Neidio at y cynnwys

S4C

Ryseitiau

Ryseitiau Llysiau

Champ

I 4 berson

Cynhwysion
  • 100g Shibwns
  • 140ml o laeth
  • 900g tatws
  • 75g-100g o fenyn
  • Menyn i weini
Dull
  1. Rhoi'r shibwns a'r llaeth mewn sosban a gadael i'r cyfan ddod i'r berw yna ei dynnu oddi ar y gwres a gadael iddo fwydo.
  2. Berwi tatws yn eu crwyn am 30-40 munud neu hyd nes yn dyner.
  3. Eu draenio a gwaredu'r croen.
  4. Gosod y tatws nôl yn y sosban, eu gorchuddio a'i dwymo am ychydig funudau.
  5. Tynnu'r tatws oddi ar y gwres a'i stwnshio gyda menyn hyd nes yn llyfn.
  6. Ail dwymo'r llaeth a'r shibwns ac yn raddol eu hychwanegu a'u cymysgu i'r tatws gyda llwy bren er mwyn cadw'r tatws yn ysgafn.
  7. Eu sesno'n dda.
  8. Gweini'r tatws gyda thwll yn y canol er mwyn gadael i'r menyn doddi ynddo.
Colcannon
Cynhwysion
  • 1lb bresych
  • 2lb o datws
  • 2 genhinen fach
  • 1 cwpan o laeth
  • Halen a phupur i flas
  • ½ cwpan a 2 llwy fwrdd o fenyn
  • Ychydig o nytmeg
Dull
  1. Creiddio, chwarteru a thorri'r bresych yn fân a'i osod mewn sosban.
  2. Ei goginio mewn dŵr hallt am 15 munud, neu hyd nes yn dyner.
  3. Plicio a thorri'r tatws mewn i ddarnau 2 fodfedd a'u coginio mewn dŵr hallt, am oddeutu 15 munud.
  4. Draenio'r bresych a'i dorri'n ddarnau mân.
  5. Draenio'r tatws a'i stwnshio â llaw.
  6. Torri'r cennin yn fân a'u rhoi mewn sosban digon mawr i ddal y bresych a'r tatws.
  7. Ychwanegu'r llaeth a'i goginio am ryw 8-10 munud dros wres cymedrol.
  8. Ychwanegu'r tatws, halen, pupur a'r nytmeg at y winwns a'r llaeth a'u cymysgu dros wres isel.
  9. Ychwanegu'r bresych a'r ½ cwpan o fenyn a'i droi hyd nes ei fod yn edrych fel tatws stwnsh.
  10. Gosod y gymysgedd ar ganol plât gyda thwll yn y canol er mwyn ychwanegu gweddill y menyn.