Neidio at y cynnwys

S4C

Ryseitiau

Ryseitiau Pwdin

Posset lemwn

I 4 berson

Cynhwysion
  • 1 peint o hufen dwbl
  • 165g siwgr
  • 4 sudd a chroen lemwn
  • Sudd 4 leim
  • 150ml gwin gwyn
  • 4 llwy fwrdd crème de cassis
  • 60g siwgr eisin
  • Mint
  • 450g mefus, mafon, mwyar duon, llus
  • Siwgr a gwyn wy i addurno'r gwydrau
Dull
  1. Dod a’r hufen i'r berw.
  2. Pan yn berwi, rhoi croen a sudd y lemwn i mewn am ddim mwy na munud cyn straenio'r cymysg a'i osod mewn dysglau pert.
  3. Rhoi'r posset yn yr oergell a gadael iddo setio am ryw 2 awr.
  4. Cymysgu'r gwin, sudd leim, siwgr eisin a'r créme de cassis gyda’i gilydd.
  5. Torri'r mefus mewn i chwarteri.
  6. Rhoi'r ffrwythau mewn i'r gwydrau.
  7. Llenwi'r gwydrau gyda'r cawl.
  8. Torri'r mint a'i osod fel addurn ar ben y cawl.
Swffle Siocled
Cynhwysion
  • Dysglau ‘ramekin’ wedi eu hiro â menyn ac yna eu hysgeintio â siocled wedi gratio
  • 1 peint o laeth
  • 100g siwgr
  • 40g cocoa
  • 40g siocled pur
  • 80g blawd plaen
  • 6 gwyn wy
  • 200g siwgr caster
  • 200ml hufen
  • 200g siocled tywyll
  • 20ml wisgi
Dull
  1. Cynhesu’r llaeth mewn sosban.
  2. Cymysgu’r cocoa, blawd a’r siwgr at eu gilydd.
  3. Ychwanegu ychydig o laeth i’r gymysgedd sych a chymysgu’r cyfan, rhoi’r gymysgedd i gyd mewn i’r llaeth poeth sy’n berwi, a’i goginio am ychydig funudau.
  4. Ychwanegu’r siocled pur a’i gymysgu am ryw funud hyd nes bod y siocled wedi toddi.
  5. Chwisgo’r gwyn wy hyd nes yn ysgafn ac yn llenwi’r fowlen.
  6. Ychwanegu’r siwgr ychydig ar y tro hyd nes bod meringue ysgafn yn ffurfio.
  7. Ychwanegu’r gymysgedd siocled at yr wy a’i gymysgu’n dda, dylai’r gymysgedd fod yn ysgafn.
  8. Rhoi’r gymysgedd mewn i fag peipio a llenwi’r dysglau ‘ramekin’ a’u pobi yn y ffwrn ar 200⁰C am 10-15 munud.
  9. Rhoi’r siocled wedi ei dorri’n fach mewn powlen.
  10. Rhoi’r hufen mewn sosban a gadael iddo ferwi.
  11. Wedi iddo ferwi, arllwys at y siocled a’i gymysgu.
  12. Yn olaf, arllwys y wisgi i mewn.
  13. Pan yn gweini- gwneud twll bach yn y swffle ac arllwys y saws siocled i mewn iddo.
Strudel Ffrwythau'r Hâf
Cynhwysion
  • 1 ¾ owns o olew llysiau
  • 250g blawd cryf
  • ¼ peint dŵr claear
  • 1 wy
  • Pinsiad o halen
  • Yn ychwanegol - dŵr, siwgr, blawd
  • 750g amrywiaeth o ffrwythau hâf
  • 125g siwgr
  • 150g almonau wedi malu'n fân
Dull
  1. Hidlo'r blawd i mewn i fowlen fawr.
  2. Gwneud twll yng nghanol y blawd ac arllwys y cynhwysion eraill ar gyfer y past a chymysgu hyd nes bod y gymysgedd yn troi yn eithaf gludiog.
  3. Gorffwys dros nos.
  4. Gosod tywel a'i orchuddio â blawd cyn tynnu'r past i fod bron run maint a'r tywel.
  5. Brwsio ochrau'r toes gyda dŵr a llenwi 2/3 o'r past gyda'r ffrwythau, almonau a siwgr wedi eu cymysgu.
  6. Rholio'r strwdel i fyny a'i frwsio â llaeth a rhoi ychydig o siwgr ar ei ben i orffen.
  7. Pobi'r strwdel am 20 munud ar 180°C.
Dunbrody Kiss
Cynhwysion
  • 450g siocled tywyll wedi torri'n ddarnau
  • 5 wy wedi gwahanu
  • 600ml o hufen
  • 1 bar bach o Mars wedi torri'n ddarnau
  • 50g cornflakes, wedi malu'n ysgafn
Ar gyfer y darnau sioceld
  • 50g siocled tywyll, wedi torri'n ddarnau
  • 50g siocled gwyn
Ar gyfer y saws siocled
  • 75g siocled tywyll
  • 75ml hufen, ac ychydig bach mwy os bydd angen
  • Llond llaw o fafon a mefus wedi hanneru i'w addurno
Dull
  1. Toddi'r siocled tywyll mewn powlen dros sosban o ddŵr sy'n boeth sy'n ffrwtian.
  2. Ei adael i oeri ychydig bach.
  3. Chwipio'r melynwy yn ysgafn ac yna ei chwisgo i mewn i'r siocled sydd wedi toddi a'i gymysgu yn dda.
