Neidio at y cynnwys

S4C

Cystadleuwyr

Helen Wyn JonesCystadleuydd

Dyddiad Geni: 12/09/1962

Byw: Llandegfan, Ynys Môn

Swydd: Gweinyddydd Ardal, Ysgrifenyddes Bersonol

Disgrifia dy hun: Annwyl, doniol, hwyliog

Yn amlwg mae Helen yn hoff iawn o goginio ac yn mwynhau arbrofi â rysetiau newydd ond lasagne cartref yw ei hoff rysáit.

Ei hoff gogydd yw Jamie Oliver ac er nad yw hi'n bwyta allan yn aml, bydde hi'n dewis bwyta yn Nhafarn y Bont, Sir Fôn.

Mae hi hefyd yn mwynhau cerdded a theithio.

Helen Wyn JonesRhaglen Un

Wedi'r dosbarthiadau meistri fe gafodd y deuddeg sioc - sialens o greu Draenog y môr a salsa.

Roedd Helen yn llwyddiannus ac mae hi gam yn nes at Tigh Dudley!

Helen JonesRhaglen Dau

Ar ôl blasu gwin efo Arwel Owen o Gwinology roedd hi'n amser y sialens fawr - creu pryd o'u dewis nhw.

Cig Oen gyda colcannon a saws oedd dewis Helen a Rioja o Spaen yn mynd yn berffaith gyda'r pryd yma.

Helen JonesRhaglen Tri

Creu rysait gyda cynhwysion o fewn hanner can milltir i Kinsale oedd y sialens.

Hwyaden, champ neu colcannon a saws o'u dewis nhw.

Dan lygaid craff Carole Norman a Leona Robinson o fwyty Crackpots yn Kinsale roedd Helen yn llwyddiannus a mae hi gam yn nes i'r ffeinal.

Helen JonesRhaglen Pedwar

Sialens creu brecwast a Helen yn cael ei rhoi mewn tîm gyda Ian Hughes a Wayne. Llond plât a Peter Maypother o westy'r Blue Haven yn Kinsale yn penderfyny nad oedd eu plâ nhw ddim digon da.

Yn ffodus iawn i Helen bu i David a Miriam ei achub hi rhag gwynebu'r sialens arall, Helen felly yn cael pnawn bach o gwmpas Kinsale ac wrth gwrs gam yn nes i'r ffeinal.

Helen JonesRhaglen Pump

Taith i fygdy Woodcock a sialens nôl yn y ty i greu 3 plât o fwyd wedi fygu.

Helen wedi cael ei pharu gyda David ac yn creu dim ond dwy blâ felly rhaid gwynebu sialens arall!

Kevin Dundon yn beirniadu a sialens y pwdin o'i blaen a'i soufflé yn llwyddiannus, Helen yw brenhines y soufflé a mae hi gam yn nes i'r ffeinal.

Helen JonesRhaglen Chwech

Llwyddiant soufflé Helen yn rhoi bore i ffwrdd iddi, ond yn y prynhawn un o sialensau anoddau'r gyfres - Pryd o Flas! Helen yn llwyddo yn y sialens a mae hi'n un o'r tri olaf!

Helen JonesRhaglen Saith

Y ffeinal fawr a Helen yn paratoi Coctêl gorgimychiaid, stiw Gwyddelig a pwdin fel sypreis, ond dim angen poeni am y prif gwrs a'r pwdin yn anffodus roedd Helen allan ar ôl y starter!