Neidio at y cynnwys

S4C

Ryseitiau

Ryseitiau Cig

Caserol cig eidion a Guinness

I 4 person

Cynhwysion
  • 1kg (2 bwys) o gig eidion
  • 2 lwy fwrdd olew blodyn yr haul
  • 2 llwy fwrdd o flawd
  • Pinsied dda o halen a phupur
  • 3 winwnsyn - wedi'u torri'n ddarnau mawr
  • 4 gewyn garlleg - wedi'u torri'n fân
  • 2 helogan wedi torri'n ddarnau ½ modfedd
  • 2 moron wedi torri'n ddarnau ½ modfedd
  • 1 llwy fwrdd o ddail teim ffres
  • 1 llwy fwrdd piwrî tomato
  • 425ml (¾ peint) o stowt
  • 500ml stoc cig eidion
  • 3 llwy fwrdd o bersli ffres
  • 6 prwnsen wedi torri'n chwarteri
Dull
  1. Cynhesu'r olew mewn padell ffrio fawr.
  2. Gorchuddio'r cig yn y blawd sydd wedi sesno, yna'u hidlo.
  3. Coginio'r cig fesul tipyn hyd nes yn troi'n lliw euraidd a'u tynnu allan o'r badell a'u rhoi ar blât.
  4. Ychwanegu'r winwns, garlleg, moron a'r helogan a'u coginio hyd nes yn frown golau.
  5. Ychwanegu'r teim ffres, a'r piwrî tomato a'u coginio am funud.
  6. Arllwys y stowt a'i leihau, yna ychwanegu'r stoc. Mud ferwi'r cyfan.
  7. Ychwanegu'r cig a’r prŵns at y gymysgedd, rhoi caead ar y sosban a'i bobi mewn ffwrn poeth ar wres o 180°C am awr.
  8. Cyn gweini, ychwanegu'r persli ffres.
Cyw iâr supreme wedi ei stwffio ag eirin a chaws mozzarella, yna ei lapio mewn bacwn Gubbeen wedi ei fygu ac wedi ei weini gyda madarchen y maes wedi stwffio â garlleg a pherlysiau.
Ingredients
  • 4 cyw iâr supreme
  • 250g caws mozzarella
  • 1 eirinen aeddfed
  • 4 sleisen o facwn Gubbeen wedi mygu
  • 4 madarch y maes mawr
  • 50g cnau pîn wedi tostio
  • 50g teim
  • 200g briwsion bara
  • 25g menyn
  • 20ml gwin gwyn
  • 1 nionyn bach
  • 2 ewyn garlleg
  • Halen a phupur
Cynhwysion y jus
  • 1 nionyn wedi torri'n fân
  • 2 gewyn garlleg wedi malu'n fân
  • 50ml gwin coch
  • 2tbs Saws Caerwrangon
  • 1tbs jeli cwrens coch
  • 250ml stoc cig eidion
  • 1 deilen llawryf
  • Halen a phupur
Creision tatws
  • 1 Tatws mawr
  • Olew - digon i ffrio
Method
  1. Tynnu'r cig oddi ar asgwrn y cyw iâr a thynnu'r croen.
  2. Gwneud toriad yn un ochr o'r darn cig ond peidio torri reit trwyddo.
  3. Sleisio'r mozzarella yn 4 darn mawr a gwneud yr un peth gyda'r eirin.
  4. Rhoi darn o mozzarella ac eirinen ym mhob hollt a'i gau.
  5. Gosod darn o facwn ar y bwrdd a rhoi'r cyw iâr ar ei ben a'i lapio o amgylch y darn cig.
  6. Ail adrodd y broses gyda'r 3 darn cig arall.
  7. Gwaredu croen madarch y maes.
  8. Ciwbio'r nionod a'r garlleg a'u ffrio yn y menyn gyda'r perlysiau a'r cnau pîn, wedi meddalu, ychwanegu'r gwin gwyn a'i leihau.
  9. Ychwanegu'r briwsion bara a'i dynnu oddi ar y gwres ac yna ei sesno.
  10. Rhoi olew olewydd mewn padell ffrio a phan yn boeth ychwanegu'r cyw iâr ochr llyfn i lawr.
  11. Wedi newid i liw euraidd ei droi.
  12. Yna ei roi yn y ffwrn 175°C am 12 munud.
  13. Saith munud cyn gweini'r cyw iâr rhoi'r madarch wedi stwffio ar dun pobi a'i roi yn y popty am y 7 munud olaf gyda'r cyw iâr.
