Rhaglenni
-
Creu Llun
Iolo Williams sy'n cymryd golwg ar dirweddau Cymru a'r bywyd gwyllt sydd yn byw arnyn nhw. Mae'n darganfod sut cafodd tir Cymru ei ffurfio a’i siapio dros filiynau o flynyddoedd.
-
O Dan yr Wyneb
Mae Iolo Williams yn teithio o dan y ddaear. Mae golygfeydd syfrdanol mewn ogofau a mwynfeydd tanddaear yng Nghymru ac mae Iolo yn ein tywys i ddarganfod y tirluniau rhyfeddol sydd tu mewn i ogofau naturiol a'r rhai sydd wedi eu creu gan bobol.
-
O Dan y Môr
Yn y drydedd rhaglen, bydd Iolo'n mentro o dan donnau arfordir Cymru. Yno, mae'n darganfod morloi cymdeithasol, llongddrylliadau sy'n gartref i greaduriaid o bob math a golygfeydd syfrdanol.
-
Ôl Gwaith
Mae'r tirlun diwydiannol yn aml yn annisgwyl o brydferth ac yn cynnal bywyd gwyllt rhyfeddol o gyfoethog. Bydd Iolo'n darganfod sut mae chwareli, glofau a diwydiannau eraill wedi newid gwedd a natur Cymru.
-
Dilyn Llwybrau
Bydd Iolo'n mynd ar daith ar hyd llwybrau sydd wedi cael eu creu gan bobl. Bydd yn edrych ar y tirlun sydd wedi ei ffurfio gan hen ffyrdd Rhufeinig, llwybrau'r porthmyn, rheilffyrdd a hyd yn oed y traffyrdd newydd.
-
Y Tirlun
Ucheldir, iseldir a'r trefi. Bydd Iolo'n gofyn pam: eu bod nhw'n edrych fel maen nhw; beth sydd o dan yr wyneb sy'n creu eu cymeriad a sut fydd y dirwedd yn newid yn y dyfodol?
