Neidio at y cynnwys

S4C

TOCYN

Croeso i wefan Tocyn Penwythnos. Yn ystod y gyfres byddwn ni'n cynnig syniadau am ddinasoedd i ymweld â nhw ar benwythnosau i ffwrdd ym Mhrydain ac Ewrop.

Aled Samuel ac Alex Jones fydd wrth y llyw, a bydd y ddau'n aros mewn detholiad o westai amrywiol o ran pris, ac yn darganfod rhai o'r atyniadau sydd ar gael i ymwelwyr. Yn ymuno â nhw ar bob taith, bydd teulu neu gwpl, a byddwn ni'n rhannu eu hargraffiadau nhw o'r ddinas dan sylw.

Yn ystod y gyfres byddwn yn ymweld â 6 dinas sydd o fewn pellter cyrraedd hawdd i ni yng Nghymru: Caerdydd, Lerpwl, Berlin, Llundain, Glasgow a Palma, yn y drefn honno.

Rhaglenni

  • Nadolig - Lapland UK

    Y Gwestai

    Aled
    Seld in the City - fflat Soffia

    www.lletybodfor.co.uk

    Fflat hunanarlwyo soffistigedig gyda dwy ystafell wely, lolfa a chegin wedi ei lleoli ar un o ffyrdd mwyaf adnabyddus Caerdydd, Heol y Gadeirlan. Mae'r lleoliad yn gyfleus iawn i chi fwynhau'r cyfan sydd gan Gaerdydd i'w gynnig.

    LLETY

    Alex a theulu Wynne
    Gwesty'r Royal Wells

    www.royalwells.co.uk

    Roedd gwesty 4 seren y Royal Wells yn Royal Tunbridge Wells yn un o hoff leoliadau'r Frenhines Fictoria, lle bu'n ymweld yn gyson pan oedd yn dywysoges ifanc. Mae'r teitl brenhinol o ganlyniad i ymweliadau'r frenhines. Yn ddiweddarach rhoddodd y defnydd o'i harfbais i'r adeilad sydd bellach yn cael ei harddangos yn falch ar dô'r adeilad.

    Mae gan y gwesty hwn 23 ystafell wely en-suite moethus; pob un wedi eu cynllunio'n unigol ac wedi ei ddodrefnu gan hen ddodrefn.

    ATYNIADAU

    Alex a theulu Wynne
    'Lapland UK'

    www.laplanduk.co.uk

    Oriau agor: 4 Rhagfyr - 24 Rhagfyr 2010 9:00 - 22:00

    Mae Lapland UK yn ail gread o famwlad Arctig Siôn Corn wedi ei leoli ar ystad Bewl Water yng Nghaint, 40 milltir o ganol Llundain. Mae'r profiad yn un hudolus, lle gall teuluoedd Brofi cred plentyn yn stori Siôn Corn.

    Mae Lapland UK yn deillio o uchelgais i greu hud y Nadolig i blant mewn modd mwy amgylcheddol na theithio i begwn y Gogledd. Trwy ddarparu profiad Siôn Corn o safon uchel ym Mhrydain, gall plant fwynhau taith diwrnod Nadoligaidd heb y milltiroedd o deithio.

    Mae'r gweithgareddau'n cynnwys:

    Ymweld â'r ffatri deganau, helpu Mam Corn yn ei chegin, ymweliad â'r Arddangosfa Sami, cyfarfod cŵn hysgi, postio llythyrau yn swyddfa bost Pegwn y Gogledd, sglefrio iâ ac wrth gwrs, cwrdd â Siôn Corn

    LLETY

    www.santa-holidays.com/resortpyha.php

    Mae cyrchfan Pyha yn cynnig nifer wahanol fathau o lety

    Aled

    Dewisodd Aled ystafell ym mhrif westy'r gyrchfan lle mae'r bwyty wedi ei leoli. Mae'r gwesty yn cynnwys amrywiaeth o ystafelloedd ar gyfer 2 neu 3 o bobl ac ychydig o ystafelloedd sy'n addas i deulu hyd at 4 o bobl.

    Mae hwn yn ddewis da os ydych yn dymuno hwyluso'ch arhosiad

    Teulu'r Brown

    Dewisodd teulu'r Brown gaban pren agored sy'n addas i deuluoedd 3 i 6 o bobl. Mae gan bob caban sawna ac ystafelloedd ymolchi gyda chawod. Mae bob caban tua 5 i 10 munud o gerdded o fwyty'r gwesty.

    ATYNIADAU

    Aled a theulu'r Brown
    Tri diwrnod o drysorau Lapdir

    www.santa-holidays.com

    Mae teithiau i Lapdir yn hedfan o'r rhelyw o feysydd awyr rhanbarthol, ond os yn mynd ar wyliau o ddau ddiwrnod neu fwy i Lapdir, fydd hi ddim ond yn bosib hedfan o Gatwick, Stansted neu Fanceinion.

    Hedfan o Gatwick i faes awyr Rovaniemi - amser teithio tua 3 ½ awr.

    Mae taith o Faes Awyr Rovaniemi i Pyha tua 1 awr 40 munud.

    Mae'r antur tri diwrnod yn cynnwys reidiau ceirw, hysgi a skidoo a chyfarfod Siôn Corn a'i ellyllon.