  14. I wneud y saws, ffrio'r nionyn a'r garlleg hyd nes yn feddal ac ychwanegu'r gwin coch a'r ddeilen llawryf.
  15. Ei leihau ac ychwanegu'r stoc cig eidion.
  16. Mud ferwi'r cyfan am 15 munud ac yna ei sesno.
  17. Os hoffech saws mwy trwchus ychwanegu ychydig o flawd corn wedi ei gymysgu â gyda dŵr.
  18. I wneud y creision tatws,gratio un daten fawr a gwaredu'r dŵr yna eu ffrio hyd nes yn troi'n lliw euraidd.
  19. Rhoi'r madarch ar blât poeth, sleisio'r cyw iâr yn hanner a'i roi ar ei ben.
  20. Arllwys y grefi dros y cyfan a'i ysgeintio â'r creision tatws.
Hwyaden sbeislyd
Cynhwysion
  • 4 brest hwyaden
  • 2 llwy de o hadau ffenigl, wedi eu malu'n fân
  • Pinsiad o hadau tsili
  • 2 llwy de o cwmin, wedi ei falu
  • 1 llwy de o bupur du
  • 1 llwy de o halen môr
  • 200ml sudd oren ffres
  • 150ml gwin coch
  • 3 llwy fwrdd o finag balsamig
  • 1 darn modfedd o sinsir wedi ei blicio a'i gratio
  • 12 seren anis
  • 2 eirin gwlanog - wedi eu rhannu'n 8 darn
Dull
  1. Rhicio croen yr hwyaden i greu siâp diemwnt - heb dorri i mewn i'r cig.
  2. Cymysgu'r hadau ffenigl, hadau tsili, y cwmin, pupur du a'r halen a'u rhwbio i mewn i groen yr hwyaden.
  3. Eu gosod ar blât a'u gorchuddio â haenen lynu.
  4. Rhoi'r plât yn yr oergell i sefyll am 3-4 awr.
  5. Torri'r eirin gwlanog yn eu hanner a thynnu'r garreg.
  6. Torri pob hanner i 4 o ddarnau.
  7. Cynhesu padell ffrio a gosod yr hwyaden â'u croen i lawr.
  8. Eu coginio hyd nes yn troi'n lliw euraidd am ryw 3-4 munud.
  9. Troi'r hwyaden a'u coginio am 3-4 munud arall.
  10. Tynnu'r hwyaden o'r badell a'u gosod i sefyll ar blât poeth.
  11. Tynnu'r braster ychwanegol o'r badell ac arllwys y gwin, finag, sudd oren, seren anis a'r sinsir i mewn, ei goginio a'i ferwi ac wedyn gadael iddo fudferwi hyd nes iddo leihau o 1/3 mewn cyfaint.
  12. Ychwanegu'r eirin gwlanog i'r saws a gosod yr hwyaden yn ôl i'r badell gyda'r croen i fyny, a gadael iddo fudferwi am 3 munud.
  13. Tynnu'r hwyaden o'r badell a gadael iddo sefyll am 3-4 munud arall cyn ei dorri'n 6 darn.
  14. Ei weini gyda'r saws, darnau o eirin gwlanog a'r seren anis.
Rysait Wayne yn Rhaglen 2 - Ffiled o gig eidion Cymreig, tatws Dauphinoise, merllys tymhorol, tomatos balsamaidd â saws pupur du.
Tatws Dauphinoise
  • 6-7 taten wedi eu torri'n haenau tenau
  • 300ml hufen dwbl
  • 5 gewyn garlleg wedi eu torri'n fân
  • 1 winwnsyn wedi ei dorri yn hanner cylch yn erbyn y graen
  • 60g caws Swiss Gruyerre wedi ei gratio
  • 50g caws Parma di reggiano wedi ei gratio
  • Halen a Phupur
Tomato Balsamaidd
  • 12 Tomato ar y gangen
  • Finegr balsamaidd
Merllys Tymor Newydd
  • 12 o ferllys ffres
Ffiled o gig eidion
  • 4 Ffiled
  • Ciwbiau o fenyn
  • Olew olewydd
  • Saws pupur du
  • 1½ llwy fwrdd o bupur du wedi eu malu'n fân
  • Cwpan o flawd
  • 8 owns hylifol o stoc cig eidion
  • Cwpan o hufen dwbl
  • Joch da o frandi
Dull
  1. Gosod ychydig o'r tatws ar waelod powlen addas ar gyfer y ffwrn a gwasgaru ychydig o'r winwns a'r garlleg ar ei ben a'i sesno.
