'n ateb y cwestiynau yn eglur ac yn yr un drefn?
Ateb 1:
Mae Ymgeiswyr yn gallu ail-greu'r Ffurflen Gais ond cyfrifoldeb yr Ymgeiswyr ydy sicrhau bod yr holl wybodaeth a ofynnwyd amdani wedi'i amgáu o dan y penawdau perthnasol. Mae dogfen Word ar gael ar gais, fodd bynnag fel y nodwyd uchod, cyfrifoldeb yr Ymgeisydd ydy sicrhau bod yr holl wybodaeth a ofynnwyd amdani yn cael ei chyfleu. Os ydy fersiwn Word o'r ddogfen yn cael ei chreu neu ei chwblhau, dylai'r Ymgeiswyr sicrhau bod y datganiad ar ddiwedd y Ffurflen wedi'i harwyddo a bod y Ffurflen Gais gyflawn yn cael ei sganio a'i danfon at S4C yn electronic.
Cwestiwn 2:
Ydych chi'n gallu cadarnhau os ydy enw'r ymgeisydd ar y PQQ yn cyfeirio at enw'r cwmni neu enw'r person sy'n ymgeisio ar ran y cwmni?
Ateb 2:
Mae enw'r ymgeisydd yn cyfeirio at enw'r cwmni.
Cwestiwn 3:
Ydych chi'n gallu cynnig gwybodaeth ychwanegol os gwelwch yn dda i egluro'r term 'rheolaeth digwyddiadau' yng nghyd-destun y tendr hwn gan S4C. "Mae’n rhaid i Ymgeiswyr feddu ar brofiad ac arbenigedd mewn rheoli digwyddiadau". Yn ogystal, yn rhan F. Sicrwydd Ansawdd o'r Ffurflen Gais, mae'r cwestiwn yn gorffen gyda'r term "...digwyddiadau yn cael eu cyflwyno mewn ffordd broffesiynol". Ydych chi'n gallu cadarnhau os ydy digwyddiadau yn yr un cyd-destun â'r term ' rheolaeth digwyddiadau' a nodwyd uchod. Os na, ydych chi hefyd yn gallu egluro ystyr y frawddeg hon.
Ateb 3:
Diffiniad S4C ydy rheolaeth gyflawn o ddigwyddiad, gan gynnwys ond heb ei gyfyngu at, gynllunio a datblygu, staffio, cysylltu gyda chyrff allanol, materion cytundebol a thrwyddedu, a chyflawni'r digwyddiad. Mae Rhan F yn gofyn am eglurhad o sut mae'r Ymgeisydd yn sicrhau ansawdd gwasanaeth mewn perthynas â rheolaeth digwyddiadau (fel sydd wedi diffinio uchod).
Mae Mediascene Cyf wedi ennill mewn cystadleuaeth agored y tendr i ddarparu gwasanaeth Rheoli Cronfa Ddata a Dosbarthu ar gyfer S4C am y tair mlynedd nesaf.
Mae'r Gwahoddiad i Dendro ("GID") hwn yn gwahodd tendrau oddi wrth bersonau/sefydliadau sydd â diddordeb mewn darparu gwasanaeth amserlenni teledu a chyhoeddiad golygyddol ar gyfer S4C, fel y'i ddisgrifir yn fanylach yn y GID hwn a'r cytundeb drafft sydd ynghlwm yn yr atodiad i'r GID hwn ('y Cytundeb Drafft').
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i agor Polisi Iaith S4C. Os ydych am dderbyn manylion am bolisiau Cyfle Cyfartal a Chydraddoldeb Hiliol S4C anfonwch ebost at panel@s4c.co.uk.
Gwifren Gwylwyr ydi prif bwynt cyswllt gwylwyr S4C, gan ymdrin ag ymholiadau cyffredinol yn ymwneud â gwasanaethau ac allbwn S4C. Mae'r gwasanaeth yn cael ei rheoli gan Gyfarwyddiaeth Cyfathrebu S4C, yr adran sy'n gyfrifol am hybu pob agwedd o S4C. Fel rhan o'i ymrwymiad i gysylltu â gwylwyr, mae'n angenrheidiol fod S4C yn cynnig gwasanaeth gwbl ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg), proffesiynol, cwrtais a llawn gwybodaeth i'r cyhoedd wrth ateb ymholiadau cyffredinol gwylwyr.
Mae'r gwasanaeth ar gael rhwng 09:00 a 22:00 yn ddyddiol, 365 diwrnod y flwyddyn. Ni ddylai cost galwadau'r gwylwyr fod yn fwy na'r gyfradd genedlaethol gyffredinol o fewn y DU. Yn ystod 2006 derbyniwyd 12,424 ymholiad dros y ffôn, e-bost, llythyron neu ffacs.
Mae'r gwasanaethau'n cynnwys cynnig ymateb addas i ymholiadau dros y ffôn, trwy e-bost, a gohebiaeth ysgrifenedig. Dylid ateb galwadau ffôn pobl gyda diffygion clyw trwy ddefnyddio Minicom. Rhaid i wybodaeth ac atebion i wylwyr gyfateb i bolisïau corfforaethol S4C. Mae cyfrifoldebau eraill yn cynnwys darparu adroddiadau i S4C ynglŷn ag ymholidau ac atebion, presenoldeb mewn digwyddiadau fel yr Eisteddfod Genedlaethol a chyfarfodydd cyhoeddus gyda'r gwylwyr.
"Oes hawl gan gonsortiwm wneud cynnig? Os oes, pa fanylion sydd eu hangen ar y ffurflen gais?"
Mae S4C yn derbyn ffurflenni cais a chynigion gan gonsortia. Fodd bynnag, os oes consortiwm yn cynnig tendr sy'n cael ei dderbyn gan S4C, gall S4C ofyn i'r consortiwm ffurfio endyd cynfreithiol cyn cytundebu. Gall fod gofyn am atebolrwydd cyd ac unigol holl aelodau'r consortiwm hefyd.
Os ydy'r Ymgeisydd yn gonsortiwm, rhaid cwblhau ffurflenni cais unigol i bob aelod o'r consortiwm a rhaid rhoi gwybod i S4C pwy ydy prif aelod y consortiwm.
© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales