Gwyrddni oddi Gartref
Ar gyfer yr ail raglen sy’n edrych ar dai Cymreig ym Mhatagonia, fe deithiodd Aled Samuel a Greg Stevenson tua’r gorllewin at droed yr Andes, i Gwm Hyfryd wrth ymyl y ffin â Chile.
Meddai Greg: “Wrth i un deithio heddiw o’r anialwch sych yng ngwaelod Dyffryn Camwy i fyny at wyrddni mynyddoedd yr Andes, fe allwch ddychmygu’r arloeswyr Cymreig yn ochneidio mewn rhyddhad wrth iddynt ddarganfod y dirwedd gyfoethog. Fan yma o’r diwedd roedd tirwedd i’w hatgoffa o’u cartrefi, â mynyddoedd serth, bryniau gleision ac afonydd bywiog yn rhedeg i lawr cymoedd ffrwythlon. Ac fel y gwelsom ni, aethant ati yn y baradwys bell hon i adeiladu cartrefi a adlewyrchai bensaernïaeth y tai nôl gartref.”
Roedd amrywiaeth mawr yn yr adeiladau yr ymwelodd â nhw, o gartrefi diymhongar i gartrefi crand. Ond, fel sy’n wir bob tro gyda’r Tŷ Cymreig, yr hyn a wnaeth y profiad yn un arbennig i Greg ac Aled oedd sgwrsio gyda’r perchenogion, yn enwedig yn y gornel fach hon o Gymru sydd mor bell o gartref. Roedd yn werth y daith hir, flinedig i gyrraedd Cwm Hyfryd i gael y cyfle i glywed disgynyddion rhai o’r ymsefydlwyr gwreiddiol yn cloncian yn y Gymraeg fel eu hiaith gyntaf.
I Greg yr uchafbwynt oedd cyfarfod â Victor Ellis a’i wraig Delfina yn eu bwthyn Cymreig traddodiadol, wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer symud i dŷ modern. “Roedd yn brofiad emosiynol ac ro’n i’n teimlo ein bod wedi dal eiliad mewn hanes. Fe wnaethon ni yn wir ddal rhywbeth cyfareddol gyda’r darn yma o ffilm.”