  2. Ail adrodd y broses hyd nes bod y bowlen yn llawn.
  3. Arllwys 200ml o'r hufen dwbl ar ben y tatws a'i roi yn y ffwrn ar 180°C am 30 munud.
  4. Tynnu'r tatws allan a gwasgaru'r caws Gruyerre a'r Parma di Reggiano dros ei ben cyn ei goginio am 30 munud arall.Rhannu'r tomatos fel bod 3 ar bob cangen.
  5. Torri mewn i'r tomatos gyda chyllell finiog.
  6. Eu gosod mewn padell ffrio ac ychwanegu llwy de o'r finegr cyn eu coginio yn y ffwrn ar 180°C am 10 munud.
  7. Torri gwaelod y merllys.Eu torri fel eu bod yr un hyd.Plicio'r croen caled o'u gwaelod a'u stemio am 10 munud.
  8. Rhaid gwneud siŵr fod y cig allan o'r oergell am hanner awr cyn eu coginio a'i fod wedi cynhesu i wres yr ystafell.
  9. Sesno'r cig.
  10. Twymo'r badell.
  11. Coginio'r cig am 4 munud.
  12. Troi'r cig a'i goginio am 4 munud arall.
  13. Gadael i'r cig ymlacio am 5 munud cyn ei weini.
  14. Defnyddio'r olew sy'n weddill o'r stecen.
  15. Cadw'r gwres yn gymedrol ac ychwanegu'r blawd.
  16. Ychwanegu'r pupur a'r stoc.
  17. Troi'r gwres i lawr er mwyn atal y saws rhag tewhau'n rhy gyflym, ei goginio'n araf am 3 munud.
  18. Ychwanegu'r brandi a'r hufen a'i gymysgu.
Rac o gig oen Cymreig ar rosti tatws a seleriac gyda jus port a llugaeron gyda merllys a moron tymhorol.
Cynhwysion
  • Rac o gig oen Cymreig ( French trimed)
  • Powdwr mwstard
  • Puprennau du
  • Puprennau gwyn
  • Olew Olewydd (defnyddiais olew gydag ychydig o rosmari wedi mwydo ynddo er ychydig wythnosau)
Ar gyfer y jus
  • 2 sialóts wedi torri'n fân
  • 1 gewyn garlleg wedi torri'n fân
  • Peint o stoc ( un cyw i7acirc;r cartref yn ddelfrydol)
  • 50ml port
  • 1tsp siwgr crai tywyll
  • 1tsp siwgr crai golau
  • 1tbs llugaeron
  • Menyn (opsiynol)
Ar gyfer y rhosti
  • Ychydig o datws Maris Piper
  • Tua 1/3 o seleriac i'r tatws
  • Sbrigyn o rosmari ffres
  • Ychydig o ddail mintys
  • Halen Môn
Llysiau
  • Merllys ffres
  • Moron bach
Dull
  1. Cynhesu'r popty i 170°:C yn barod ar gyfer y cig oen.
  2. Cyn i chi gychwyn, gwneud yn saff fod popeth wedi paratoi a'r cig wedi cyrraedd tymheredd ystafell.
  3. Dros wres cymedrol, cynhesu olew mewn padell ffrio ac ychwanegu'r sialóts a'r garlleg gan fod yn ofalus i beidio'i llosgi nhw.
  4. Ychwanegu'r llugaeron, cymysgu, ac yna ychwanegu'r siwgr gan ei droi'n rheoliad cyn ychwanegu'r port.
  5. Gadael y cyfan i ddod i'r berw a thoddi'r siwgr.
  6. Pan fo ansawdd surop ar y saws, ychwanegu'r stoc yn araf a'i adael i leihau a mwydo.
  7. Dyma'r rhan bwysicaf o'r jus ac mae'n werth ei wneud.
  8. Fe allwch chi ychwanegu menyn os dymunwch roi sglein, a phan yn barod i'w weini ei hidlo os ydych yn dymuno saws, ac fe allwch ddefnyddio'r llugaeron, sialóts a'r garlleg fel siytni.
  9. Yn y cyfamser cynhesu sosban o ddŵr hallt a'i ddod i'r berw.
  10. Gwynnu'r llysiau am 2 funud yn unig.
  11. Ei dynnu oddi ar y gwres mor sydyn â phosib.
  12. Dŵr ia ydi'r gorau ond fe wnaiff dŵrr oer yn iawn.
  13. Bydd y llysiau yn barod i'w coginio cyn gweini.
  14. Plicio a gratio'r tatws ac 1/3 o'r seleriac.
  15. Golchi'r cyfan yn drylwyr i waredur starch.
  16. Sychu'r gymysged mewn tywel cegin glan a'i wasgu hyd nes bod rhan fwyaf o'r dŵr wedi mynd.
  17. Ail adrodd hyn mewn tywel cegin glan arall hyd nes bod y gymysgedd mor sych â phosib.
  18. Cymysgu ychydig o halen a rhosmari wedi cleisio, ac ychydig bach o fintys, a'i ychwanegu at y tatws a'r seleriac.
  19. Nesa, gwnewch y cig oen cyn ffurfio cylch o rosti a'i ffrio mewn padell hyd nes wedi carameleiddio.
  20. Yn ofalus troi'r rosti ben i waered a choginio'r ochr arall cyn ei drosglwyddo i'r popty i orffen coginio gyda'r cig oen.
  21. Pan fo'r cig oen yn gorffwys fe all y rhosti gael ei gadw'n gynnes yn y popty.
  22. Cynhesu padell addas ar gyfer y popty ac ychwanegu ychydig o'r olew rhosmari.
  23. Rhwbio braster y cig oen gyda'r mwstard.
  24. Ychwanegu ychydig o'r puprennau du a gwyn.
  25. Rhoi'r cig oen â'i fraster i lawr a selio'r cig i'w frownio.
  26. Gwneud hyn i bob rhan o'r cig am ychydig funudau yn ddibynnol ar faint y rac oen.
  27. Gan wneud yn saff fod braster y cig yn wynebu'r top rhoi'r cig yn y popty am 17-20 munud.
  28. Ei dynnu o'r popty ei orchuddio â ffoil a'i adael i orffwys am 10-14 munud cyn sleisio'r cig oen a rhoi ar ben y rhosti.
  29. Fydd y llysiau ddim ond angen ychydig funudau o goginio mewn dŵr berw hallt cyn eu gweini.
  30. Arllwys y jus ar y plât a rhoi'r gweddill mewn jwg.
  31. Rhoi'r rosti yn y canol ac yna'r cig oen ar ei ben gyda'r siytni a'r llysiau ar ochr y plât.
Hwyaden gyda Colcannon, Creision Pannas gyda Saws Port a Rhiwbob
Cynhwysion
  • 1 pannas
  • 1 potel o olew llysiau
  • Halen
  • 450g tatws newydd, wedi eu plicio
  • 6 deilen bresych Savoy, wedi torri'n fân
  • 3 coes shibwns, wedi torri'n fân
  • 15g menyn
  • Halen a phupur
  • 2 frest hwyaden
  • 3 coes rhiwbob, wedi torri'n giwbiau bras
  • 15g siwgr mân
  • 250ml port
  • 150ml stoc cyw iâr
Dull
  1. Cynhesu hanner llond sosban fawr gyda'r olew llysiau a'i gynhesu i wres o tua 160°C
  2. Plicio croen y pannas, yna defnyddio pliciwr neu fandolin i'w dorri'n haenau tenau.
  3. Ffrio'r haenau o bannas am tua 4 munud, gan eu troi pob munud hyd nes eu bod yn euraidd.
  4. Gosod ar bapur cegin ac ysgeintio ychydig o halen dros bob un.
  5. Gadael i sychu.
  6. Rhoi'r tatws i ferwi mewn dŵr hallt hyd nes eu bod wedi coginio.
  7. Rhoi'r bresych i ferwi mewn dŵr hallt am 2 funud.
  8. Draenio'r tatws a'u stwnsio â fforc.
  9. Draenio'r bresych a'i ychwanegu at y tatws gyda'r menyn, halen a phupur a'r shibwns.
  10. Cymysgu'r cyfan yn dda.
  11. Defnyddio cyllell finiog i roi rhychau yng nghroen yr hwyaden a'i sesno'n dda.
  12. Rhoi ochr y croen i lawr mewn padell ffrio a dechrau coginio'r hwyaden dros wres isel.
  13. Ei bastio wrth fynd ymlaen.
  14. Unwaith fod croen yr hwyaden wedi lleihau, ei roi ar dun pobi a'i goginio yn y ffwrn am 12 munud (Amser coginio'n dibynnu ar drwch yr hwyaden a hoffter personol.)
