Adeiladu Tŷ Unnos
Mae traddodiad y ‘Tŷ Unnos’ yn un sy’n mynd nôl ganrifoedd yn hanes Cymru. Roedd y fath yma o dai yn gyffredin iawn yn ucheldiroedd Cymru ar ddiwedd y 18fed Ganrif a dechrau’r 19fed Ganrif, sef cyfnod pan gafodd darnau helaeth o dir Cymru eu hamgáu, gan adael nifer fawr o bobl dlawd heb unrhyw dir ar gyfer pori eu hanifeiliaid. Un ateb oedd i’r bobl adeiladu ‘Tŷ Unnos’ ar y tir comin nad oedd neb arall ei eisiau (fel arfer wrth ochr yr heol neu ar dir uchel). Dywed yr hen draddodiad os oedd unigolyn yn gallu adeiladu tŷ dros nos ar dir comin fel bod mwg yn codi o’r simnai erbyn y bore, byddai ef yn dod yn berchennog y tir o’i gwmpas os nad oedd neb arall yn hawlio’r tir yn y flwyddyn gyntaf.
Erbyn hyn, mae pob tŷ unnos gwreiddiol wedi hen ddiflannu, ond mae hyn yn egluro pam mae cymaint o fythynnod ar hyd a lled Cymru wledig, yn sefyll ar ben eu hunain: hen dai unnos oedden nhw.
Fodd bynnag, fe ddaeth un gymuned yng nghefn gwlad Cymru at ei gilydd i geisio ail-greu’r hen draddodiad, gan adeiladu Tŷ Unnos yn ôl yr hen arferiad – yn llythrennol mewn dim ond un noson.
Y dyn y tu ôl i’r fenter oedd Dorian Bowen, syrfëwr o Drelech a’r Betws yn Sir Gaerfyrddin. Yr hyn a sbardunodd ei ddiddordeb yn hanes y Tŷ Unnos oedd llun o fwthyn ym Mhorth Rhyd ger Pontrhydfendigaid. Roedd yn benderfynol o’i ail greu. Felly aeth ati i gyflwyno’r her i’w deulu a’i ffrindiau a llwyddodd i gasglu 60 o bobl ynghyd i daclo’r sialens.
Roedd Dorian eisoes wedi cael y profiad o adnewyddu hen dŷ gan ei fod wedi creu cartref cysurus o hen furddun ac ar dir y cartref hwnnw y bwriadai godi’r tŷ unnos.
Roedd yn gwybod felly fod trefnu pethau o flaen llaw yn bwysig. “Mi roedd 'na dipyn o drefn gennym ni, ac roedd y gwaith pwysig o hel deunydd - coed, brwyn, rhedyn - wedi ei wneud o flaen llaw, gyda phopeth wedi dod o’r tir o gwmpas. Ond mi roedd 'na shwt gymaint i’w wneud ar y noson.”
Roedd y criw yn llawn brwdfrydedd ac yn edrych ymlaen at y dasg o’u blaenau. Ond doedd neb wedi rhagweld y byddai’r tywydd mor wael, a hithau ym mis Medi. Yn anffodus, beth oedd yn eu hwynebu oedd cynffon corwynt Gordon a oedd wedi creu hafoc mewn rhannau eraill o’r byd cyn troi am Gymru fach.
“Mi roedd hi’n eitha’ brawychus,” esbonia cyd-gyflwynydd y gyfres, Aled Samuel. “Roedd y gwynt yn rhuo a’r glaw yn hyrddio ond roedd pawb yn benderfynol o gario ‘mlaen trwy’r nos.”
A lwyddodd Dorian a’i griw i godi’r tŷ, gan weld y mwg yn dod o’r simnai ar doriad gwawr? Neu ai corwynt Gordon fyddai’n eu gorfodi i roi’r ffidil yn y to?
tudalen 2
|
 |
| Cliciwch ar y lluniau isod i ymweld â'r oriel |
 |
 |
 |
 |
|
 |
 |
|
 |
 |
|