    Gan y gall amodau tywydd Arctig arwain at gamerâu fideo yn rhewi mae'r cwmni yn cynnig DVD personol o'ch taith a'ch profiad yn Lapdir.

  • 1/ Caerdydd

    Y Gwestai

    Aled
    Seld in the City - fflat Soffia

    www.lletybodfor.co.uk

    Fflat hunanarlwyo soffistigedig gyda dwy ystafell wely, lolfa a chegin wedi ei lleoli ar un o ffyrdd mwyaf adnabyddus Caerdydd, Heol y Gadeirlan. Mae'r lleoliad yn gyfleus iawn i chi fwynhau'r cyfan sydd gan Gaerdydd i'w gynnig.

    Alex
    Nos Da

    www.nosda.co.uk

    Mae Nos Da yn ddewis perffaith i unrhyw un sydd â chyllideb fechan ac sydd eisiau cymdeithasu mewn man canolog ym mhrifddinas Cymru. Mae'r hostel ar lan yr afon Taf yng nghysgod Stadiwm y Mileniwm. Trawsnewidiwyd Nos Da o westy dwy seren i hostel 5 seren gydag ystafelloedd en suite a champfa.

    Y Teulu McKee
    Gwesty "Big Sleep Hotel"

    www.thebigsleephotel.com

    02920 636 363

    Mae gwesty Big Sleep yng nghanol Caerdydd gyferbyn â chanolfan siopa Dewi Sant 2. Mae'r gwesty o fewn pellter cerdded i nifer o lefydd bwyta ac atyniadau'r ddinas. Mae'r gwesty wedi ei anelu at y sawl sydd eisiau gwesty cyfforddus a chyfleus am bris gymharol rad. Mae gan bob ystafell deledu sgrin fflat, wi-fi, adnoddau te a choffi, a chynigir brecwast cyfandirol am ddim.

    Nid yw S4C yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau allanol

    YR ATYNIADAU

    Aled
    Canolfan feiciau "Pedal Power"

    www.cardiffpedalpower.org

    info.pedalpower@btconnect.com

    Gwasanaeth llogi beiciau ym Mhontcanna sydd ar agor i'r cyhoedd 7 diwrnod yr wythnos. Gellir llogi beiciau o wahanol faint i ddynion, merched a phlant ynghyd â seddi i fabanod, a beiciau arbennig eraill.

    Swyddfa Pontcanna (02920) 390713

    Swyddfa Bae Caerdydd (07775) 616411

    Llwybr y Taf

    www.tafftrail.org.uk

    Llwybr 55 milltir (88km) o hyd ar gyfer cerddwyr a seiclwyr. Yng Nghaerdydd mae'n mynd o lannau'r Bae ar hyd corridor y Taf at Dongwynlais.

    Castell Coch

    www.cadw.wales.gov.uk

    www.wales360.co.uk/castell_coch

    Castell 'Tylwyth Teg' o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, wedi ei adeiladu ar weddillion o'r Canol Oesoedd, wedi ei gynllunio ar gyfer trydydd marcwis Bute gan William Burges.

    Eglwys Gadeiriol Llandaf

    www.llandaffcathedral.org.uk

    Lleolir Eglwys Gadeiriol Llandaf yn Llandaf. Hi yw'r unig gadeirlan Anglicanaidd yn y brifddinas. Cynhelir gwasanaeth dyddiol. Mae'r siop ar agor o 10am-4pm bob dydd.

    Castell Caerdydd

    www.cardiffcastle.com

    Canolfan y Mileniwm

    www.wmc.org.uk

    Mae teithiau tywys o gwmpas y Ganolfan yn rhedeg yn ddyddiol ac yn para 1 awr. Mae'r niferoedd yn gyfyngedig, felly awgrymir ffonio i neilltuo lle ar 029 2063 6464

    Alex
    Marchnad Caerdydd

    www.cardiff-market.co.uk

    Mae Marchnad Caerdydd wedi ei lleoli yng nghanol bywiogrwydd a chyffro dinas Caerdydd. Mae dwy fynedfa, y naill ar Heol Eglwys Fair a'r llall yn Heol y Drindod gyferbyn ag Eglwys Sant Ioan. Mae'r farchnad yn cynnig amryw o stondinau a chynnyrch gwahanol o dan yr un to.

    Am fwy o fanylion, ffoniwch 02920 871214

    Bws taith y ddinas

    www.citysightseeing.com

    Y daith: City Sightseeing Caerdydd

    Man cychwyn Castell Caerdydd

    Canolfan y Celfyddydau Chapter

    www.chapter.org

    Mae Canolfan Chapter wedi ei lleoli yn ardal Treganna. Mae'n un o ganolfannau celfyddydau mwyaf Ewrop, gyda sinemâu, oriel gelf, bwyty, bar a dros 60 o ystafelloedd ar gyfer gwaith diwylliannol.

    Am oriau agor a'r rhaglen ddiweddaraf, cysylltwch â 02920 304440

    Marchnad y Ffermwyr

    www.riversidemarket.org.uk

    Cynhelir bob dydd Sul o 10am-2pm ar Fitzhamon Embankment yn ardal Glanrafon y ddinas, gyferbyn â Stadiwm y Mileniwm.

