Neidio at y cynnwys

S4C

Cystadleuwyr

John RowlandsCystadleuydd

Dyddiad Geni: 14/08/1938

Byw: Caernarfon

Swydd: Wedi ymddeol

Disgrifia dy hun: Penderfynol, dyfalbarhaus, mentrus.

Ers blynyddoedd bellach mae John yn ymddiddori yn y celfyddydau, yn enwedig llenyddiaeth a cherddoriaeth - mae'n chwarae'r piano fel hobi.

Er ei fod yn mwynhau bwyd a mynychu tai bwyta, dim ond yn ddiweddar mae diddordeb John mewn coginio wedi datblygu.

Nafarin oen Cymreig yw ei hoff rysáit ar hyn o bryd, ond mae'n newid yn aml yn ôl ei hwyl a'r cynnyrch sydd ar gael.

Mae John yn hoff iawn o lyfrau Simon Hopkinson ac wedi ffeindio hi'n anodd iawn dewis hoff fwyty gan enwi Tyddyn Llan, Llandrillo a Corrigan's yn Mayfair - i enwi ond dau!

John RowlandsRhaglen Un

Wedi'r dosbarthiadau meistri fe gafodd y deuddeg sioc - sialens o greu Draenog y môr a salsa.

Roedd John yn llwyddiannus ac mae o gam yn nes at Tigh Dudley!

John RowlandsRhaglen Dau

Ar ôl blasu gwin efo Arwel Owen o Gwinology roedd hi'n amser y sialens fawr - creu pryd o'u dewis nhw.

Ystlys dyner o borc wedi'i stwffio gyda bricyll ac eirin sychion, ei lapio mewn ham Parma a'i weini gyda cwscws sawrus a saws Marsala a Pinot Noir o Seland newydd yn mynd yn berffaith.

Os hoffech y rysait ewch draw i'r dudalen ryseitiau.