Bob nos Fercher
20:25
Croeso i wefan Tocyn, cyfres newydd sydd yn cynnig syniadau di-ri am wyliau difyr a fforddiadwy yn y rhanbarthoedd Celtaidd. Partneriaeth gyflwyno newydd fydd wrth y llyw - Aled Samuel ac Alex Jones. Mi fydd y ddau yn edrych ar wyliau i ateb pob tast, diddordeb, oedran, a phoced yng Nghymru, Cernyw a'r Alban a hefyd dros y môr yn Llydaw, Ynys Manaw ac Iwerddon. Ym mhob un o'r 12 rhaglen, bydd Tocyn yn bwrw golwg ar ardal arbennig yn un o'r chwe gwlad Geltaidd, cyn dilyn Alex ac Aled wrth iddynt roi tro ar dri gwyliau gwahanol iawn, bob yr un ar wahân ac un gyda'i gilydd. Mae'r wefan yma yn rhoi mwy o wybodaeth i chi ar y gwyliau ym mhob rhaglen.
Rhaglenni
-
1/ Llydaw
06/01/2010 / 20:25Mae gwersyll Domaine des Ormes wedi' leoli ar ystâd 200 erw yng nghanol y wlad. Mae yna lety at ddant, a chyllideb, pawb - maes pebyll 4*, bythynnod a hyd yn oed tai coed! Nid nepell o'ch llety, mae amryw o weithgareddau awyr agored, gan gynnwys marchogaeth a pharc antur zip wire.
Gallwch hefyd dreulio noson yng nghwmni siarcod mewn acwariwm yn nhref gyfagos St Malo.
www.lesormes.com
www.aquarium-st-malo.com/great-aquarium
Mae hon yn wefan uniaith Saesneg
Nid yw S4C yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau allanol
Mae fferm Belle Vue yn fferm draddodiadol, Lydewig, wedi' leoli yng nghanol y wlad. Mae'n ddewis perffaith os ydych chi ar gyllideb fach ac am ddianc o ardaloedd ystrydebol twristaidd. Mae'r egwyddor yn syml, rydych yn profi bywyd gweithiol y wlad a chael llety a chynhaliaeth am bris teg.
www.farmholidaysinbrittany.co.uk
Mae hon yn wefan uniaith Saesneg
Nid yw S4C yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau allanol
Mae'r French Dining School yn ysgol goginio wedi' leoli yn Kerrouet - pentref yng nghanol bryniau godidog Llydaw. Gwyliau arbenigol yw hwn ac mae'r cwrs yn gaddo dysgu sgiliau coginio a pharatoi bwyd o dan hyfforddiant y cogydd, Poul Jenson.
www.frenchdiningschool.com
Mae hon yn wefan uniaith Saesneg
Nid yw S4C yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau allanol -
2/ Gorllewin Cymru
13/01/2010 / 20:25Bluestone, Arberth, Sir Benfro - Mae Bluestone yn bentref gwyliau sy'n anelu yn bennaf at deuluoedd a chyplau sy'n chwilio am bopeth sydd angen arnynt o dan un to.
Yn debyg iawn i ganolfannau fel Center Parcs mae Bluestone yn gysyniad hollol newydd i Gymru ac o ran cyfleusterau mae heb ei hail.
Mae gan Bluestone sba, tafarn, clwb chwaraeon, parc dŵr, pyllau nofio, bwytai a siopau. Dyma'r ganolfan gyntaf o'i fath yma yng Nghymru ac mae'n cynnig rhywbeth i bawb.
www.bluestonewales.com
Mae hon yn wefan uniaith Saesneg
Nid yw S4C yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau allanol
Fforest, Cilgerran - Dyma'r ateb perffaith i'r rhai sy'n hoffi'r syniad o wersylla ond ddim yn ffansio gwneud dim o'r gwaith caled sy'n gysylltiedig â hynny.
Mae gan gwmni Fforest dau wersyll - un yng Nghilgerran ar llall yn Manorafon - ger traethau Penbryn a Thresaith.
Mae aros yn Fforest fwy fel aros mewn gwesty nag mewn pabell. Gwesty gyda choridorau coedwigol ac ystafelloedd cynfas.
Does dim teledu na minibar, dim ond sŵn yr adar yn canu a phren yn llosgi.
Mae'r cyfleusterau yn wych. Yn ogystal â'ch cromen (dome) geodesic rydych yn cael pob dim sydd angen arnoch chi i sicrhau fod eich gwyliau yn un cysurus - eich dillad gwely, eich llestri, barbiciw a phren ar gyfer y tân.
