s4c - y ty cymreigs4c - y ty cymreig
s4c - Y Ty Cymreig

Mae Y Tŷ Cymreig, a gyflwynir gan Aled Samuel a'r arbenigwr ar bensaernïaeth Dr Greg Stevenson, yn adrodd hanes pensaernïol a chymdeithasol y cartrefi, yn ogystal â chwrdd â’r cymeriadau sy’n byw ynddynt heddiw.

"Mae rhai o'r llefydd sydd i'w gweld yn y gyfres yma'n wych," meddai Dr Stevenson o Brifysgol Llanbedr Pont Steffan. "Byddwn ni'n gweld cerbyd o drên y Frenhines Victoria ei hun, tŵr gothig chwe llawr a thŷ newydd sbon rhyfeddol sydd wedi'i adeiladu o fwndeli o wellt!."

Mae cynhyrchwyr y gyfres, Fflic, wedi dewis chwe chategori o dai i'w dangos y tro hwn. Mae'r daith genedlaethol i chwilio am dai wedi bod yn llwyddiannus iawn ac maen nhw wedi dod ar draws nifer o emau go iawn..

"O neuadd-dy hynafol sy'n dyddio 'nôl dros 500 can o flynyddoedd i dŷ cyfoes amgylcheddol sydd mor Gymreig y defnyddir poteli Tŷ Nant yn ei seiliau, rydyn ni wedi gweld y cyfan wrth ffilmio'r gyfres hon," meddai Dr Stevenson.

"Dylai teledu da agor ein llygaid i syniadau newydd ac yn sicr rwyf wedi dysgu cryn dipyn drwy ymchwilio a ffilmio'r gyfres hon," meddai. "Mae ymweld â'r tai hynod yma a chwrdd â'r cymeriadau sy'n byw ynddyn nhw wedi fy nysgu bod yna dŷ mas yna i weddu i bawb yng Nghymru. Rwy'n credu ein bod ni wedi ffeindio rhai arbennig y tro yma, llefydd sy'n wir yn rhoi Cymru ar y map pensaernïol."

dylunio a chynhyrchu gan