    Y Teulu McKee
    Y Senedd

    www.cynulliadcymru.org

    Bws dŵr

    www.cardiffaquabus.com

    Cysylltwch â'r wefan am fanylion pellach ac am amserlen y teithiau o Fae Caerdydd i Benarth ac i ganol y ddinas - 029 2047 2004

    Bay Island Voyages

    www.bayislandvoyages.org.uk

    Am daith llawn cyffro a hwyl ymunwch a thaith yn un o gychod cyflym Bay Island Voyages o Fae Caerdydd.

    Cysylltwch â'r wefan am fanylion pellach neu ffoniwch 01446 420692

    Stadiwm y Mileniwm

    www.millenniumstadium.com

    Gellir cael teithiau tywys o gwmpas Stadiwm y Mileniwm.

    Techniquest

    www.techniquest.org

    029 20 475 475

    Bwyd:

    The Vegetarian Food Studio

    www.vegetarianfoodstudio.co.uk

    109 Penarth Road
    Caerdydd
    CF11 6JT
    (029) 2023 8222

    Café Minuet

    Café Minuet
    42 Arced y Castell
    Caerdydd CF10 1BW
    Rhif Ffôn: 029 2034 1794

    Nid yw S4C yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau allanol

  • 2/ Lerpwl

    Y Gwestai

    Billy ac Olive
    Hard Days Night Hotel

    0151 2361964

    www.harddaysnighthotel.com

    Mae'r Hard Days Night Hotel yn westy 4 seren â 110 o ystafelloedd gwely. Ysbrydolwyd thema'r gwesty gan y Beatles, ac mae'r adeilad rhestredig, sy'n dyddio o 1884, wedi ei leoli drws nesaf i'r Cavern Club enwog.

    Ar un adeg roedd hon yn ardal fasnachol bwysig, a bu' adeilad urddasol yn gartref i sawl menter lewyrchus pan oedd Lerpwl yn un o brif borthladdoedd rhyngwladol y byd. Erbyn heddiw, mae'r gwesty 'n arddangosfa i gasgliad o waith celf a ffotograffau gan y Beatles a'u cyfoedion.

    Rhai o sylwadau Billy ac Olive am y gwesty oedd "Waw!"… "Dwi 'rioed 'di gweld lle 'run fath ag o"… "Mae'r gwesty yma'n anhygoel"… "Mae'n anfarwol yn tydi?!" Rhoddodd y ddau farc o 10/10 am y penwythnos yn Lerpwl. Dywedodd Olive y buasai wedi rhoi sgôr o 20 tasai hi'n gallu.

    Alex
    62 Castle St

    0151 702 7898

    www.62castlest.com

    Mae'r gwesty "boutique" yma yng nghanol ardal fusnes a bywyd nos cosmopolitaidd y ddinas. Yn ôl The Sunday Times Travel Magazine mae'n un o'r 100 lle gorau i aros ym Mhrydain.

    Aled
    Hotel Novotel Liverpool

    0151 702 7898

    www.novotel.com

    Mae'r Hotel Novotel Liverpool yn westy 4 seren yng nghanol y ddinas gyda siopau, atyniadau a bywyd nos y ddinas ar drothwy'r drws. Mae gan y gwesty 209 o ystafelloedd gyda chyfleusterau wi-fi a theledu lloeren. Mae gan y gwesty bwll nofio a champfa.

    Nid yw S4C yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau allanol

    Atyniadau

    Billy ac Olive
    Fab Cabs of Liverpool

    www.fabcabsofliverpool.com

    (0151) 909 1964

    Mae Fab Cabs of Liverpool yn cynnig teithiau tacsi o gwmpas rhai o'r prif lefydd sy'n gysylltiedig â'r Beatles. Mae'r teithiau'n para hyd at dair awr, a gall hyd at 5 o bobl fynd ym mhob tacsi.

    Yn ystod y daith bydd digon o gyfle i dynnu lluniau, gan gynnwys ymweliadau â chyn-gartrefi'r Beatles, eu hysgolion, a'u mannau geni. Ymwelir hefyd â rhai o'r llefydd sydd wedi eu hanfarwoli yng nghaneuon y Beatles, e.e. Strawberry Fields, Penny Lane a bedd Eleanor Rigby. Mae'r teithiau'n costio o £50 ar gyfer 1-3 o bobl, ac ar gael saith diwrnod yr wythnos.

    Radio City Studio Tours

    www.radiocity.co.uk/towertours

    (0151) 472 6800

    Mae Radio City yn un o orsafoedd radio mwyaf llwyddiannus Prydain, a chynigir teithiau o gwmpas yr adeilad. Mae'r tŵr yn 138m o uchder ac o'r oriel ymweld ceir golygfeydd godidog o'r ddinas, Glannau Merswy, gogledd Cymru a thu hwnt.

    Cavern Club

    www.cavernclub.org

    0151 236 1965

    Y Cavern Club yw'r clwb enwocaf yn y byd, ac mae ar agor o 11:00y.b bob dydd.

    Mae'r bar yn gweini coffi, diodydd meddal ac alcohol, ac mae croeso i deuluoedd ymweld tan 7:00y.h.

    Western Approaches

    www.liverpoolwarmuseum.co.uk

    0151 227 2008

    Y Western Approaches yw cyn-bencadlys tanddaearol yr Ail Ryfel Byd, ac ar y safle gwreiddiol roedd dros 50,000 troedfedd sgwar o goridorau ac ystafelloedd.cudd. Erbyn hyn mae cyfran o'r safle wedi ei ail-adeiladu a'i adfer fel ag yr oedd yn ystod cyfnod y rhyfel.

