Rhaglen 1
Mae'r daith i Iwerddon wedi cychwyn.
Mae Dudley wedi bwyta ei ffordd drwy Gymru ac wedi dewis y deuddeg cystadleuydd.
Mae hefyd wedi trefnu dosbarthiadau meistri gwych ac wedi cael y cogyddion proffesiynol, Bryn Williams a Llinos Woods, i'w helpu ar y daith.
Ond gan mai cystadleuaeth yw hon, mae angen sialens hefyd.
Yr her wythnos yma oedd coginio draenog y môr a salsa.
Cafodd rhai dipyn o droeon trwstan yn y gegin tra roedd eraill yn serennu, ond mae'n rhaid dewis dau i fynd adref.
Yn camu drwy'r drws am adref oedd Iestyn o Bontypridd a Dylan o Fetws y Coed.
Buan iawn sylweddolodd y deg cystadleuydd oedd ar ôl nad gwyliau yw Tigh Dudley, ac mae'r gegin yn Llandrillo yn eu disgwyl unwaith eto!

Rhaglen 1
Rhaglen 2
Rhaglen 3
Rhaglen 4
Rhaglen 5
Rhaglen 6
Rhaglen 7
