Byw mewn Tai Gwyrdd
Mae pawb bellach o blaid y cysyniad o fyw bywyd mewn dull sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd. Mae bwydydd organig wedi symud o’r siopau arbenigol i’r archfarchnadoedd, ac mae arferion a ystyriwyd unwaith yn ‘hippy’ bellach yn cael eu dilyn gan bawb. Gan ystyried bod diwydiant adeiladu tai bellach ymysg y cynhyrchwyr mwyaf o lygredd ym Mhrydain, mae’r amser wedi dod i wneud rhywbeth am y broblem, ac fel y gwelodd Greg ac Aled yn y rhifyn hwn o’r Tŷ Cymreig, mae meddwl yn nhermau gwyrdd yn gallu gwneud llawer i wella’r sefyllfa.
Mae’n orchwyl anodd i gael pobl i weithredu i sicrhau bod eu tai’n cael eu hadeiladu mewn ffordd fwy cyfeillgar i’r amgylchedd oherwydd nad ydynt yn gweld y llygredd sy’n dod wrth gynhyrchu nwyddau fel sment a ffenestri plastig. Gan fod y rhain yn bethau safonol y mae pawb yn eu prynu, mae’n ymddangos yn dderbyniol i’w defnyddio.
Ond meddai Greg “Pe bai pob tŷ ym Mhrydain yn cael ei adeiladu yn dilyn y canllawiau gorau, byddem yn arbed rhyddhau dros 100,000 o dunelli o CO2 i’r amgylchedd bob blwyddyn, a byddai tua £12m llai yn cael ei wario ar danwydd. Ond rydym yn sôn am rywbeth amgenach fan hyn nag am ychwanegu mwy o insiwleiddio i’r tai - mae’n rhaid i’r adeiladwyr ystyried yr effaith a gânt ar yr amgylchedd o’r cychwyn cyntaf. O ble mae’r defnydd yn dod; faint o newid oedd i’r amgylchedd wrth eu cynhyrchu; sut fydd y rhain yn cael eu defnyddio yn y pendraw?”
Mae’r rhifyn hwn o’r Tŷ Cymreig yn mynd ar wibdaith o gwmpas pum enghraifft arbennig o adeiladu gwyrdd: gobeithio bydd y rhain yn eich ysbrydoli i weld beth allwch chi ei wneud i wella’ch tŷ eich hunan, neu i gynllunio eich cartref delfrydol.