s4c - y ty cymreigs4c - y ty cymreig
s4c - cottages
Bydd y rhaglen olaf yn y gyfres hon o’r Tŷ Cymreig yn olrhain y datblygiadau a arweiniodd tuag at y tai cyfoes sy’n gyfarwydd i ni heddiw.

Yn ôl arbenigwr pensaernïol y gyfres, Dr Greg Stevenson, mae’r rhaglenni wedi dangos dilyniant yng nghynlluniau Cymru ar hyd yr oesoedd, a bod dyfeisgarwch y pensaer i’w weld yn ym mhob math o dy, o neuaddau mawreddog y 16eg Ganrif hyd at y creadigaethau blaengar cyfoes. "Does dim ots os ydym ni’n trafod bythynnod diymhongar neu blastai mawr, mae tai rhyfedd, unigryw i’w gweld yng Nghymru. Ond a ydyn nhw’n dai sy’n hanfodol Cymreig? Wel, i mi, does dim y fath beth â ‘Thy Cymreig’ yn yr ystyr bod rhyw deip o dy sy’n unigryw i Gymru ac sydd i’w weld ym mhob cornel y wlad. Ond yr hyn sydd gennym yw pensaernïaeth ranbarthol sy’n gyfoethog ac yn amrywiol, lle mae’r tai wedi’u hadeiladu mewn dull sy’n nodweddiadol i’r ardal honno gan ddefnyddio deunydd lleol."

Tŷ Cymreig y Dyfodol?

Ychwanega Greg "Ac nid yw’r traddodiadau hyn wedi darfod. Mae tai fel Malator yn dyst i’r ffaith bod dyfeisgarwch yng nghynlluniau tai Cymreig mor gryf heddiw ag erioed". Mae’r cartref syml hwn yn symud i ffwrdd oddi wrth y traddodiadau adeiladu hanesyddol a lleol ac yn creu cartref ar gyfer bywyd modern. Mae Malator yn cwmpasu byw yn yr unfed ganrif ar hugain, gyda’i aelwyd agored, ei soffa siâp C a’i ystafelloedd gwely hamddenol, gwyn, gyda’r lliwiau’n dod o’r tywydd cyfnewidiol y tu allan.


Edrycha’r rhaglen hefyd ar dai eraill o’r 20fed Ganrif a oedd yr un mor radical yn eu hamser, er enghraifft tŷ crand o deyrnas Edward VII ym maestrefi Caerdydd a thŷ ‘semi’ yn Nhyddewi sy’n dyddio o’r 1930au. Nid yw hwn wedi newid llawer ers iddo gael ei adeiladu – dim ond un perchennog sydd wedi bod ar y tŷ – ac yn ôl bryd hynny roedd yn rhywbeth newydd, moethus i gael trydan ym mhob ystafell a dwr oer a phoeth yn syth o’r tap.

Hefyd, bydd y pensaer Prys Edwards yn trafod ei yrfa, gan ddangos y cartref trawiadol a adeiladodd yn y 60au, Bryn Aberoedd yn Aberystwyth.

dylunio a chynhyrchu gan