Mae'r gwersyll hefyd yn darparu brecwast i chi os nad ydych chi eisiau paratoi brecwast eich hunain ac mae 'na floc o doiledau a chawodydd glan. Mae'r bwyd sy'n cael ei ddarparu amser brecwast yn organig ac yn fasnach deg, pan yn bosib.
www.coldatnight.co.uk
Mae hon yn wefan uniaith Saesneg
Nid yw S4C yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau allanol
Indigo Brown a'r Llew Aur, Sir Benfro. - Yr arlunydd Maggie Brown sy'n cynnal y cyrsiau yn Indigo Brown ac mae Aled yno ar gwrs paentio dyfrlliw. Mae'r gwyliau'n gallu bod yn gwrs diwrnod, tridiau neu'n gwrs llawn pum niwrnod ac mae'n gado galluogi artistiaid brwd i beintio rhai o olygfeydd arfordirol mwyaf godidog yr ardal.
Mae tair ystafell wely yn Indigo Brown ac mae gŵr Maggie yn paratoi brecwast a swper tri chwrs bob nos. Neu, os mynnwch, mae digonedd o lety eraill ar gael yn agos.
Arhosodd Aled mewn tafarn lleol, Y Llew Aur yn Nhrefdraeth, sy'n ffordd wych o ddod i nabod y bobl, a'r cwrw, lleol.
www.indigobrown.co.uk
www.goldenlionpembrokeshire.co.uk
Mae hon yn wefan uniaith Saesneg
Nid yw S4C yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau allanol -
3/ Alban Ucheldiroedd
20/01/2010 / 20:25Taith ar hyd camlas Calendonia ar fwrdd llong ysblennydd - Lord of the Glens.
Mae'r llong yn ymlwybro yn hamddenol o Inverness - prif ddinas yr Ucheldiroedd ar arfordir dwyreiniol Yr Alban - hyd at Fort William ar ochr orllewinol y wlad gan basio trwy Loch Dochfour, Loch Ness, Loch Oich and Loch Lochy ar y daith.
Gwyliau moethus a chyfle i fwynhau gwychder y mynyddoedd ar hyd y Glen Mawr.
www.magnacarta.bz
Mae hon yn wefan uniaith Saesneg
Nid yw S4C yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau allanol
Saffari pedair olwyn ar dir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Glen Coe yng nghwmni un o'r ceidwaid.
Taith mewn car 4 x 4 ar hyd traciau a ffyrdd mynyddig. Cyfle gwych i ddysgu mwy am ddaeareg y tirlun, y natur wyllt, hanes y dyffryn a threftadaeth yr ardal.
Mwynhewch letygarwch cynnes Yr Alban yn y Clachaig Inn yn Glencoe. Tafarn a llety hanesyddol sy'n denu dringwyr a cherddwyr.
www.glencoe-nts.org.uk
www.clachaig.com
Mae hon yn wefan uniaith Saesneg
Nid yw S4C yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau allanol
Fort William - Prif Ddinas Antur y D.U.
Yng nghyffiniau Fort William mae 'na weithgareddau awyr agored di-ri i gadw'r adrenalin i lifo.
Wyth milltir i'r gogledd o Fort William, ar lethrau mynydd Aonoch Mor, mae canolfan Nevis Range. Mae'r lle'n enwog am lethrau serth beicio mynydd ac mae 'na sawl cystadleuaeth byd wedi digwydd yma. Y bonws i'r beicwyr yw bod yna gondola mynydd i'ch cludo yn hwylus i'r ben y llethr.
I'r de o Fort William yn Kinlochleven mae canolfan Ice Factor. Yma mae wal ia fwya'r byd sy'n rhoi cyfle i ddringwyr ddysgu sgiliau angenrheidiol ar gyfer dringo gaeafol yn yr Alban ac ar y cyfandir.
www.nevisrange.co.uk
www.ice-factor.co.uk
Mae hon yn wefan uniaith Saesneg
Nid yw S4C yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau allanol -
4/ Cernyw
27/01/2010 / 20:25Eden Project, St. Austell
Cysyniad y cynhyrchydd recordiau Tim Sit yw'r safle hwn. Prynodd un o'r hen chwareli clai ac ar ôl tair blynedd o waith caled, dyma ffrwyth ei lafur.Cafodd yr Eden Project ei agor yn 2001 ac mae'n cynnwys ystod eang o blanhigion y byd. Mae'n atyniad sy'n addas i'w ymweld ar ddiwrnod braf neu lawog gan fod dwy gromen enfawr yn adlewyrchu tymheredd a phlanhigion gwahanol rannau o'r byd. Mae un yn gromen Ganolforol a'r llall yn gromen fforest law.
