s4c - y ty cymreigs4c - y ty cymreig
s4c - tai hir s4c - y ty cymreig
Y Tai Cymreiciaf o’r Tai Cymreig
Dywed Greg Stevenson, arbenigwr Y Tŷ Cymreig ar bensaernïaeth Cymru, “Pe tasai rhaid imi ddewis dim ond un math o adeilad i gynrychioli etifeddiaeth bensaernïol Cymru, mae’n siwr y byddwn yn dethol tŷ hir”.

“Er nad yw’r syniad o dŷ hir, lle mae pobl a’u hanifeiliaid yn byw ochr-yn-ochr o dan un to, yn unigryw i Gymru, fe barhaodd y math yma o dŷ yn hirach yng Nghymru na mewn llefydd eraill, ac mae ’na fyw ohonynt ar hyd a lled y wlad. Oherwydd hyn, fe ddechreuodd sylwebyddion ddefnyddio’r rhagddodiad ‘Cymreig’ i ddisgrifio’r tai hir, yn yr un modd â bod rhywun yn disgrifio hen ddreser chwaethus fel un ‘Cymreig’. Erbyn hyn ystyrir y tai hir yn rhan bwysig o’n hetifeddiaeth bensaernïol.”

Fel canlyniad i’r parch mawr sydd i’r tai hyn, mae nifer wedi’u hadfer dros y degawd diwethaf, fel y gwelwn gyda rhai o’r enghreifftiau yn y rhaglen.

Un o’r nodweddion sy’n gwneud tai hir Cymreig yn arbennig yw’r ffordd y rhennir mynedfa’r tŷ â’r gwartheg. Yn Lloegr roedd y syniad o rannu’r un drws â’r da byw yn wrthun erbyn y 17eg Ganrif, gan fod yr anifeiliad yn dod â baw mewn i’r tŷ gyda nhw, ond mae sawl enghraifft o dai hir Cymreig o’r cyfnod yn cadw’r nodwedd hon. Eglura Greg, “Mae gwartheg erioed wedi bod yn werthfawr, ac felly roedd yn ddefnyddiol i’w cadw nhw’n agos, ac o fewn clyw drwy’r nos. Bu gan rai tai hir ddrws a arweiniai o’r brif ystafell wely yn syth i mewn i ardal fwydo’r beudy, gan sicrhau bod y perchenogion yn gallu cyrraedd yn syth pe bai unrhyw broblem.”

Yn wir, mae ymchwil wedi dangos bod perchenogion gwreiddiol Nannerth Ganol, yng Nghwm Elan, ynghlwm â busnes lladrata gwartheg nôl yn y 16eg a’r 17eg Ganrif. Erbyn heddiw, mae’r gwartheg wedi’u gwahardd, ond mae nifer o nodweddion y tŷ o gyfnod y Tuduriaid wedi’u hadfer yn grefftus. Mae’r simnai fendigedig a’r ffenestri’n wreiddiol i’r tŷ, ac hefyd y grisiau cerrig yn troelli i’r llofft.

Ceir enghraifft hynod arall o dŷ hir ym Mannau Brycheiniog, wedi’i hadfer yn grefftus gan Dr Russell Rhys, gan gyflwyno dim ond y lleiaf o nodweddion cyfoes. Ni ychwanegwyd llofftydd i’r adeilad, ac felly mae wedi para’n un gofod mawr, gyda’r beudy ynghlwm. Ni does na theledu na soffa, ac felly mae awyrgylch hynafol y tŷ wedi parhau. Yn ogystal â’r casgliad hyfryd o gelfi plaen Cymreig, y nodwedd sy’n sefyll allan yn yr ystafell yw’r maen pentan anferth sy’n eistedd uwchben y tân.

Tŷ hir arall yng Nghwm Elan sy’n ymddangos ar y rhaglen yw Llannerch y Cawr, sy’n hyfryd ar y tu-mewn, yn enwedig y nodweddion lan lofft fel y nenffyrch gwreiddiol hardd. Mewn gwrthgyferbyniad, mae Nant-y-Fedw yng Nghwm Afan yn enghraifft wreiddiol o dŷ hir sydd heb newid llawer ers y 17eg Ganrif.


Cliciwch ar y lluniau isod i ymweld â'r oriel
Tau Hir Tau Hir
Tau Hir Tau Hir
Tau Hir Tau Hir
Tau Hir Tau Hir