Cymru Iolo
Iolo Williams sy'n trafod pa ddarnau o dir yng Nghymru sydd wedi dylanwadu ar ei fywyd a'i yrfa.
-
Caeathro
Mwngrel go iawn ydw i. Ges i fy ngeni yn Llanfair-ym-muallt a symud i Fiwla, Brycheiniog ac Eglwys Wen, Sir Benfro cyn ymgartrefu yn Llanwddyn yn bump oed. Athrawon oedd fy rhieni. Mab ffarm o ardal Cwmtwrch oedd fy nhad, a mam o Gaeathro ger Caernarfon. Roedden ni'n mynd i Gaeathro yn reit aml fel plant ac roedd fy nhaid, Owen Williams, bob amser yn fy siarsio i fynd allan i'r caeau i chwilio am nythod. Dyma oedd y diléit mawr fel plentyn, a dysgais bryd hynny i barchu byd natur.
-
Llanwddyn
Fy magwraeth yn Llanwddyn, lle'r oedd fy nhad yn brifathro ysgol gynradd y pentref, a hadodd y cariad mawr at natur. Roedd hi'n ardal wych i gael hyd i fywyd gwyllt, yn adar cymharol brin fel y grugiar ddu a bod tinwen neu'n blanhigion, blodau, mwswgl neu laswelltydd prin. Roeddwn i'n un o bedwar o blant a phryd hynny, roedd hi'n gymdeithas glos Gymraeg ond mae wedi colli peth o'i chymeriad erbyn hyn.
-
Llandysul
ger TrefaldwynDyma fy nghartref i ers blynyddoedd a chalon fy mywyd i. Mae natur y gwaith yn golygu mod i oddi cartre' yn ffilmio gryn dipyn. Ond dwi bob amser yn anelu at fod gartref ar benwythnosau hefo Ceri, fy ngwraig a'r bechgyn, Dewi, 11 a Tomos, 8. Dwi'n helpu hyfforddi tîm rygbi dan 13 oed Y Drenewydd ers i mi ymddeol o chwarae ddwy flynedd yn ôl a dwi wastad yn ceisio bod gartre i weld y tîm yn chwarae. Mae treulio amser hefo'r bechgyn a Ceri a mwynhau bod gartre yn hollbwysig.
-
Y Drenewydd
Fanna ddechreuodd fy ngyrfa ym myd natur a chadwraeth. Dyma le cefais i'n swydd barhaol gyntaf hefo'r RSPB, Y Gymdeithas Frenhinol Er Gwarchod Adar, oedd â chanolfan yn y dref. Fe ddysgais i gymaint am Gymru, heb sôn am adar, wrth gynnal arolygon o afonydd, coetiroedd a thiroedd uchel ledled y wlad. Doeddwn i ddim wedi bwriadu gweithio yn y cyfryngau, ond roedd teledu a radio yn fy ffonio i pan oedd ganddyn nhw straeon am y Barcud Coch neu adar prin eraill ac fe ddatblygodd y gwaith o fanny. Dwi wedi bod yn ffodus i gael gwaith yn dilyn fy hobi a chael cyfle i roi cynnig ar bethau fel mynd i ogofau tanddaearol, paragleidio a deifio. Yn y gyfres Tir Cymru, dwi wedi cael golwg ar fyd go dirgel dan y dŵr a sylweddoli cymaint o rywogaethau trawiadol - o ddolffiniaid a llamidyddion i anemonae a chrwbanod môr - sy'n cael eu denu i arfordir Cymru.
-
Eryri
Mae Eryri wedi bod yn ysbrydoliaeth i mi fel naturiaethwr erioed ac mae Cwm Idwal yn enwedig yn agos at fy nghalon. Fe ddaeth y gwyddonydd Charles Darwin yma i astudio olion yr Oes Iâ sydd wedi sgathru'r cwm. Does yna nunlle'n well na'n gwlad fach ni i fwynhau amrywiaeth mor eang o gynefinoedd. Un rhan o Eryri welais i erioed tan ffilmio Tir Cymru oedd y gwaith llechi o dan y mynyddoedd yn ymyl y Cnicht yng Nghwm Croesor. Roedd bod dan y ddaear am saith awr yn y tywyllwch dudew yn dipyn o antur. Y mwyaf rwy'n teithio'r byd, po fwyaf wy'n gwerthfawrogi Cymru. Mae Eryri yn lle arbennig i flasu'r cynefinoedd amrywiol hyn ond mae o hefyd yn lle da i enaid gael llonydd.