Ynghyd a hynny, mae gerddi tu mewn ac allan, ac mae canolfan addysgiadol yno.
Mae'r pwyslais ar addysgu a hwyl i bobl o bob oed. Mae'r safle ar agor bob dydd drwy'r flwyddyn heb law am noswyl a diwrnod Nadolig.
www.edenproject.com
Mae hon yn wefan uniaith Saesneg
Nid yw S4C yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau allanol
Fferm Organig Rosuick ger Helston a diwrnod yn y Warchodfa Morloi Cenedlaethol yn Gweek
Un opsiwn economaidd o ran llety yw aros mewn adeilad fferm - fferm organig yn yr achos yma.
Mae Fferm Rosuick wedi bod yn nwylo'r un teulu ers y ail ganrif ar bymtheg. Mae'r fferm weledol yn cael ei ddefnyddio'n aml fel lleoliad ar gyfer priodasau a 'shoots' ffotograffiaeth. Mae'n fferm dra gwahanol i'r arfer gan mai camelod yw'r prif atyniad!
Ar y fferm, mae tri bwthyn gwahanol ar gael i'w rhentu. Mae'r ffermdy yn cysgu 10 ac mae'r ddau fwthyn yn cysgu 6. Mae'r tri ar gael drwy'r flwyddyn. Mae fferm wedi ei leoli ger man mwyaf dwyreiniol Cernyw.
Mae'r Warchodfa Morloi Cenedlaethol yn achub ac yn rhoi lloches i forloi sydd mewn trafferth neu wedi'i hanafu ar arfordir Cernyw.
Mae'r ganolfan yn dibynnu ar roddion gan y cyhoedd a gwirfoddolwyr i'w gynnal. Dechreuodd y warchfodfa yn 1958 pan ddaeth y perchennog, Ken Jones, o hyd i forlo ifanc newydd ei eni ar draeth cyfagos St Agnes.
Agorwyd y ganolfan yn Gweek yn 1975 ac mae'n atyniad delfrydol i deuluoedd, ac i blant yn benodol. Mae agor pob dydd heblaw diwrnod Nadolig.
www.cornishcamels.com
www.sealsanctuary.co.uk
Mae hon yn wefan uniaith Saesneg
Nid yw S4C yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau allanol
Gwyliau Bwtîc Syrffio yng Nghei Newydd, Cernyw
Mae Cernyw yn fagnet i syrffwyr o bedwar ban byd. Mae cyrsiau syrffio ar gael yma i ddechreuwyr ac i'r profiadol. Mae cwmni Escape Surf School yn darparu cyrsiau o bob math ac i bob sgil.
Mwynhewch un wers, dwy wers, penwythnos neu wythnos o wersi. Arhosodd Alex yng ngwesty B&B 'Breaks', un o'r cwmnïau sy'n gysylltiedig â'r ysgol syrffio.
Os nad yw B&B at eich dant, mae'r ysgol yn gysylltiedig â gwesty pum seren, ac i'r pegwn arall yn cynnig llety hunanarlwyo o gwmpas y dref.
www.escapesurfschool.co.uk
www.newquaybreakshotel.co.uk
Mae hon yn wefan uniaith Saesneg
Nid yw S4C yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau allanol -
5/ Gorllewin Iwerddon
03/02/2010 / 20:25Mae pentref Cnoc Suain tua hanner awr mewn car i'r gogledd o Galway. Cafodd y pentref ei greu fel canolfan gwyliau i ddathlu diwylliant Gwyddeleg.
Mae'r pentref wedi bod ar agor ers dros ddeg mlynedd ac maen nhw'n cynnal cyrsiau diwrnod a rhai tros benwythnosau drwy'r flwyddyn.
Maen nhw'n cynnal cyrsiau cerddoriaeth, iaith, dawnsio, garddio ac adrodd straeon dros benwythnos, wythnos, neu hyd yn oed ddiwrnod neu noson os nad oes amser gennych chi. Cewch eich trochi yn nhraddodiadau a diwylliant y wlad a dysgu ychydig o sgiliau newydd defnyddiol hefyd.
Mae llety ar gael a darperir bwyd ym mhrif adeilad y pentref. Mae pob bwthyn to gwellt gyda chwe stafell wely a phedair stafell ymolchi. Mae rhai o'r bythynnod yn dyddio nôl i 1691 ac mae pob un wedi ei adfer gyda'n ecosystem fregus ni mewn cof.
Enillodd y pentref y drydedd wobr yng Nghystadleuaeth Teithio Foesegol papur newydd y Guardian yn 2009.
www.cnocsuain.com
Mae hon yn wefan uniaith Saesneg
Nid yw S4C yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau allanol
Gwyliau beicio a llety mewn tafarn
Os ydych chi eisiau ffordd wahanol o weld y wlad a chael ychydig o awyr iach yr un pryd - trïwch wyliau beicio.
Mae ein gwyliau beicio ni yn mynd a ni i Sir Clare, i'r de o Galway. Er nad yw Alex yn feiciwr profiadol, mae'r gwyliau yma'n addas i bobl o wahanol lefelau o ffitrwydd.
Mae'r daith yn dechrau yn Ballyvaughan ac yn diweddu ym mhentref Doolin. Mae digonedd o gyfle i stopio, dal eich gwynt, a mwynhau'r golygfeydd. Mae sawl llwybr gwahanol i'w ddilyn, dim ond i chi wneud ychydig bach o ymchwil cyn cyrraedd.
Roedd ein gwyliau beicio ni wedi ei drefnu gan gwmni Cycle Holidays Ireland. Mae'r cwmni'n cynnig eich casglu o'r maes awyr, a chludo'ch bagiau, tra eich bod chi'n ymlwybro ar eich beic. A phan rydych chi wedi laru ar y beicio mae'r cwmni yn eich casglu ac yn mynd a chi i'r gwesty nesaf i ymlacio. Mae arweinydd ar bob taith yn eich addysgu am yr ardaloedd dan sylw, ac yn fodlon dysgu mymryn o Wyddeleg i chi.
Mae sawl gwyliau yn Iwerddon yn cynnig y profiad o aros mewn tafarn ac mae'r gwyliau beicio yma'n neud hynny hefyd. Mae e'n ffordd rhad o fwyta, cysgu, a dod i adnabod yr Iwerddon go iawn.
Trwy ddewis aros mewn tafarn rydych chi'n cael blas go iawn o fywyd hamddenol y wlad. Mae Tafarn McGanns yn Doolin yn enwog am chwarae cerddoriaeth draddodiadol. Mae'r dafarn ar agor drwy'r flwyddyn ac mae hi'n ddigon hawdd cyrraedd mewn car, os nad ydych chi eisiau beicio!
www.cycleholidaysireland.com
Mae hon yn wefan uniaith Saesneg
Nid yw S4C yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau allanol
Tref Galway a noson o rasio milgwn
Galway yw un o ddinasoedd mwyaf Iwerddon ac mae'n cael ei adnabod fel prifddinas gelfyddydol y wlad. Mae sawl gŵyl yn cael ei chynnal yno'n flynyddol gan gynnwys Gŵyl Gelfyddydau Galway ym mis Gorffennaf a'r Ŵyl Wystrys ym Medi.
Mae stadiwm rasio milgwn Galway yng nghanol y ddinas ac mae'n lleoliad perffaith am noson allan. Mae sawl lle i fwyta yno, o sglodion wrth ochor y trac i fwyd mwy ffurfiol yn Nhŷ Bwyta Masters.
www.galwaytourism.ie
www.igb.ie/galway
Mae hon yn wefan uniaith Saesneg
Nid yw S4C yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau allanol -
6/ Gogledd Cymru
10/02/2010 / 20:25Mae gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gynllun sydd yn cynnig gwyliau gweithio yng Nghymru.
Pwrpas y cwrs yw cynnig gwyliau am bris rhesymol mewn rhan unigryw a phrydferth o'r wlad gan weithio fel rhan o dîm i gynnal a chadw'r ardal naturiol dan sylw. Gallwch hefyd ddewis o ystod eang o lefydd i aros wrth i chi weithio.
Fe wnaeth Alex ac Aled gymryd rhan mewn gwyliau adeiladu waliau cerrig sych ar arfordir Ynys Môn.
www.nationaltrust.org.uk
Mae hon yn wefan uniaith Saesneg
Nid yw S4C yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau allanol
Mae Plas Tan Y Bwlch yn gartref i Ganolfan Astudiaethau Amgylcheddol Parc Cenedlaethol Eryri.
Mae'r canolfan yn ceisio darparu cyrsiau i bawb sydd yn caru cefn gwlad ac sydd eisiau gwybod mwy am yr ardal yma o Gymru.
Mae'r cwrs pysgota plu yn un o gyrsiau gorau o'i math ym Mhrydain ac fe aeth Aled draw yno. Mae'r cwrs yn trafod pob agwedd ar bysgota. O bysgota brithyll seithlliw mewn dyfroedd llonydd bach i bysgota am frithyll gwyllt yn un o lynnoedd mynyddig parc Cenedlaethol Eryri.
