Neidio at y cynnwys

S4C

Beirniaid

Dudley Newbery Cyflwynydd

Dudley

Ar ôl gorffen recordio Casa Dudley llwyddiannus iawn yn Sbaen llynedd, mae bywyd wedi bod yn brysur iawn.

Ym Mis Rhagfyr fe ddechreuodd y gwaith o edrych am leoliad yn Iwerddon ar gyfer y gyfres Tigh Dudley eleni.

Bues i'n ffodus iawn o gael ymweld â llefydd mwyaf godidog Iwerddon, o westy Wineport Lodge yn Athlone (www.wineport.ie) a’r hyfryd Lisloughrey Lodge yn Co.Mayo (www.lisloughrey.ie) i Gastell Leslie yn County Monaghan (www.castleleslie.com).

Ym mis Mawrth fe ddechreuodd cystadleuaeth coginio'r Urdd gyda’r rowndiau cyntaf yn cymryd lle mewn ysgolion o gwmpas Cymru. Bu'r gystadleuaeth yn llwyddiant ysgubol gyda phlant led led Cymru'n cymryd rhan.

Un digwyddiad rwy'n ymweld â hi pob blwyddyn yw Gŵyl Bysgod Aberaeron. Mae'n gyfle i goginio pysgod sydd mor ffres, mae rhai ohonyn nhw'n dal i symud. Os nad ydych chi wedi bod o'r blaen, ewch flwyddyn nesa, mae e'n werth y siwrne.

Mae nifer o ddigwyddiadau hyrwyddo Tigh Dudley wedi digwydd eto eleni gydag S4C yn trefnu arddangosfeydd coginio o amgylch Cymru.

Rydw i hefyd yn prysur baratoi ar gyfer cyfres arbennig i'w darlledu dros y Nadolig, Pryd o Sêr, lle bydd wyth seleb o Gymru yn brwydro yn y gegin.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales