s4c - y ty cymreigs4c - y ty cymreig
y ty cymreig - dyffryn camwyy ty cymreig - dyffryn camwy

Cymry oddi cartref
Bu’n rhaid i Aled a Greg deithio’n bell i ddod o hyd i gasgliad rhyfedd o gartrefi Cymreig – yr holl ffordd i’r Wladfa, sef y gornel fechan o Dde America lle ymsefydlodd y Cymry dros 140 o flynyddoedd yn ôl. Fe ymwelodd y ddau ditectif-tai â chartrefi a adeiladwyd gan yr ymfudwyr Cymraeg cyntaf a laniodd fan yma, a chawsant eu taro gan yr hyn a welsant - bythynnod Cymreig heb eu sbwylio, ffermdai traddodiadol a chapeli.

Meddai Greg mai’r hyn a wnaeth eu hymweliad mor arbennig oedd y bobl a’u croeso, yn enwedig wrth ystyried eu bod nhw mewn sawl ffordd yr olaf o’u math. “Er bod nifer o bobl yn gallu siarad Cymraeg ym Mhatagonia, mae’r rhai sy’n ei siarad yn naturiol fel iaith yr aelwyd yn brin. Rydym wedi recordio’r olaf mewn cenhedlaeth yn y rhaglenni hyn, ac oherwydd bod nifer ohonynt yn hen rydym wedi medru dal eu hatgofion nhw o’r ‘Hen Ffordd Gymreig o Fyw’ yn eu tai traddodiadol.

“Fe fyddem wedi medru ffilmio cyfres gyfan yno yn hawdd,” ychwanega Greg. “Roedd y dirwedd yn llawn o dai heb eu cyffwrdd, heb eu newid...ac roedd y bobl mor groesawgar ac mor barod i’n helpu i ddarganfod hanes y Cymry yn eu hardaloedd.”

Yn rhaglen gyntaf y gyfres ymwelodd Greg ac Aled â Dyffryn Camwy, yr ardal lle ymgartrefodd y Cymry ar ôl i’r Mimosa lanio ym Mhatagonia yn 1865. “Mae’r dirwedd sych, gwastad fel anialwch,” meddai Greg. “Mi wnaeth o roi sioc go iawn i mi, mae mor wahanol i Gymru - gwlad y cowboi go iawn! Mae’n rhaid fod bywyd wedi bod yn galed iawn, iawn ar y dechrau, ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu gan y bythynnod syml, gwledig a adeiladwyd gan y Cymry cyntaf yno.”


Tŷ cyntaf y Gaiman
Adeiladwyd y tŷ hwn o gerrig gan David Roberts o Lanfihangel y Pennant yn 1874, ac mae’n dilyn cynllun traddodiadol Cymreig. Yn wreiddiol roedd ganddo to gwellt, ond bellach mae’n sinc. Fodd bynnag mae golwg gweddill y tŷ yn debyg iawn i’r dyddiau cynnar, gan i’r adeilad bellach fod yn amgueddfa.

Tair cenhedlaeth o atgofion
Ar Heol Michael D. Jones yn y Gaiman saif y tŷ un llawr hwn, sydd yn steil gynhenid y Dyffryn, er mai o Gymru y daeth y ffenestri. Mae’r holl dŷ yn llawn hanes y Cymry yn y Wladfa : yn y gegin mae sampler bendigedig a wnaethpwyd ar fwrdd y Mimosa gan nain y perchennog ar ei thaith o Lerpwl i’r Ariannin.

Hyde Park
Cafodd fferm Hyde Park ei enwi ar ôl tref ym maes glo Pennsylvania, o ba le ddaeth y teulu i Batagonia. Mae’r adeilad yn dyddio o’r 1890au, ac mae’r cynllun yn nodweddiadol o dai Patagonia: dyma dŷŷ sgwâr â phedair ystafell. Ond mae nodweddion Cymreig hefyd, fel y cypyrddau naill ochr y simnai.

Capel Salem
Adeiladwyd y capel bach yma ym 1912. Er bod y tu allan wedi'i wneud allan o sinc, ar y tu mewn mae'n edrych yn union fel capel Cymraeg yn yr hen wlad.

dylunio a chynhyrchu gan