Tiwtor y cwrs yw neb llai na Phencampwr y Byd mewn Castio Plu, Hywel Morgan.
www.plastanybwlch.com
Mae hon yn wefan uniaith Saesneg
Nid yw S4C yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau allanol
Mae Canolfan Tryweryn ger Y Bala yn cynnig rafftio dŵr gwyn sydd yn addo cynnig profiad bythgofiadwy mewn amgylchedd naturiol. Mae'r rhediad rafftio dŵr gwyn yn un o'r rhai gorau ym Mhrydain.
Mae gweithgareddau dŵr Bala Watersports ar y llaw arall yn cynnal y gweithgareddau ar Lyn Tegid. Maen nhw'n cynnig amryw o weithgareddau gan gynnwys hwylio, hwylfyrddio, kayakio a chanŵio.
Os am lety i gyd-fynd a'r gweithgareddau dŵr gallwch wersylla ar Fferm Pant - Y March.
Mae hon yn fferm gweithio 180 erw mewn lleoliad syfrdanol yn edrych dros Llyn Tegid.
www.ukrafting.co.uk
www.balawatersports.com
www.featherdownfarm.co.uk
Mae hon yn wefan uniaith Saesneg
Nid yw S4C yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau allanol -
7/ Alban Y Ffordd i'r Ynysoedd
17/02/2010 / 20:25Mae'r teulu Lewis wedi arall gyfeirio mewn steil a throi ffermdy yn westy moethus - Monachyle Mhor.
Maen nhw hefyd yn cynnig nifer o gyrsiau difyr i'w profi wrth ymlacio.
Mae'r cyrsiau'n cynnwys gofal ieir, pobi bara, pysgota a ffotograffiaeth.
www.mhor.net
Mae hon yn wefan uniaith Saesneg
Nid yw S4C yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau allanol
Mae 'na daith car hanesyddol yn eich arwain i'r ynysoedd ar arfordir gorllewinol Perthshire.
O Fort William i Mallaig mae 'na ddeugain milltir sy'n wledd i'r llygaid. Rydych chi'n mynd trwy bentref Glenfinnan a mynd ymlaen i Arisaig a chwrs golff hudolus Traigh cyn cyrraedd Mallaig.
O fan hyn mae modd cael y fferi ymlaen i ynysoedd yr Hebrides.
www.fortwilliamcarhire.com
www.glenfinnanstationmuseum.co.uk
www.traighgolf.co.uk
Mae hon yn wefan uniaith Saesneg
Nid yw S4C yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau allanol
Taith bws tridiau o Gaeredin i Ynys Skye gyda chwmni Rabbies.
Wedi cyrraedd cewch dreulio diwrnod cyfan ar Skye ei hun yn ymweld â lleoliadau diddorol gan gynnwys Castell Dunvegan a distyllfa wisgi Talisker.
www.rabbies.com
www.dunvegancastle.com
www.discovering-distilleries.com/talisker
Mae hon yn wefan uniaith Saesneg
Nid yw S4C yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau allanol -
8/ Dwyrain Iwerddon
24/02/2010 / 20:25Mae Photo Tours Ireland yn cynnig cyngor ar leoliad ffotograffiaeth i bobl sydd â diddordeb mewn profi'r hyn sydd gan sir Wicklow i'w gynnig.
Mae'r ardal yn enwog am ei ystod o dirlun sy'n cynnwys mynyddoedd, llynnoedd, cymoedd ac arfordir syfrdanol. Mae'r ardal yn cynnig lleoliadau diddiwedd fel testun i'r camera.
Mae goleudy Wicklow wedi ei leoli ar benrhyn sy'n edrych dros y Môr Celtaidd ac sydd bellach yn eiddo i ymddiriedolaeth.
Mae'r tirlun a'r golygfeydd o amgylch y goleudy yn cynnig cefnlen berffaith i wyliau cofiadwy.
www.phototoursireland.co.uk
www.irishlandmark.com
Mae hon yn wefan uniaith Saesneg
Nid yw S4C yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau allanol
Mae Lazy Days yn gwmni teuluol ger tref Wicklow sy'n rhentu Campervan VW's gwreiddiol i ymwelwyr. Yn y VW, fe allwch chi ddilyn trywydd eich hunain a gweld tipyn o'r wlad yr un pryd. Dilynodd Aled daith a awgrymwyd gan Dwristiaeth Sir Wicklow. Yn ogystal â'n taith ni, mae Twristiaeth Sir Wicklow yn gallu awgrymu llawer o deithiau gwahanol sy'n cynnig rhywbeth at ddant pawb. Mae Lazy Days hefyd yn cynnig eich casglu o Ddulyn, ac yn gallu darparu brecwast a deunydd paneidiau am eich cyfnod yn y fan.
Powerscourt House ger Enniskerry yw tŷ a gerddi enwocaf Iwerddon. Mae'n gymysgedd o erddi ffurfiol, terasau ysgubol, llynnoedd a gerddi muriog gyda dros 200 o wahanol fathau o goed a phlanhigion o fewn y 47 erw. Cafodd y castell ei adeiladu yn y drydedd ganrif a'r ddeg, ond cafodd ei drawsnewid yn y ddeunawfed ganrif gan bensaer o'r Almaen, Richard Cassels. Mae gan y tŷ fwyty, siopau, pafiliwn gardd, galeri, ac arddangosfa o hanes y Stad.
Mae Glendalough yn ddyffryn rhewlifol ac yn enwog am fod yn safle mynachlog ganoloesol cynnar a gafodd ei sefydlu yn y chweched ganrif gan Sant Kevin. Am filoedd o flynyddoedd mae pobl wedi cael eu hudo i'r 'dyffryn dau lyn' oherwydd yr olygfa ysblennydd, ei hanes cyfoethog a'r bywyd gwyllt.
Os nad ydych chi am aros yn y fan dros nos, mae nifer o barciau gwersylla a charafanio yn yr ardal.
Mae parc carafanio Roundwood ar agor o ddiwedd Ebrill tan ddiwedd Awst bob blwyddyn ac mae'r cyfleusterau heb eu hail.
Mae genyn nhw ystafell deledu gymunedol, ystafell fwyta a chegin gynnes.
www.lazydays.ie
www.powerscourt.ie
www.glendalough.ie
www.dublinwicklowcamping.com
Mae hon yn wefan uniaith Saesneg
Nid yw S4C yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau allanol
Mae cwmni teuluol Barrowline Cruises yn Sir Laois, tua awr i ffwrdd o Ddulyn, yn darparu gwyliau ar gamlesi. Er bod modd teithio i'r gogledd ar y Grand Canal, dewisioedd Tocyn fynd tua'r de ar yr Afon Barrow gan ddechrau yn Ficarstown a gorffen ym mhentref Athy.
Mae'r daith yma yn cymryd dwy awr mewn cwch cul, er mai dim ond chwarter awr fyddai'r siwrne mewn car yn cymryd. Yn ogystal â gweld y wlad o'r gamlas, fe allwch chi aros ar y cychod cul hefyd.
www.barrowline.ie
Mae hon yn wefan uniaith Saesneg
Nid yw S4C yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau allanol -
9/ Ynys Manaw
03/03/2010 / 20:25Gan fod yr Ynys yn gartref i rasys beiciau modur TT penderfynodd Aled ddilyn agweddau o'r traddodiad rasio gan gychwyn gyda' ymweliad â chasgliad o feiciau modur yn amgueddfa A.R.E. Mae'r amgueddfa wedi'u leoli yn Kirk Michael ar gyrion cwrs rasio TT. Mae gan y perchennog gasgliad o tua 30 - 40 o feiciau, gyda phwyslais penodol ar feiciau Triumph.
Aeth Aled hefyd ar daith mewn beic modur a chytgar o Kirk Michael i Ramsey gan ymweld â Thŷ Milntown. Ystâd yw hon sydd yn cynnwys tŷ hanesyddol, gerddi helaeth, a chasgliad o hen gerbydau.
Milntown Trust yw perchnogion y tŷ yma, ac maen nhw'n rhagweld y bydd y tŷ ar agor i'r cyhoedd dros yr haf o ganol mis Gorffennaf eleni.
Os ydych chi eisiau ymweld â'r ynys adeg rasio TT, mae'r cynlyn homestay yn opsiwn da. Cynllun yw hwn lle mae pobl yn agor eu cartrefi i ymwelwyr oherwydd y chwydd anferthol yn y nifer o bobl sy'n heidio i'r ynys tros gyfnod y rasus.
www.milntown.org
Mae hon yn wefan uniaith Saesneg
Nid yw S4C yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau allanol
Os am wyliau antur ar yr ynys, mae canolfan Venture ar gyrion Ramsey yn lle delfrydol. Mae'r cwrs antur yn wych i deuluoedd ac mae'r lle hefyd yn cynnig nifer o weithgareddau awyr agored.
Hefyd, mae ganddyn nhw fyncows hunan arlwyo sy'n cynnig llety fforddiadwy. Gydag ystod eang o weithgareddau, o abseilio i gaiac, mi fydd gwyliau antur yn eich galluogi i weld yr ynys mewn ffordd hollol wahanol.
www.adventure-centre.co.uk
Mae hon yn wefan uniaith Saesneg
Nid yw S4C yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau allanol
Byddai ymweliad ag Ynys Manaw yn anghyflawn heb ymweld â'r henebion enwog. Aeth Alex i ymweld â thref Castletown, oedd yn brifddinas yr ynys am ganrifoedd.
Mae Castell Rusheen yn dominyddu iseldir y de ac mae'n bosib ei gweld hi am filltiroedd. Yn ogystal â bod yn atyniad hanesyddol trawiadol, Castell Rusheen yw'r enghraifft orau o gastell canoloesol ym Mhrydain.
Tra oedd Alex yn y cyffiniau, fe aeth hi i stiwdio Craftworks sef stiwdio cerameg wedi ei lleoli yng nghanol glyn Silverdale. Fe allwch chi gymryd rhan mewn amryw o weithdai yno gan gynnwys gwneud gemwaith a phaentio crochenwaith.
www.craftworks-studio.co.uk/silverclay.htm
Mae hon yn wefan uniaith Saesneg
Nid yw S4C yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau allanol -
10/ Cymru
10/03/2010 / 20:25Mae'r Bath Tower yng Nghaernarfon yn eiddo i'r Landmark Trust sy'n elusen a sefydlwyd yn 1965 gan y diweddar Syr John Smith a'r Arglwyddes Smith.
Fe'i sefydlwyd i achub adeiladau hanesyddol a phensaernïol diddorol sydd wedi'u hesgeuluso dros y blynyddoedd. Y bwriad oedd adfer yr adeiladau gan roi bywyd newydd iddynt fel llety gwyliau.
Mae'r llety hunan arlwyo yma'n cynnig profiad go wahanol gan ei fod yn rhan o waliau hynafol y dref sy'n tuag wyth can mlynedd oed. Yn ogystal â hynny, mae hi'n wynebu'r Fenai, felly mae un o'r ddwy ffenest yn edrych allan yn y dref, ar llall yn edrych dros yr afon. Mae hi bellach yn llety hunan arlwyo gyda phum gwely. Mae'r enw Bath Tower yn deillio o'r cyfnod pan newidiwyd yr adeilad i faddondy dan orchymyn Marcwys Môn yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
bookings.landmarktrust.org.uk/BuildingDetails/Overview/136/Bath_Tower
Mae hon yn wefan uniaith Saesneg
Nid yw S4C yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau allanolMae maes awyr Caernarfon wedi'i leoli ger traeth hyfryd Dinas Dinlle. Mae modd llogi awyren neu hofrennydd i fynd a chi am drip o amgylch lleoliadau bendigedig y gogledd orllewin; dros Ben Llŷn, Ynys Enlli, Eryri neu Sir Fôn. Yn ogystal â hynny, mae cyfle i chi fynd ar daith yn ôl mewn amser wrth ymweld ag amgueddfa'r maes awyr lle mae casgliad helaeth o awyrennau a hofrenyddion.
www.air-world.co.uk/index.htm
Mae hon yn wefan uniaith Saesneg
Nid yw S4C yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau allanol
Ger pentref hardd Ynysgynwraidd, Sir Fynwy, mae Ruthlin, sef ysgubor wedi'i drawsnewid yn llety gyda phedair ystafell wely mewn llecyn clud a phreifat.
Mae'r ardd wledig yn lledu lawr at lan Afon Fynwy ac mae'n le gwych ar gyfer picnic neu farbiciw - os yw'r tywydd yn caniatáu wrth gwrs. Yn wahanol i'r arfer, fe wnaeth Aled ac Alex wahodd ffrindiau am swper gan fod llety fel hyn yn berffaith ar gyfer criw neu deulu mawr.
www.cottage-holiday-wales.co.uk/ruthlin-barn-monmouth-self-catering-wales.shtml
Mae hon yn wefan uniaith Saesneg
Nid yw S4C yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau allanolAr gyfer y wledd, aeth y ddau i siop fferm Pengethley i brynu ffrwythau a llysiau tymhorol, gyda nifer ohonynt wedi eu cynhaeafu'r bore hwnnw.
www.pengethleyfarmshop.com
Mae hon yn wefan uniaith Saesneg
Nid yw S4C yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau allanolAr lethrau deheuol Trefynwy mae gwinllan Ancre Hill. Dros y ddegawd ddiwethaf mae'r winllan wedi tyfu ac maen nhw bellach yn cynhyrchu pedwar math gwahanol o win. Fe allwch chi gerdded y winllan yn dysgu am y ffrwyth a chael gwers ar sut i'w flasu a'i werthfawrogi.
www.ancrehillestates.co.uk
Mae hon yn wefan uniaith Saesneg
Nid yw S4C yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau allanol
Os am gael blas ar wyliau hunan gynhaliol mewn steil, mae'r cabannau pren moethus yng Nhaersws yn cynnig yr ateb perffaith.
Gallwch fwynhau gwyliau heddychlon mewn ardal dawel gyda digonedd o weithgareddau i'ch cadw chi'n ddiddig yn y cyffiniau. Maen nhw hefyd yn cynnig amrywiaeth eang o driniaethau harddwch i'ch ymlacio yn ystod eich arhosiad.
www.luxury-lodges-wales.com
Mae hon yn wefan uniaith Saesneg
Nid yw S4C yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau allanolYng nghanolfan Mid Wales Off Road, ym mhentref Aberhafesb, maen nhw'n cynnig rhywbeth i bawb. Fe allwch chi saethu paent, marchogaeth ceffylau, rasio cartiau mwd, neu hyn yn oed gyrru jac codi baw.
www.midwalesoffrd.co.uk
Mae hon yn wefan uniaith Saesneg
Nid yw S4C yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau allanol -
11/ Llydaw
17/03/2010 / 20:25Aeth Aled i ddysgu sut mae gwneud ffenestri gwydr lliw yn Nhy Skol yn ne Llydaw. Mae'r ystafell ddosbarth yn lle perffaith i chi feistroli sgiliau newydd gyda golau yn llifo i mewn drwy'r ffenestri enfawr. Mae'r lle'n ddelfrydol i werthfawrogi'r gwydr gyda'r lliwiau a phatrymau hardd.
Wrth fynychu cwrs yn Nhy Skol, gallwch hefyd aros yno. Mae'r lleoliad yn berffaith i deithio o gwmpas cefn gwlad Llydaw.
www.tyskol.com/5.html
Mae hon yn wefan uniaith Saesneg
Nid yw S4C yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau allanolTra ar weithdy un diwrnod yn Nhy Skol, penderfynodd Aled aros yn Gites Lenvos ar lan afon Blavet yn Ne Llydaw. Roedd 'na bentref bychan yma flynyddoedd yn ôl oedd yn cynnwys melin ddŵr, becws a llyn pysgod ar gyfer y gymuned leol.
Erbyn hyn mae yna bedwar hen fwthyn hunan arlwyo bendigedig sy'n dal hyd at chwech o bobl ym mhob un. Mae'r bythynod yn hyfryd, ond y prif atynniad yw cymeriad y lle a'r golygfeydd anhygoel.
www.grasshopper-hosting.co.uk/Lenvos%20Gites
Mae hon yn wefan uniaith Saesneg
Nid yw S4C yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau allanol
Mae'r cwmni gwyliau BLB Tourism France yn un o amryw o gwmnïau sy'n cynnig teithiau wedi'i teilwra'n arbennig i'ch gofynion chi.
Aeth Aled ac Alex i Vannes sy'n dref dlos ar arfordir deheuol Llydaw. Mae'r strydoedd yn llawn cymeriad ac yn frith o siopau boutiques drud. Tra yn Vannes, aethon nhw i La Maison d'Armorine, lle mae cogyddion 'Artisan' traddodiadol yn gwneud cacennau a losin traddodiadol. Fe allwch chi weld y broses ac, wrth gwrs, blasu'r cynnyrch.
Fe aethon nhw hefyd i fferm wystrys traddodiadol lle mae crancod, cimwch a chregyn o bob math yn byw yn eu cynefin naturiol.
www.blb-tourisme.com
Mae hon yn wefan uniaith Saesneg
Nid yw S4C yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau allanol
Yng nghanolfan breswyl Ti Forn mae modd cael gwyliau mewn lleoliad hyfryd wrth fwynhau cyrsiau o bob math. Maen nhw'n cynnal cyrsiau ieithoedd, arlunio a chelf, ysgrifennu creadigol neu ffilm a theatr.
Aeth Alex ar gwrs Fireside French gyda'r bwriad o ddysgu digon o'r iaith i fedru cynnal sgwrs syml gyda phobl leol ger coelcerth o dân.
Mae cyrsiau Ti Forn wedi lleoli mewn adeilad sydd wedi cael ei adnewyddu i greu canolfan celfyddydau pentref Le Quiou. Gallwch hefyd aros yn un o'r pum ystafell gwely ensuite.
www.tiforn.com
Mae hon yn wefan uniaith Saesneg
Nid yw S4C yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau allanol





























