Twr Bryncir
Roedd y ffug-dŵr chwe-llawr, ffasiynol hwn, yn dyst i gyfoeth (a balchder) ei adeiladwr am ddegawdau lawer, cyn dirywio maes o law. Erbyn iddo ddod i law ei berchennog presennol, Richard Williams, roedd ysblander Sioraidd y tŵr gwreiddiol wedi pylu rhywfaint.
‘Doedd dim to yno o gwbl, ac roedd y lloriau wedi pydru'n llwyr. Felly, roeddech chi'n gallu sefyll y tu mewn ar y llawr isaf, ac edrych i fyny heibio chwe llawr i weld yr awyr,' meddai Richard, a wyddai o'r dechrau bod her a hanner o'i flaen. Roedd y ffenestri wedi hen bydru neu rydu, a dim ond yr hen risiau cerrig y tu mewn i'r mur allanol oedd yn dal mewn un darn. Er yn brydferth o bell, roedd 'Tŵr Bryncir' mewn tipyn o lanast.
Yn ffodus, daeth mudiad Cadw i'r fei, gan fod y tŵr yn Adeilad Rhestredig Gradd II*, gan adlewyrchu ei bwysigrwydd fel un o'r 5% o brif Adeiladau Rhestredig y DU. Diolch i grant gan Cadw a chyfraniad sylweddol o goffrau Richard ei hun, cafodd y tŵr ei adfer i'w hen ogoniant.
'Roedd cynllun y tŵr yn syml dros ben - dim ond un ystafell ym mhob llawr, ffenestr o boptu pob ystafell, a chwe llawr yn ymestyn 20 metr o uchder...heb anghofio'r holl risiau,' gwena Richard, sydd wedi gwneud mwy na'i siâr o'u dringo nhw.
'Sdim angen gwneud ymarfer corff wrth weithio yma - mae cerdded i fyny ac i lawr o lolfa'r llawr uchaf i'r gegin ar y llawr isaf yn eich cadw chi'n iach fel cneuen!
Oherwydd uchder a chynllun anarferol yr adeilad, roedd y gwaith adfer yn un go ddrud a llafurus,
'Mae'n rhaid i chi ddewis eich dodrefn yn ofalus iawn mewn adeilad fel hwn,' meddai Richard, ‘Er mor wych yw'r grisiau cerrig , maen nhw'n gul iawn, ac ni fydd eich soffa arferol yn ffitio yma. Roedd rhaid i ni hyd yn oed dynnu ffenestr allan er mwyn rhoi bath yn ei le gyda winsh.'
Mae'r canlyniadau'n werth chweil, ac mae'r tŵr gorffenedig yn brawf o ffrwyth llafur caled y tîm. Mae'r adeilad ar ei newydd fel rhywbeth o fyd y tylwyth teg. Ond, ar ôl chwysu chwartiau ar brosiect adfer 18 mis, fyddai Richard yn torchi llewys ar waith tebyg eto?
'Byddwn i'n fwy na pharod i ddechrau o'r dechrau eto,' honna Richard, 'ond dwi'n amau os bydd swyddogion cynllunio'n rhoi sêl bendith i'r fath beth heddiw!'
|
 |
| Cliciwch ar y lluniau isod i ymweld â'r oriel |
 |
 |
 |
 |
|
 |
 |
 |
 |
|
 |
 |
|