Neidio at y cynnwys

S4C

Tendrau

Croeso i hafan Tendrau S4C.


Tendr Gwasanaeth Cymorth Rhaglenni S4C

23 Chwefror 2010

Mae Cwmni Pawb wedi ennill mewn cystadleuaeth agored y tendr i gynhyrchu Gwasanaeth Cymorth Rhaglenni ar gyfer S4C, yn amodol ar gytundeb. Bydd Cwmni Pawb yn parhau i gynnig i wylwyr wybodaeth ddyfeisgar o bynciau amrywiol, sy'n cyd-fynd â'r gwasanaeth rhaglenni ac sydd ar gael ar wefan S4/Cymorth.

Hyd y cytundeb yw tair blynedd (Ebrill 2010-Mawrth 2013).

Tendr Gwasanaethau Glanhau

18 Ionawr 2010

Mae S4C yn rhedeg tendr gwasanaethau glanhau ar gyfer ei swyddfa a leolir ym Mharc Tŷ Glas, Llanishen, Caerdydd. Mae'r tendr wedi ei hysbysebu yn Siwrnal Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd a gellir cael gwybodaeth bellach am y tendr yma ar: https://www.sell2wales.co.uk/notices/display.html?NoticeId=19055 Rhaid i bob cwmni a busnes sydd â diddordeb mewn darparu'r gwasanaethau gwblhau'r Holiadur Cyn-Gymhwyso yn y ffurf y gosodir isod. Y dyddiad olaf er mwyn i S4C dderbyn yr Holiadur Cyn-Gymhwyso wedi ei gwblhau yw canol dydd 15fed Chwefror 2010.

Dylid cyfeirio pob cais am wybodaeth a/neu arweiniad pellach ar sut i gwblhau'r Holiadur hwn a/neu'r broses dendro hon at: hannah.evans@s4c.co.uk Sylwer, os gwelwch yn dda, na ddylid anfon unrhyw ymholiad na chais am wybodaeth ynglŷn â'r broses dendro at unrhyw swyddog, gweithiwr na chynrychiolydd unigol yn S4C.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau am wybodaeth a/neu arweiniad pellach ar sut i gwblhau'r Holiadur yw canol dydd, dydd Llun 8fed Chwefror 2010

Holiadur Cyn-Gymhwyso (PDF)

Gwerthusiad Holiadur Cyn-Gymhwyso (PDF)

Cwestiynau ac Atebion

Cwestiwn 1:

Ydych chi'n gallu darparu fersiwn Word o'r Ffurflen Gais sydd ar hyn o bryd mewn fformat PDF neu a oes hawl gennym i ail-greu'r ddogfen ein hunain gan sicrhau ein bod ni'n ateb y cwestiynau yn eglur ac yn yr un drefn?

Ateb 1:

Gall Ymgeiswyr ail-greu'r Ffurflen Gais ond cyfrifoldeb yr Ymgeiswyr ydy sicrhau nad oes unrhyw ran o'r Ffurflen Gais yn cael ei golli a bod yr holl wybodaeth a ofynnwyd amdani wedi'i amgáu o dan y penawdau perthnasol ac yn y drefn gywir. Mae'r Ffurflen Gais ar gael mewn ffurf 'Word' ar gais, fodd bynnag fel y nodwyd uchod, cyfrifoldeb yr Ymgeisydd ydy sicrhau nad oes unrhyw ran o'r Ffurflen Gais yn cael ei golli neu ei ddileu a bod yr holl wybodaeth a ofynnwyd amdani yn cael ei chyfleu yn y drefn gywir. Os ydy fersiwn 'Word' o'r ddogfen yn cael ei chreu neu ei chwblhau, dylai'r Ymgeiswyr sicrhau bod y datganiad ar ddiwedd y Ffurflen Gais wedi'i harwyddo a bod y Ffurflen Gais gyflawn yn cael ei sganio a'i danfon at S4C yn electronig. Gall unrhyw Ffurflen Gais anghyflawn gael ei heithrio o'r broses.

Tendr Glanhau - Cwestiynau ac Atebion

Cwestiwn 1

C. Oes yna ddogfen brisio i ddilyn neu a ydych yn derbyn ein fformat costio ar gyfer y tendr hwn?

A. Does yna'r un ddogfen brisio i ddilyn - rydym yn disgwyl i'ch fformat costio ar gyfer y tendr ddilyn y canllawiau a osodwyd yn y ddogfen Gwahoddiad i Dendro.

Cwestiwn 2

C. Yn ein barn ni mae'n bosib y bydd y Rheoliadau TUPE yn gymwys yn yr achos hwn, ac er mwyn inni roi ystyriaeth i'r Rheoliadau hyn yn ein tendr, rydym ni angen y wybodaeth ganlynol:

Bydd y wybodaeth a dderbynnir yn cael ei thrin yn gyfrinachol ac at ddefnydd y Cytundeb hwn yn unig.

A. Gweler y llythyr dyddiedig 20 Ebrill 2010 oddi wrth S4C ynghylch gwybodaeth am TUPE.

Cwestiwn 3

Q. Rydym yn credu y gall TUPE fod yn berthnasol i'r cytundeb hwn, felly a allwch chi gyflenwi manylion cyswllt y deiliaid presennol neu os gwneir y gwaith yn fewnol, a allwch ddarparu'r holl fanylion am yr holl staff a gyflogir?

A. Gweler y llythyr dyddiedig 20 Ebrill 2010 oddi wrth S4C ynghylch gwybodaeth am TUPE.

Cwestiwn 4

C. A allwch ddweud wrthyf a yw'r glanhau trwyadl iawn o'r offer cegin i'w cynnwys yn ein pris?

Os felly, a allwch anfon rhestr o'r offer sy'n cael eu glanhau yn ardal y gegin ar hyn o bryd.

