Neidio at y cynnwys

S4C

Cystadleuwyr

Miriam WilliamsCystadleuydd

Dyddiad Geni: 10/04/1965

Byw: Richmond, Llundain.

Swydd: Ffisiotherapydd

Disgrifia dy hun: Eclectig, gallu dal ati, chwilfrydig.

Mae Miriam yn gweithio fel ffisiotherapydd i dîm rygbi Richmond.

Mae hi'n mwynhau beicio, sgïo, nofio a deifio sgwba - ac mae hi hefyd yn honni ei bod yn fesitres ar y power nap!

Cyri Thai coch yw ei hoff rysáit ac mae'n hoff o Jamie Oliver am ei frwdfrydedd yn ceisio cael pawb i goginio.

Mae hi hefyd yn edmygu'r diweddar Keith Floyd am ei dalent o gael gwydriad o win wrth goginio ond mae'n mynnu nad oes neb gwell na'i mam am goginio cinio dydd Sul.

Ras agos oedd i enwi hoff fwyty Miriam - Skylon yn y South Bank yn Llundain; The Glasshouse yn Kew, Llundain a Plas Bodegroes yw'r tri ohonyn nhw.

Mae Miriam hefyd yn gobeithio tyfu llysiau ei hun am y tro cyntaf eleni.

Miriam WilliamsRhaglen Un

Wedi'r dosbarthiadau meistri fe gafodd y deuddeg sioc - sialens o greu Draenog y môr a salsa.

Roedd Miriam yn llwyddiannus ac mae hi gam yn nes at Tigh Dudley!

Miriam WilliamsRhaglen Dau

Ar ôl blasu gwin efo Arwel Owen o Gwinology roedd hi'n amser y sialens fawr - creu pryd o'u dewis nhw.

Macrell thai gyda nwdls a llysiau oedd ei dewis hi a Savignon blanc or byd newydd neu vino verde o Bortiwgal yn mynd yn berffaith.

Os hoffech y rysait ewch draw i'r dudalen ryseitiau.

Miriam WilliamsRhaglen Tri

Creu rysait gyda cynhwysion o fewn hanner can milltir i Kinsale oedd y sialens.

Hwyaden, champ neu colcannon a saws o'u dewis nhw.

Dan lygaid craff Carole Norman a Leona Robinson o fwyty Crackpots yn Kinsale roedd Miriam yn llwyddiannus a mae o gam yn nes i'r ffeinal.

Miriam WilliamsRhaglen Pedwar

Sialens creu brecwast a Miriam yn cael ei pharu gyda David. Llond plât a Peter Maypother o westy'r Blue Haven yn Kinsale yn bles iawn.

David a Miriam yn llwyddiannus ac yn cael pnawn bach o gwmpas Kinsale ac wrth gwrs gam yn nes i'r ffeinal.

Miriam WilliamsRhaglen Pump

Taith i fygdy Woodcock a sialens nôl yn y ty i greu 3 plât o fwyd wedi fygu.

Miriam wedi cael ei pharu gyda Steph ac yn creu tri plâ gwerth chweil

Miriam gam yn nes at y ffeinal.

Miriam WilliamsRhaglen Chwech

Wedi pryd bach sbeislyd roedd rhaid gwynebu cegin y Tigh, i ddechra fel t7icirc;m ond Dudley a'i driciau yn newid y sialens i fod yn her unigol.

Creu pryd o fwyd sbeislyd oedd y dasg a Miriam yn creu Maelgi gyda saws Thai.

Yna'n gwynebu un o sialensau anoddau'r gyfres - Pryd o Flas! Miriam yn llwyddo yn y sialens a mae hi'n un o'r tri olaf!

Miriam WilliamsRhaglen Saith

Y ffeinal fawr a Miriam yn paratoi sgalopiau mewn saws Thai, cig oen gyda tatws boxty a saws gwin coch a bisgedi brau gyda mefys balsamig yn bwdin.

Ymdrech dda gan Miriam ond yn anffodus bwydlen Wayne aeth a hi!