Neidio at y cynnwys

S4C

Cystadleuwyr

David CoyleCystadleuydd

Dyddiad Geni: 04/07/1963

Byw: Bangor

Swydd: Darlithiwr

Disgrifia dy hun: Digri, anniben, creadigol

Heston Blumenthal yw hoff gogydd David, a'i hoff rysáit ydi tiwna pupur du gyda lemwn a choriander gyda salsa puy lentils.

Anaml iawn bydd David yn cael cyfle i fwyta allan ond mae'n cofio cael prydau arbennig iawn yn Diwana Bhel Poori House, Euston, a Cerveceria Catalan yn Barcelona.

Mae David yn mwynhau deifio tanddwr ac mae ganddo gof arbennig i gofio'i jôcs i gyd!

David CoyleRhaglen Un

Wedi'r dosbarthiadau meistri fe gafodd y deuddeg sioc - sialens o greu Draenog y môr a salsa.

Roedd y sgiliau oedd eu angen ar gyfer y dasg i gyd wedi cael eu dangos yn y dosbarthiadau meistri felly doedd dim lle i gwyno!

Gyda pysgodyn gorau'r sialens, roedd David yn llwyddiannus ac mae o gam yn nes i Tigh Dudley!

David CoyleRhaglen Dau

Ar ôl blasu gwin efo Arwel Owen o Gwinology roedd hi'n amser y sialens fawr - creu pryd o'u dewis nhw.

Rac o gig oen Cymreig ar rosti tatws a seleriac gyda jus port a llugaeron gyda merllys a moron tymhorol oedd dewis David a gwin addas i fynd efo'r pryd yma Cabernet Sauvignon o'r Byd Newydd, o Awstralia yn paru'n berffaith.Os hoffech y rysait ewch draw i'r dudalen ryseitiau.

David CoyleRhaglen Tri

Creu rysait gyda cynhwysion o fewn hanner can milltir i Kinsale oedd y sialens.

Hwyaden, champ neu colcannon a saws o'u dewis nhw.

Dan lygaid craff Carole Norman a Leona Robinson o fwyty Crackpots yn Kinsale roedd David yn llwyddiannus a mae o gam yn nes i'r ffeinal.

David CoyleRhaglen Pedwar

Sialens creu brecwast a David yn cael ei baru gyda Miriam. Llond plât a Peter Maypother o westy'r Blue Haven yn Kinsale yn bles iawn.

David a Miriam yn llwyddiannus ac yn cael pnawn bach o gwmpas Kinsale ac wrth gwrs gam yn nes i'r ffeinal.

David CoyleRhaglen Pump

Taith i fygdy Woodcock a sialens nôl yn y ty i greu 3 plât o fwyd wedi fygu.

David wedi cael ei baru gyda Helen ac yn creu dim ond dwy blâ felly rhaid gwynebu sialens arall!

Kevin Dundon yn beirniadu a sialens y pwdin o'i flaen a drwy drwch blewyn mae ei soufflé yn llwyddiannus a mae o gam yn nes i'r ffeinal.

David CoyleRhaglen Chwech

Wedi pryd bach sbeislyd roedd rhaid gwynebu cegin y Tigh, i ddechra fel t7icirc;m ond Dudley a'i driciau yn newid y sialens i fod yn her unigol.

Creu pryd o fwyd sbeislyd oedd y dasg a David yn creu Maelgi gyda saws Thai.

Yn anffodus roedd David yn aflwyddiannus a'i daith yn Tigh Dudley yn dod i ben.