  15. Gadael i'r hwyaden ymlacio am ryw 5 munud cyn ei sleisio ar ongl.
  16. Rhoi'r siwgr a'r rhiwbob mewn sosban a'i goginio dros wres isel - canolig am 5 munud.
  17. Ychwanegu'r port a dod a'r cyfan i ferwi am 2 funud.
  18. Ychwanegu'r stoc a berwi'r cyfan hyd nes bod y rhiwbob yn edrych fel saws - tua 8 munud.
  19. Hidlo'r saws.
Cig Oen gyda relish tad-cu.
Cynhwysion
  • Llond dwrn o rosmari
  • Llwyaid o fêl
  • Joch o win coch
  • 2 golwyth cig oen
  • ½ oren, y croen a'r sudd
  • 2 gewyn garlleg
  • 120g bara lawr
  • 50g o gnau pîn wedi eu tostio
  • 50g o hadau sesame wedi eu tostio
  • 70g o geirch wedi eu tostio
  • Sudd lemwn - at eich dant
  • Halen a phupur
  • Olew olewydd
  • 2 tatws melys wedi torri'n giwbiau
  • ¼ gwrd cneuen felys
  • Winwnsyn coch maint canolig
  • Garlleg - at eich dant wedi ei falu'n fân
  • Rhosmari
  • 1 oren, y croen
  • Llwyaid fawr o jeli cwrens coch
  • Llond dwrn o fintys wedi ei falu'n fân
  • Llwyaid fawr o ddŵr berw
  • Llwyaid fawr o siwgr
  • Joch o finegr balsamaidd
  • Llysiau tymhorol - o'ch dewis chi - pys, ffa, merllys ayyb
Dull
  1. Rhoi'r gwrd, y tatws a'r winwns mewn tun rhostio.
  2. Taenu'r garlleg, olew a rhosmari dros y gwrd, tatws a'r winwns.
  3. Rhoi'r cyfan mewn popty cynnes 200°C, 180°F, Nwy 6 am tua 25 munud, hyd nes bod y tatws a'r gwrd yn feddal.
  4. Berwi dŵr a rhoi llwyaid mewn jwg.
  5. Ychwanegu'r siwgr i'r dŵr berw a'i doddi.
  6. Ychwanegu'r finegr balsamaidd a'r mintys a gadael i'r gymysgedd fwydo am ychydig funudau.
  7. Ychwanegu croen yr oren a'r jeli cwrens coch i'r gymysgedd a'i roi mewn lle cynnes i fwydo ymhellach.
  8. Tostio'r cnau pôn a'r hadau sesame.
  9. Tostio'r ceirch.
  10. Paratoi'r croen yr oren a'r sudd a'i rhoi mewn powlen.
  11. Ychwanegu'r bara lawr a'r garlleg i'r oren.
  12. Ychwanegu'r ceirch, hadau a chnau i'r gymysgedd yn y bowlen.
  13. Ychwanegu halen a phupur a sudd lemwn at eich dant eich hun a chymysgu'r cyfan.
  14. Rholio'r gymysgedd yn beli bach.
  15. Mewn padell, ffrio'r golwyth oen mewn menyn ac olew, tua 3-4 munud bob ochr, yn ddibynnol ar drwch y golwyth.
  16. Rhoi'r golwythion a'r peli stwffin mewn tun rhostio a'u rhoi mewn popty cynnes am tua 10 munud.
  17. Arllwys gwydriad o win coch i mewn i badell ffrio'r golwythion.
  18. Ychwanegu llwyaid o fêl ac ychydig o rosmari.
  19. Gadael i'r cyfan ferwi'n ysgafn am ychydig, er mwyn lleihau'r saws.
  20. Berwi'r llysiau am ychydig funudau mewn sosban o ddŵr berw.
  21. Rhoi'r gymysgedd tatws melys gyda golwythen a'r bêl stwffin a'r llysiau, yna llwyo'r relish ar ben y stwffin, ac arllwys y saws yn ysgafn dros y cyfan.
Stecen gyda saws madarch gwyllt a thatws garlleg
Cynhwysion
  • 150g tatws wedi eu torri'n giwbiau bach
  • 3 gewyn garlleg yn eu crwyn
  • 1 llwy de olew olewydd
  • Halen môr a phupur du
  • 1 llwy fwrdd olew olewydd
  • 25g menyn
  • ½ winwnsyn wedi ei sleisio
  • 1 gewyn garlleg wedi ei dorri
  • 60g madarch gwyllt amrywiol wedi eu torri
  • Mymryn o win gwyn
  • 3 llwy fwrdd o hufen dwbl
  • 1 x 200g stecen - ffiled
  • 1 gewyn garlleg wedi ei haneru
  • Olew olewydd
  • 2 lwy de o bupur du wedi ei falu
Dull