    Aled
    Y Fferi dros y Merswy

    www.merseyferries.co.uk

    (0151) 909 1964

    Gellir cael teithiau cwch ar hyd yr afon bob awr o Pier Head Lerpwl, Seacombe a Woodside ar benrhyn y Wirral.

    Gellir dechrau'r daith yn unrhyw un o'r dair canolfan, ac mae tocyn dwy ffordd yn eich galluogi i ddod oddi ar y cwch a pharhau â'r daith yn nes ymlaen.

    Maritime Museum

    www.liverpoolmuseums.org.uk/maritime

    0151 478 4393

    Mae'r Amgueddfa Forwrol yn ardal Doc Albert yn cynnig cipolwg ar rôl ganolog Lerpwl fel un o'r prif borthladdoedd i'r "Byd Newydd". Ymhlith yr uchafwbyntiau eraill ceir hanesion am drychinebau a ddigwyddodd ar y môr megis y Titanic, a stori'r Llynges Fasnachol.

    Walker Gallery

    www.liverpoolmuseums.org.uk/maritime

    0151 478 4199

    Y Walker Gallery yw Oriel Genedlaethol gogledd Lloegr, ac mae'n gartref i gasgliad arbennig o gelfyddyd cain sydd gyda'r gorau yn Ewrop.

    Alex
    Eglwys Gadeiriol Lerpwl

    www.liverpoolcathedral.org.uk

    0151 709 6271

    Mae dwy eglwys gadeiriol yn Lerpwl, wrth gwrs. Yr un Anglicanaidd wnaethon ni ymweld â hi. Eglwys Gadeiriol Lerpwl yw'r mwyaf ym Mhrydain, ac mae hefyd yn un o bump fwyaf y byd. Cwblhawyd y gwaith arni yn 1978 ar ôl 74 mlynedd o lafur caled mewn cyfnodau o ddirwasgiad a chaledi.

    Derbyniodd yr Eglwys Gadeiriol wobr am fod yr atyniad mawr gorau i ymwelwyr yn Lerpwl yn 2009.

    Liverpool One

    www.liverpool-one.com

    0151 232 3100

    Mae Liverpool One yn ganolfan siopa a hamdden enfawr sy'n cynnwys 160 o siopau, dros 20 o fariau a thai bwyta, sinema 14 sgrin, a pharc 5 erw.

    Liverpool FC

    www.liverpoolfc.tv

    Mae'r daith hon yn mynd â chi tu ôl i'r llenni i Stadiwm Anfield. Gellir ymweld â'r ystafelloedd newid, eistedd yn rhai o seddi gorau'r stadiwm, cerdded drwy'r twnnel a mwynhau phrofiad rhyngweithiol yn Ystafell y Wasg.

    Mae teithiau'n cychwyn bob 15 munud mewn cyfnodau prysur.

    Bwyd:
    Alma De Cuba

    www.alma-de-cuba.com

    (0151) 702 7394

    The Pumphouse

    www.albertdock.com

    (0151) 709 2367

    Nid yw S4C yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau allanol

  • 3/ Berlin

    Y Gwestai

    Aled
    Hotel Adlon Kempinski

    00 49 30 2261 0

    www.kempinski.com

    Mae gwesty'r Adlon Kempinski wedi ei leoli yng nghanol Berlin. Mae'n sefyll ger y Giât Brandenburg a'r rhodfa enwog, Unter den Linden. Mae'r gwesty o fewn tafliad carreg i'r Reichstag, ac o fewn hanner milltir i Potsdamer Platz.

    Alex
    Michelberger Hotel

    00 49 30 29 77 85 90

    www.michelbergerhotel.com

    Os ar gyllideb, mae'r gwesty newydd 3-seren hwn yn berffaith. Mae'n gyfleus at yr orsaf drên ganolog a maes awyr Schöenefeld. Mae pum math o ystafell sy'n cynnig amrywiaeth o gynlluniau felly mae dewis i bawb.

    Elliw a Mared
    Motel One Berlin-Urania

    00 49 30 2363129 0

    www.motel-one.com

    Mae'r gwesty 2 seren hwn wedi ei leoli yn ardal orllewinol y ddinas, ychydig funudau o gerdded o ardal werdd Berlin, y Tiergarten.

    Rhai o sylwadau Mared ac Elliw am y gwesty oedd: "Mae hwn yn neis, mae e'n edrych yn reit grand"… "Dwi'n methu dod dros mai ond 2 seren yw'r gwesty 'ma". Rhoddodd y merched farc o 9/10 i'w penwythnos yn Berlin.

    Nid yw S4C yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau allanol

    Atyniadau

    Aled
    Kulturforum Berlin

    www.kulturforum-berlin.com

    00 49 30 266 42 42 42

    Mae'r Kulturforum yn Berlin yn un o safleoedd diwylliannol pwysicach yr Almaen, ac mae'n gartref i nifer o sefydliadau, gan gynnwys oriel gelf ac amgueddfa. Mae'r Kulturforum yn agos at y Potsdamer Platz a Giât Brandenburg.

    Giât Brandenburg

    Comisiynwyd Giât Brandenburg gan Friedrich Wilhelm II i gynrychioli heddwch. Yn eironig, daeth y giât yn rhan o Wal Berlin yn ystod blynyddoedd y Llywodraeth Gomiwnyddol. Mae'r Giât yn sefyll heddiw fel symbol goffa ail-gyfuno'r ddinas.

    Reichstag

    www.bundestag.de

    00 49 30 22 73 21 52

    Y Reichstag, safle senedd yr Almaen, yw un o adeiladau mwyaf hanesyddol Berlin. Mae e'n agos at Giât Brandenburg a chyn yr ail-uno, roedd nesaf at Wal Berlin. Ceir teithiau tywys o amgylch y Reichstag.

    Checkpoint Charlie

    Adeiladwyd Checkpoint Charlie fel rhan o Wal Berlin yn 1961, a hwn oedd y man croesi swyddogol rhwng Gorllewin a Dwyrain Berlin. Daeth yn symbol o'r Rhyfel Oer am ei fod yn rhannu dau hanner y ddinas. Heddiw mae'n atyniad i dwristiaid yn ardal Dahlem yn Berlin.

    Alex
    Schloss Charlottenburg

    www.spsg.de

    00 49 30 320 9144 0

    Mae Schloss Charlottenburg, palas Baróc o'r ddeunawfed ganrif gynnar, wedi ei leoli yn ardal orllewinol Charlottenburg. Llosgwyd yr adeilad yn ulw yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ond ers hynny mae wedi cael ei ailadeiladu'n gyfan gwbl. Adeiladwyd y palas gan Friedrich III yn 1699 fel tŷ haf i'w wraig, Sophie Charlotte. Hon yw'r ystâd frenhinol fwyaf yn Berlin.

    East Side Gallery - Berlin Wall

    www.eastsidegallery.com

    Mae 'r oriel hon yn gorchuddio 1.3 km o Wal Berlin, ger canol y ddinas. Mae oddeutu 106 o ddarluniau gan artistiaid o bob cwr o'r byd yn gorchuddio'r gofeb. Hon yw oriel awyr-agored fwya'r byd.

    Mared ac Elliw
    Stern and Kreiz - taith ar gwch o gwmpas y ddinas

    www.sternundkreis.de

    00 49 30 53 63 60 0

    Mae teithio ar ddyfrffyrdd Berlin yn ffordd dda i weld rhai o olygfeydd mwyaf godidog y ddinas. Mae taith o amgylch y ddinas yn para tua 3 awr

    Siopa - Kurfuerstendamm

    http://tourist.visitberlin.de

    Siopa - KaDeWe

    www.kadewe.de

    00 49 30 2121 0

    Bwyd:
    Fassbender and Rausch Chocolatiers

    www.fassbender-rausch.com

    00 49 30 20 45 84 43

    Nid yw S4C yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau allanol

  • 4/ Llundain

    Y Gwestai

    Aled
    Easy Hotel

    020 7706 9911

    www.easyhotel.com

    Mae'r easyHotel wedi ei leoli o fewn rhai munudau o gerdded o orsaf drên Paddington a gwasanaeth Heathrow Express. Mae'n gyfleus i'w gyrraedd o unrhyw le yng nghanol y ddinas ac mae'r prisiau'n rhesymol. Mae'n lleoliad delfrydol i ymweld ag atyniadau mwyaf poblogaidd Llundain.

    Alex
    Hoxton Hotel

    020 7550 1000

    www.hoxtonhotels.com

    Mae gwesty'r Hoxton, Llundain wedi ei leoli ar stepen drws ardal busnes Llundain, dafliad carreg o nifer o atyniadau, orielau a bwytai Llundain.

    Roedd Hoxton unwaith yn ardal ddifywyd yn llawn adeiladau diwydiannol segur, ond daeth i'r amlwg yn y 1990au cynnar fel ardal gyffrous, ffasiynol ac artistig yn llawn bariau, clybiau, bwytai, cerddoriaeth a chanolfannau celfyddydol

    Y Teulu James
    Premier Inn, Kensington

    0871 527 8666

    www.premierinn.com

    Mae gwesty'r teulu James yn hawdd i'w gyrraedd o'r A4. Mae'r Premier Inn yn cynnig llety glân, modern a chyfforddus, yn addas i deulu ar gyllideb sydd eisiau treulio ychydig ddyddiau yn y ddinas. Mae rhai ystafelloedd yn cysgu hyd at 2 oedolyn a hyd at 2 o blant (o dan 16 oed). Mae'n agos at nifer o brif atyniadau Llundain gan gynnwys nifer o amgueddfeydd a Harrods. Mae'r siwrnai o'r West End tua 20 munud ar y Tube.

    Nid yw S4C yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau allanol

    Atyniadau

    Aled
    Tate Modern

    www.tate.org.uk

    020 7887 888

    Mae'r Tate Modern yn un o'r grŵp o bedair oriel Tate sy'n arddangos detholiadau o'r Casgliad Tate. Mae'r Casgliad yn cynnwys cynrychiolaeth o gelf Brydeinig o'r flwyddyn 1500 hyd heddiw, yn ogystal â chelf ryngwladol fodern. Lleolir Tate Modern ar lan ddeheuol Afon Tafwys gyferbyn ag Eglwys Gadeiriol Sant Paul.

    Geffrye Museum

    www.geffrye-museum.org.uk

    020 7739 9893

    Mae Amgueddfa Geffrye wedi ei leoli yn Shoreditch, ychydig funudau o ganol y ddinas, ac yn hawdd i'w chyrraedd ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae'n arddangos y newidiadau mewn ffasiynau addurno tai yn Lloegr o 1600 hyd heddiw. Mae mynediad yn rhad ac am ddim i'r ystafelloedd arddangos cyffredinol ac arbennig a'r gerddi perlysiau a chyfnod.

    Alex
    Siopa - Marchnad Spitalfields

    www.visitspitalfields.com

    Mae marchnad Spitalfields yn farchnad fyd-enwog yn nwyrain Llundain. Mae ardal Spitalfields yn gartref i gymuned greadigol lewyrchus. Mae hi wedi bod yn safle i farchnad brysur ers 1638 pan roddodd King Charles drwydded i werthu ieir, gwreiddiau a chig yna. O hynny ymlaen fe'i henwyd yn Spittle Fields

    Brick Lane

    Mae ardal Brick Lane yn frith o orielau, siopau, bwytai a marchnadoedd drwy gydol y flwyddyn.

    The Store Rooms, Shoreditch

    020 7608 1105

    Bargeinion ffasiwn i bawb.

    Taylor Taylor

    www.taylortaylorlondon.com

    020 7377 2737

    Y salon gwallt boutique gwreiddiol.

    Aled ac Alex
    All Stars Lanes Bowling, Brick Lane

    www.allstarlanes.co.uk

    020 7426 9200

    Bowlio, yfed a bwyta.

    Y Teulu James
    London Eye

    www.londoneye.com

    0870 990 8883

    Mae'r London Eye wedi ei leoli uwchben Afon Tafwys ac mae'n cynnig golygfeydd godidog o Lundain. Mae'n sefyll 135m ar y Southbank rhwng Waterloo a phont San Steffan gyferbyn â Big Ben

    The Original Bus Tour

    www.theoriginaltour.com

    020 8877 1722

    Mae'r cwmni yma'n rhedeg teithiau bws o amgylch Llundain. Mae tocynnau'n eich galluogi i dorri'ch siwrnai pryd bynnag rydych chi'n ei ddymuno, ac mae 3 taith gerdded a thaith ar gwch ar afon Tafwys yn gynwysedig yn y pris. Mae tocynnau'n ddilys am 24 awr.

    Bwyd:
    Skylon

    www.skylonrestaurant.co.uk

    020 7654 7800

    Mae Skylon wedi ei leoli yn y Royal Festival Hall, yn cynnig golygfeydd panoramig dros Afon Tafwys.

    Carluccio's, Covent Garden

    www.carluccios.com

    020 7836 0990

    Bwyty a siop fwyd arbenigol dan adain y cogydd adnabyddus o'r Eidal.

    Nid yw S4C yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau allanol

  • 5/ Glasgow

    Y Gwestai

    Aled
    Gwesty Rab Ha's

    0141 572 0400

    www.rabhas.com

    Mae gwesty Rab Ha's yn westy bŵtic, yn fwyty ac yn far Albanaidd traddodiadol wedi ei leoli o fewn ardal ffyniannus Glasgow, Merchant City. Mae pedair ystafell fforddiadwy yn y gwesty hwn, gyda dewis o dair ystafell ddwbl ac un ystafell â dau wely sengl.

    Alex
    Blythswood Square

    0141 248 8888

    www.townhousecompany.com/blythswoodsquare

    Mae'r gwesty hwn, a oedd gynt yn gartref i Glwb Brenhinol Modurwyr yr Alban, wedi cael ei drawsnewid yn westy sba moethus 5 seren. Mae'r adeilad, sy'n dyddio o 1823, wedi cadw rhai nodweddion pensaernïol gwreiddiol fel llefydd tân marmor a nenfydau addurnedig.

    Iola a Richard
    Holiday Inn Express Glasgow City, Riverside

    0141 548 5000

    www.hiexpressglasgow.co.uk

    Wedi ei leoli'n ddelfrydol yn ardal Theatreland y ddinas, mae'r gwesty yma'n addas i unrhyw un sydd â chyllideb fechan. Mae wedi ei leoli'n agos iawn at theatrau'r ddinas, llwyth o siopau a rhai o fwytai gorau Glasgow. Mae hefyd yn hawdd i'w gyrraedd, gyda chysylltiadau trafnidiaeth dda - awyr, ffyrdd, rheilffyrdd a bws.

    Nid yw S4C yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau allanol

    Atyniadau

    Aled
    Gerddi Fotaneg

    www.glasgow.gov.uk

    0141 276 1614

    Mae'r Gerddi Botaneg yn adnabyddus yn rhyngwladol am eu tai gwydr trawiadol a'u casgliad o blanhigion trofannol sy'n dod o bob cwr o'r byd. Mae amrywiaeth o themâu botanegol a garddwriaethol ar dir y gerddi botaneg, yn ogystal â llwybrau cerdded atyniadol ar hyd yr afon Kelvin. Mae'r gerddi yma'n cynnig egwyl fach i ymwelwyr o fwrlwm y ddinas.

    Siopa

    Mae milltir siopa Glasgow sy'n cynnwys stryd Buchanan, stryd Argyle, Sauchiehall a marchnadfa Princes Square yn cael ei adnabod fel y lle gorau i siopa yn y Deyrnas Unedig y tu allan i Lundain.

    Canolfan Siopa Princes Square

    www.princessquare.co.uk

    0141 221 0324

    Canolfan siopa Princes Square yw canolfan arbenigedd siopa blaenllaw'r Alban. Mae ganddi gymysgedd o frandiau'r stryd fawr, labeli dylunydd a siopau annibynnol. Wedi ei leoli o dan un to a dros dri llawr, mae'r ganolfan yma yn ddewis soffistigedig arall i stryd fawr yr Alban

    Alex
    Necropolis

    www.glasgownecropolis.org

    0141 287 5064

    Mae'r Necropolis yn dal i gael ei chydnabod fel un o fynwentydd mwyaf arwyddocaol Ewrop oherwydd ei chyfraniad at dreflun y ddinas a'i pherthynas symbolaidd gyda'r Eglwys Gadeiriol. Mae'n atyniad mawr i ymwelwyr o'r DU a thramor. Mae'r giatiau ar agor o 07.00 y.b. tan y cyfnos, ac mae mynediad am ddim.

    Glasgow School of Art Tour

    www.gsa.ac.uk

    0141 353 4500

    Cydnabyddir y GSA yn rhyngwladol fel un o brif sefydliadau addysg uwch Ewrop, yn bennaf ar gyfer addysg greadigol ac ymchwil i gelfyddyd gain, dylunio a phensaernïaeth. Mae gan yr ysgol siop newydd sbon, taith dywys o amgylch yr ysgol, arddangosfa Mackintosh ac oriel ddodrefn. Mae teithiau tywys o amgylch yr ysgol gelf yn costio £8.75 i oedolion.

    Aled ac Alex
    SEAFORCE

    www.seaforce.co.uk

    0141 221 1070

    Mae teithiau cychod pŵer Seaforce wedi cael ei enwebu'n un o'r pethau mwyaf cyffrous i'w gwneud wrth ymweld â Glasgow. Maent yn rhedeg o harbwr Glasgow ger canol y ddinas ac yn cynnig teithiau i ganol y ddinas, pont Erskine, Dumbarton Rock a Kilcreggan.

    Iola a Richard
    City Sightseeing Glasgow

    www.citysightseeingglasgow.co.uk

    0141 204 0444

    Mae teithiau bws City Sightseeing yn ffordd berffaith o weld Glasgow. Mae'r bws deulawr yn gweithredu'n rheolaidd o 0930 tan 1630, ac mae taith gyfan yn para awr a chwarter. Mae eich tocyn yn ddilys am ddau ddiwrnod o'r bron, a gallwch esgyn a disgyn oddi ar y bws mor aml ag yr hoffech chi o unrhyw un o'r safleoedd bws ar hyd y daith.

    The Tall Ship

    www.glenlee.co.uk/newsite

    0141 222 2513

    Y Tall Ship yn harbwr Glasgow yw un o atyniadau pennaf Glasgow. Mae'r Glenlee yn un o 5 llong hwylio a adeiladwyd ar y Clyde sydd yn dal i'w arnofio hyd heddiw. Cafodd y llong ei hadfer dros gyfnod o chwe blynedd gan Ymddiriedolaeth Forwrol y Clyde. Wedi ei hadfer i'w hen ogoniant, mae ymweliad yn mynd â chi yn ôl mewn amser i brofi sut beth oedd bywyd ar y môr.

    People's Palace

    www.glasgowlife.org.uk/museums/Pages/home.aspx

    0141 276 0788

    Mae'r People's Palace yng Glasgow yn amgueddfa hanes cymdeithasol ac mae e'n cynnig cyfle i weld hanes pobl a dinas Glasgow o 1750 hyd heddiw. Gallwch weld lluniau, printiau a ffotograffau yn ogystal ag arteffactau hanesyddol, ffilmiau a deunydd rhyngweithiol. Yn daith gerdded fer o ganol y ddinas , mae'r People's Palace yn gorwedd o fewn tir hanesyddol a elwir yn Glasgow Green.

    Bwyd:
    Willow Tea Rooms

    www.willowtearooms.co.uk

    0141 332 0521

    Cynlluniwyd y Glasgow Willow Tea Rooms gan y cynllunydd Charles Rennie Mackintosh yn 1904. Hwn oedd yr unig adeilad ystafell de y cafodd Mackintosh reolaeth lwyr dros bob agwedd ar y cynllun. Cynlluniodd Mackintosh y tu allan a thu mewn i'r adeilad, ac fe gynlluniodd hyd yn oed y llwyau te a ffrogiau'r gweinyddion. Mae'r enw Willow yn dod o Sauchiehall, sef y stryd lle saif yr ystafell de. Ystyr enw'r stryd yw helygen, ac fe ymddangosodd yr helygen yn thema gref drwy'r adeilad.

    Horseshoe Bar

    www.horseshoebar.co.uk

    0141 248 6368

    Mae'r Horseshoe yn un o dafarndai hynaf Glasgow, ac wedi ei leoli yn stryd Drury. Mae wedi cadw holl nodweddion sy'n dyddio'n ôl bron 120 mlynedd. O siâp y bar hyd at gerflun y nen-bont, mae'r siâp pedol yn bresennol ar hyd a lled y dafarn. Yn ôl y Guiness Book of Records y bar yw un o farrau hiraf y DU.

    Nid yw S4C yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau allanol

  • 6/ Palma, Mallorca

    Y Gwestai

    Aled
    Palacio Casa Galesa

    0034 971 71 54 00

    www.palma-hostales.com

    Mae'r tŷ urddasol yma, sy'n dyddio o'r 16eg ganrif, wedi ei leoli yn yr hen dref wrth ymyl yr Eglwys Gadeiriol. Cafodd y gwesty ei ailwampio yn 1995, ac mae e bellach yn westy moethus 5 seren. Mae'r gwesty wedi ei leoli'n berffaith ar gyfer siopa ac ymweld â lleoliadau twristaidd y ddinas.

    Alex
    Hostal Apuntadore

    0034 971 71 34 91

    www.palma-hostales.com

    Mae'r hostel prysur yma yng nghanol La Lonja, gyda llu o fariau lleol, caffis a bwytai o'i gwmpas. Mae mynediad gan westeion i'r teras to, lle gallwch weld golygfeydd godidog o Palma. O Plaza de la Reina, 20m o'r hostel, mae bysiau yn eich cysylltu â gweddill y ddinas, y traethau a'r ynys gyfan.

    Kirsty a Thomas
    Hotel Playa

    0034 971 744 503

    www.hotel-playa.net

    Mae'r gwesty wedi ei leoli o flaen yr ardal a enwir yn Playa de Palma, 5 munud yn unig o'r maes awyr, a deg munud o ddinas Palma. Mae'r gwesty'n un 3 seren gydag awyrgylch gyfeillgar deuluol.

    Nid yw S4C yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau allanol

    Atyniadau

    Aled
    Yr Eglwys Gadeiriol

    www.catedraldemallorca.info

    Mae eglwys gadeiriol Palma'n amhosib ei hanwybyddu; mae ei adeiladwaith tywodfaen anferth yn sefyll yn urddasol uwchben uwchben glan y dŵr. Mae'r eglwys gadeiriol yma'n un o strwythurau Gothig gorau'r byd. Gosodwyd ei seiliau ar fosg Mwraidd yn 1230, a pharhaodd y gwaith arno am y 500 mlynedd nesa. Mae'r Eglwys Gadeiriol ar agor yn ystod yr wythnos o 10:00-15:15, ac ar ddydd Sadwrn o 10:00-14: 15.

    Taith Gatamarán

    www.click-mallorca.com

    0034 971 897 067

    Mae'r daith ar y catamarán yn mynd o amgylch bae Palma. Mae taith yn mynd â chi i lefydd fel Puerto Portals, Cala Mayor neu Illetas gyda'r cwch yn stopio am ychydig o snorcelio ar draeth Portals Vells. Mae pris y trip, sef 50 ewro (yn gywir ym mis Medi 2010) hefyd yn cynnwys cinio barbeciw.

    Alex
    Sightseeing Bus Tour

    www.city-sightseeing.com

    0034 902 10 10 81

    Mwynhewch olygfeydd ysblennydd o Palma o dop bws deulawr. Mae'r bws yn mynd â chi o gwmpas atyniadau a henebion y ddinas er mwyn i chi gael syniad o ddaearyddiaeth y ddinas. Pris tocyn oedolyn yw 15 ewro (yn gywir ym mis Medi 2010), ac mae'r tocyn yn ddilys am 24 awr.

    Castell Bellver

    www.gsa.ac.uk

    Mae Bellver yn gastell crwn wedi ei leoli ar fryn ar bellter o tua 3km o ganol Palma, 112m uwchben lefel y môr. Mae'r castell bellach yn gartref i Amgueddfa Hanes Palma, ac mae ganddo olygfeydd gwych dros Palma. Cafodd ei adeiladu yn y bedaredd ganrif ar ddeg i'r Brenin Iago II o Aragon. Fe'i defnyddiwyd fel carchar milwrol yn ystod yr 18fed ar 19eg ganrif. Bellach, mae'n un o brif atyniadau twristiaeth yr ynys.

    Kirsty a Thomas
    Aqualand el Arenal

    www.aqualand.es

    0034 971 440 000

    Mae Aqualand el Arenal yn un o barciau dŵr mwyaf Ewrop. Wedi ei leoli ger traeth El Arenal yn ne'r ynys, yn ogystal â bod mewn amgylchedd naturiol, mae gan y parc dŵr enfawr yma dros 20 o reidiau all ddiddanu unrhyw deulu.

    Acwariwm Palma

    www.palmaaquarium.com

    0034 971 746 104

    Mae acwariwm Palma yn barc môr sy'n ail-greu cynefinoedd ac ecosystemau moroedd a chefnforoedd y byd. Wedi ei leoli yng nghanol Playa de Palma mae e wedi gosod y safon ar gyfer atyniadau twristaidd ar yr ynysoedd Baleares.

    Trên Soller

    www.sollernet.com

    0034 971 630 13

    Mae rheilffordd Soller yn cysylltu dinas Palma de Mallorca â thref fach Soller ers 1912. Mae'r trên yn teithio 27km ar hyd llwybrau cul trwy dirwedd hyfryd. Mae'r trên pren traddodiadol yn mynd o orsaf Playa d'Espanya, ac mae hi'n daith o awr a hanner. Pris tocyn deuffordd yw 17 Ewro (cywir ym mis Medi 2010).

    Nid yw S4C yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau allanol

Tocyn - cyfres 1

© 2011 S4C
O Gymru / Made in Wales