A Gweler paragraff 2.2.16 o atodlen 1 o'r cytundeb drafft. Bydd disgwyl i'r Cwmni i ymgymryd â gwaith glanhau trwyadl iawn yn yr ardaloedd a restrir, sy'n cynnwys ardal y gegin, bob 6 mis. Bydd y gwaith hwn yn cael ei gynnwys yn y pris.

Mae disgwyl i'r canlynol gael eu glanhau fel rhan o'r gwaith glanhau trwyadl iawn bob 6 mis yn y gegin:-

Llawr finyl, sinciau a thapiau golchi dwylo, waliau teils, biniau gwastraff/ailgylchu, sgriniau pry, siliau ffenestr, lloriau (gwaith paent, gwydr a phlatiau troed), darparydd tyweli papur, byrddau neges, matiau rwber diogelwch, mat drws, cyfarpar nwy, poptai combi x2 a theils nenfwd.

Nodwch y dylai'r cyfeiriad at baragraff 2.2.12 ym mharagraff 1.10.1 o Atodlen 1 yn y cytundeb gyfeirio yn hytrach at baragraff 2.2.16.

Yn ogystal â'r darpariaethau glanhau trwyadl iawn 6 misol, mae yna ddarpariaeth ym mharagraff 1.5.2 o Atodlen 1 o'r cytundeb lle mae S4C yn gofyn i'r Cwmni llwyddiannus ymgymryd â gwaith glanhau ar sail ad hoc o ardaloedd penodol o'r adeilad o fewn [8 awr] o'r amser y gwneir y cais. Mae manylion y glanhau trwyadl iawn /glanhau ad hoc yma yn cael eu rhoi i'r Cwmni llwyddiannus gan S4C cyn dechrau ar y gwaith. Dylai'r rhai sy'n tendro ddarparu manylion o'r gost o wasanaethau glanhau trwyadl iawn /glanhau ad hoc fel y gofynnir yn C.2 y ddogfen Gwahoddiad i Dendro a dylai gynnwys cyfradd yr awr gan wahaniaethu rhwng cyfraddau gweithio yn ystod oriau'r dydd, gyda'r hwyr, y penwythnos a gwyliau banc.

Cwestiwn 5

C. A allwch ein cynghori ar y canlynol;

  1. Nifer y bleindiau yno - y rheini'n fleindiau gwyn metel a ffibr polyester.

    A. Mae yna oddeutu 130 bleind. Fe all hyn newid ar ôl y gwaith adnewyddu ar yr adeilad.

  2. Rydym yn deall bod angen glanhau'r fentiau aer bob 6 mis, a ellir cyrraedd y rhain o'r llawr gyda dwster plu neu gyda vacuum pac cefn os ydynt yn uwch i fyny?

    A. Gellir cyrraedd y rhain gyda dwster telesgopig.

  3. Hoffem drefnu ymweld â'r safle er mwyn cynnig pris ar gyfer y gwaith glanhau trwyadl iawn yn y gegin. A allwch gadarnhau a yw hyn yn bosibl fel y gallaf wneud y trefniadau angenrheidiol a dychwelyd atoch gydag amser a dyddiad ar gyfer yr ymweliad?

    A. Yn anffodus, ni fydd yn bosibl trefnu ymwelid safle arall er mwyn ichi baratoi pris ar gyfer glanhau trwyadl iawn o'r gegin. Gweler ein hateb i Gwestiwn 4 uchod.

Cwestiwn 6

C. Yn wyneb eich llythyr dyddiedig 20fed Ebrill 2010 ynghylch gwybodaeth TUPE, os nad yw'r wybodaeth yma ar gael, bydd yn rhaid inni gyflwyno dyfynbris masnachol a fydd yn caniatau inni, os ydym yn llwyddiannus yn ein cais, ailedrych ar ein pris ar ôl derbyn y wybodaeth TUPE. Yng ngoleuni hyn, a allwch gadarnhau eich bod yn dymuno inni fwrw ymlaen â'ch proses dendro?

A. Ewch ati i gyflwyno dyfynbris masnachol. Wrth gyflwyno manylion ar gyfer eich ffi am y gwasanaeth, diystyrwch unrhyw gostau TUPE posibl. Dim ond i'r ymgeisydd llwyddiannus y byddwn yn darparu gwybodaeth TUPE. Bydd y tendrwr llwyddiannus yna'n cael cyfle i ailedrych ar y pris yng ngoleuni'r wybodaeth TUPE.


Capital Law yn ennill tendr S4C

Mae cwmni Capital Law wedi ennill mewn cystadleuaeth agored tendr S4C i ddarparu fframwaith polisïau a gwasanaeth cyflogaeth ar gyfer y sector annibynnol.

Bydd y cytundeb dwy flynedd o hyd yn sicrhau bod y cwmnïau cynhyrchu annibynnol yn cael cefnogaeth er mwyn cydymffurfio â gofynion polisïau a hawliau S4C, a sicrhau amodau gwaith teg a rhesymol ar draws y sector.

Meddai Elin Pinnell, Partner gyda Capital Law ac arweinydd tîm cyflogaeth y cwmni, "Mae Capital Law yn gwbl gefnogol o nod S4C o sicrhau amgylchedd gwaith teg i gyflogedigion y sector cynhyrchu annibynnol ac edrychwn ymlaen at fynd i'r afael â'r cytundeb newydd." Bydd Siôn Clwyd Roberts yn ymuno â Capital Law o ITV Cymru ac yn cydweithio gydag Elin ac Iestyn Morris ar y cytundeb.


© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales