Adeiladu Tŷ Unnos
Roedd arbenigwr Y Tŷ Cymreig, Greg Stevenson, wrth ei fodd yn gweld ail-greu yr hen arfer gwledig. “Roeddwn yn ymwybodol nad oeddem ni wedi sôn yn y cyfresi gynt am dai unnos, ac felly roeddem ni wedi colli agwedd bwysig o hanes tai Cymru. Wrth gwrs, gan fod pob un o’r enghreifftiau gwreiddiol wedi cael eu difa neu eu hail-adeiladu, roedd yn gysyniad anodd ei bortreadu. Felly roedd yn ffantastig ein bod ni’n gallu ymuno â Dorian a phobl Trelech wrth iddynt fentro ail-afael ar yr hen draddodiad.”
“Ond yr hyn rwy’n credu sy’n gwneud hon yn rhaglen arbennig yw cael gweld sut ddaeth cymuned wledig at ei gilydd er mwyn gwireddu’r freuddwyd. Roeddwn yn gwybod am draddodiad y tŷ unnos o’r cofnodion hanesyddol, ond nid oeddwn wedi sylweddoli cymaint o hwyl fyddai’r broses yn creu, wrth i bawb yn y gymuned ddod at ei gilydd â’r un bwriad. Roedd gweithio ar y cyd yn cryfhau’r rhwymyn oddi fewn i deuluoedd, ac oddi fewn i’r gymuned. Y dyddiau hyn, rydym yn anfodlon rhannu ein heiddo a’n tai, ond mae’r bwthyn bach to gwellt yma’n perthyn mewn ffordd i’r holl gymuned. Bydd pawb a oedd yno yn cofio’r broses o’i adeiladu yn hir, ac yn gyfoethocach eu byd o’r herwydd”
nôl i dudalen 1
|
 |
| Cliciwch ar y lluniau isod i ymweld â'r oriel |
 |
 |
 |
 |
|
 |
 |
|
 |
 |
|