  4. Chwipio'r hufen mewn powlen hyd nes bod gennych chi begynau ysgafn ac yna mewn i'r gymysgedd siocled.
  5. Mewn powlen curo'r gwynnwy hyd nes yn bigau ac yna ei blygu mewn i'r gymysgedd siocled.
  6. Rhannu'r gymysgedd rhwng 6 x 200ml cwpan te sydd wedi eu leinio â haenen lynu.
  7. Ei oeri am o leiaf dwy awr neu dros nos fydda ora.
  8. Wedi i'r mws siocled setio, toddi'r sioceld mewn sosban fach.
  9. Ei dynnu oddi ar y gwres a phygu'r cornflakes a'r Mars i'r gymysgedd.
  10. Ei adael i oeri ac yna ychwanegu haenen i waelod pob mws siocled i ffurfio gwaelod crensiog.
  11. Ei roi yn y rhewgell am o leiaf 2 awr neu hyd at fis sy'n iawn.
  12. I wneud y darnau siocled, toddi'r siocled tywyll mewn powlen dros sosban o ddŵr poeth.
  13. Ail adrodd y broses gyda'r siocled gwyn mewn powlen arall.
  14. Ei adael i oeri hyd at wres ystafell.
  15. Leinio tun pobi gyda haenen lynu.
  16. Llwyo llwyaid o'r siocled tywyll a'r siocled gwyn ac yna ei orchuddio â darn arall o'r haenen lynu.
  17. Rholio'r cyfan yn ysgafn hyd nes bo'r siocled yn cyfarfod a chreu un haenen denau gwastad.
  18. Ei roi mewn rhewgell am o leiaf 10 munud neu hyd at un mis yn iawn.
  19. I wneud y saws siocled, rhoi'r siocled a'r hufen mewn sosban a'i goginio'n ysgafn am 1-2 munud hyd nes bod y siocled wedi meddalu.
  20. Dylai ansawdd y siocled orchuddio cefn llwy bren.
  21. Os ydych yn meddwl ei fod o'n rhy drwchus ychwanegu mwy o hufen.
  22. Ei adael i oeri a'i ddefnyddio'n syth neu ei roi mewn powlen ei orchuddio a haenen lynu ai oeri hyd nes yn barod i'w ddefnyddio.
  23. Bydd y saws yn cadw yn yr oergell am o leiaf dau ddiwrnod.
  24. Pan yn barod i'w weini, cynhesu'r saws siocled mewn powlen dros sosban o ddŵr poeth.
  25. Troi'r cwpanau te ben i waered dros rac weiren sydd wedi ei osod dros hambwrdd glan ac yna'n ofalus tynnu'r papur glynu.
  26. Arllwys ychydig o'r saws siocled dros bob un hyd nes eu bod wedi eu gorchuddio'n llwyr gan adael i'r gormodedd siocled ddiferu i'r hambwrdd.
  27. Gan ddefnyddio sbatwla crafu'r gormodedd saws siocled a'i roi mewn sosban fach ai ailgynhesu'n ofalus.
  28. Ei adael i oeri ychydig.
  29. Defnyddio sleis bysgod a trosglwyddo'r pwdinau bach siocled i blatiau gweini a'u gadael i ddadmer yng ngwres yr ystafell am 10 munud.
  30. Addurno'r cyfan gyda'r mafon a mefus ac ysgeintio ychydig o'r saws siocled dros ben y cyfan.
  31. Gan weithio'n gyflym iawn, tynnu'r haenen siocled tywyll a gwyn o'r rhewgell a phlicio'r haenen lynu i ffwrdd, torri'r siocled yn ddau / tri o ddarnau bras a'u sticio yn y Dunbrody Kiss.
Millefeuille peren gyda hufen Baileys
Cynhwysion
  • 3 gerllygen wedi' plicio a thynnu'r canol allan
  • ½ sbrigyn sinamon
  • ½ coden fanila
  • 1 peint o ddŵr
  • 175g siwgr
Haenau ffilo
  • 1 haen o grwst ffilo
  • 150g siwgr eisin
Hufen
  • 200ml hufen
  • 20g siwgr eisin
  • 50ml Baileys
  • Saws caramel i addurno'r plât gydag ychydig o resins wedi eu marineiddio
Dull
  1. Dod a'r dŵr, siwgr, fanila a sinamon i'r berw cyn rhoi'r peren i mewn i goginio.
  2. Coginio am ryw 20 munud wedi'u gorchuddio â phapur silicon.
  3. Pan yn barod, rhoi nhw yn yr oergell i oeri.
  4. Torri'r haenen ffilo mewn i 5 cylch maint gwahanol.
  5. Eu brwsio gyda dŵr a'u hysgeintio â siwgr eisin.
  6. Eu pobi yn y ffwrn ar 200°C hyd nes eu bod yn troi'n lliw euraidd.
  7. Ar y plât - torri'r peren mewn i 5 tafell a'u rhoi ar ben yr haenau ffilo am yn ail.
  8. Cymysgu cynhwysion yr hufen a'i weini gyda'r millefeuille.