s4c - y ty cymreigs4c - y ty cymreig
s4c - cottagess4c - cottages

Llafur Cariad

Pan fo pobl heddiw'n ennill gwobr neu deitl arbennig, yr arferiad yw dathlu trwy drefnu parti neu fwynhau pryd o fwyd ffansi ac agor potel siampên. Dyna a wnaeth Joseph Huddart i ddathlu coroni Brenin Siôr IV ym 1821 - ond fe aeth hefyd gam ymhellach trwy godi tŵr gothig godidog yng Nghwm Pennant, Eryri.

Pe na bai'r tŵr yn enghraifft wych o bensaernïaeth neo-ganoloesol, fe fyddem ni'n lladd arno am fod braidd yn ffuantus. Cewch gyfle i weld y tŵr hwn a thri chartref rhyfeddol arall yr wythnos hon ar y Tŷ Cymreig.


Twr Bryncir
Roedd y ffug-dŵr chwe-llawr, ffasiynol hwn, yn dyst i gyfoeth (a balchder) ei adeiladwr am ddegawdau lawer, cyn dirywio maes o law.

Poultry House
Enghraifft arall o bensaernïaeth llawn dychymyg y 19g yw Poultry House ar ystâd Leighton, Tre'r llai ger y Trallwng, sydd bellach dan ofal Ymddiriedolaeth Landmark.

Penwhilwr
Y newyddion da yw bod pobl yn dal i godi tai unigryw a diddorol, fel y gwelsom ym Mhenwhilwr, Llandudoch, ger Aberteifi.

Min-Y-Mor
Ond Min-y-môr, hen gerbyd trên wedi'i addasu, sydd wedi denu'n sylw i.

dylunio a chynhyrchu gan